Anodd credu mai cael dŵr i yfed fyddai un o broblemau mawr rhywun sy'n mynd i dreulio 21 diwrnod mewn ceufad.
Ond dod o hyd i ddŵr digon glân i'w yfed fydd un o broblemau criw o'r Urdd sydd newydd gychwyn ar daith o amgylch Cymru.
O amgylch Cymru? Dydi hynny ddim mor amhosib ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf.
Cychwynnodd Arwel Phillips, Alun Pugh a Hefin Peregrine o Harbwr Aberaeron heddiw yn rhwyfo tua'r gogledd, o amgylch Ynys Môn ac wedyn gan ddefnyddio afonydd Dyfrdwy a Hafren a chamlesi i lawr ein ffin ddwyreiniol ac allan i Fôr Hafren, heibio Caerdydd ac yn ôl i Aberaeron.
Mewn cyfarfod ar y maes fore Llun dywedodd Arwel mai un anhawster y byddan nhw'n ei wynebu y cael digon o ddŵr ffres i'w yfed.
"Fe fyddwn ni'n gorfod 'dwyn' dŵr gan bobol ar hyd Cymru ond yr yda ni'n ffyddiog y llwyddwn ni yn y diwedd."
Enghraifft go iawn o ddŵr ym mhobman ond heb ddafn i'w yfed!
Mae'n daith o 650 milltir i gyd a'r gobaith yw teithio rhyw 30 i 40 milltir y dydd ac fe fydd amser i gynnal sesiynau hyfforddi mewn lleoedd yn cynnwys Y Rhyl a Chaerdydd.
Profiad blaenorol y ceufadwyr yw hwylio 78 milltir o Gymru i Iwerddon mewn 21 awr.
Cyfaddefodd Arwel mai'r cwestiwn cyntaf sy'n cael ei ofyn iddyn nhw o glywed am y fenter ddiweddaraf yw, "Ydych chi'n gall?"
"A'r ateb ydi, 'Na' - Dydy ni ddim yn gall!" meddai.