Yr oedd tair cenhedlaeth o 'ymherodraeth' yr Urdd yn bresennol mewn parti ar y maes heddiw i ddathlu cynllun gefeillio newydd.
Yr oedd y parti yn gyfle i blant dwy ysgol, un yn Aberystwyth a'r llall yn Y Barri gyfarfod a chael picnic i ddathlu cynllun sy'n cael ei alw yn Ffrindiau Da.
Awgrymwyd y cynllun y llynedd gan Prys Edwards, Llywydd Anrhydeddus yr Urdd a mab i sefydlydd y mudiad, Syr Ifan ab Owen Edwards.
Deilliodd y syniad o'r ffaith fod ganddo ef wyresau yn y ddwy ysgol, Ysgol Gwaun y Nant, Y Barri, ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac yr oedd y parti - gyda theisen wrth gwrs - yn gyfle i gynrychiolwyr o'r ddwy ysgol rannu profiadau'r misoedd diwethaf.
"Dechreuodd y syniad yma yn ein cartref ni wedi i'n hwyresau gael eu geni. Roedd dwy ohonynt yn byw yn Y Barri ac yn mynychu Ysgol Gwaun y Nant, a bydd ein hwyres arall yn mynychu Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
"Gwelsom yn fuan y byddai magwraeth y plant yn y ddwy ardal yn gwbl wahanol, o ran yr iaith, eu gweithgareddau cymdeithasol a'r dylanwadau arnynt," meddai.
"Unwaith i ni ddeall fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Geredigion, roeddem fel teulu yn awyddus i gefnogi menter newydd, gan drafod y syniad o efeillio plant gyda'i gilydd o fewn yr Urdd.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd ehangu gorwelion y rhai ifanc yn sicrhau gwell dylanwad a chreu gwell dealltwriaeth arnynt o'n diwylliant, treftadaeth, iaith a'n traddodiadau. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at gael dylanwad ar rieni, wrth iddynt hwythau hefyd ddysgu llawer mwy am y mudiad ieuenctid gwych hwn!" ychwanegodd.
Ers cyfarfod gyntaf ym Mae Caerdydd fis Mai 2009, mae'r plant o dde a chanolbarth Cymru wedi cwrdd ddwywaith yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a chymaint y llwyddiant mae'n fwriad ei ymestyn yn awr i gynnwys ysgolion eraill.
"Pwrpas y cynllun yw dod â phlant a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd ar draws Cymru ynghyd, datblygu hunaniaeth a datblygu'r ymdeimlad o berthyn i gymuned, trwy ddefnyddio dulliau gwahanol o gyfathrebu megis e-bost, llythyrau a thripiau a drefnwyd ar eu rhan," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
Canmolodd Gareth James, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ddylanwad y cynllun ar y plant yn ystod y flwyddyn:
"Mae'r plant o'r ysgol hon a Gwaun y Nant wedi cael hwyl garw yn ystod y flwyddyn.
Yn ogystal â chyfarfod wyneb yn wyneb, rydym hefyd wedi bod yn anfon e-byst, postio pecynnau gwybodaeth am ein hardaloedd a thrafod yr hyn rydym yn mwynhau ei wneud yn ein hamser hamdden yn y ddwy ardal," meddai.
"Ychydig cyn yr Eisteddfod, derbyniodd disgyblion blwyddyn 6 ein hysgol gerdyn pob lwc enfawr yn y post gan ddisgyblion Ysgol Gwaun y Nant yn dymuno'n dda iddynt yn eu cystadlaethau yn yr Eisteddfod yr wythnos hon. Roedd y plant wedi dotio! Maent yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod heddiw i rannu hanesion."