Mae cyfarwyddwr sioe fwyaf boblogaidd Eisteddfod yr Urdd hyd yn hyn wedi estyn gwahoddiad arbennig i aelodau panel o Gyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn dod i benderfynid ynglŷn â thoriadau i ddod i weld ardderchowgrwydd ar waith.
Yn siarad ar Faes yr Eisteddfod ddoe dywedodd Jeremy Turner o gwmni theatr mewn addysg Arad Goch i'r panel ddweud mai chwilio am "ardderchowgrwydd" fydd o wrth ddod i benderfyniad.
"Mae ardderchowgrwydd yn gysyniad goddrychol iawn ac mae rhywbeth sy'n ardderchog i mi yn wahanol iawn i beth sy'n ardderchog i rywun arall," meddai Mr Turner a fu'n gyfrifol am gyfarwyddo sioe ieuenctid yr Eisteddfod, Plant y Fflam sydd wedi llenwi Theatr Felinfach gyda phob perfformiad ac wedi ei chanmol gan bawb.
"Does wybod beth fydd penderfyniad panel Cyngor y Celfyddydau lai na mis i nawr," ychwanegodd Mr Turner, "Dwi ond yn gobeithio y do nhw i'r Eisteddfod , y do nhw i weld Plant y Fflam i weld ardderchowgrwydd gwaith pobl ifainc Ceredigion."