Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Materion emosiynol - Unigrwydd

Mae gadael cartref, gadael ffrindiau a mynd i goleg ymhell o gysur cartref yn anodd. Ond, fel arfer mi fydd dros 1000 o bobl yn yr un cwch â chi mewn prifysgol, pob un yn wynebu'r un pryderon ac ofnau. Mae'r ffrindiau rydych chi'n eu gwneud mewn prifysgol neu goleg yn debyg o fod yn ffrindiau oes sy'n rhannu'r un diddordebau a hoffi'r un gweithgareddau â chi.

"Beth os nad oes neb yn fy hoffi?", "Beth os nad ydw i'n ffitio i mewn?", "Sut mae cwrdd â phobl?"
Dyma rai o'r cwestiynau mae myfyrwyr yn eu gofyn wrth ddechrau ar addysg bellach.

Neuaddau Preswyl
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn cael cynnig lle mewn neuadd breswyl. Fe allan nhw fod yn neuaddau sy'n cynnig prydau parod, neu'n rhai hunan-arlwyo, yn neuaddau un-rhyw neu gymysg, wedi'u rhannu'n fflatiau neu mewn adeiladau enfawr. Mae myfyrwyr yn cael eu rhoi gyda phobl sy'n gwneud yr un cwrs â nhw neu sy'n rhannu'r un diddordebau cyhyd ag sy'n bosib, ac mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl a gwneud ffrindiau. Ar eich noson gynta, ewch i roi cnoc ar ddrws eich cymdogion a'u hannog nhw i wneud yr un fath! Mae sawl prifysgol hefyd yn cynnig 'arweinydd cyfoed' neu system 'fentora' lle mae myfyriwr o'r 2il flwyddyn yn mynd â grwp o fyfyrwyr y flwyddyn 1af allan, eu cyflwyno i’r campws/y ddinas a'u hannog i wneud ffrindiau.

TIP
TANBAID!

Mae'n werth ichi yswirio'r eiddo sydd gennych chi yn eich ystafell os nad ydy wedi ei gynnwys ar yswiriant eich rhieni.

Wythnos y Glas
Wythnos o adloniant wedi'i drefnu gan undeb y myfyrwyr - y lle sy'n debyg o fod yn ailgartref ichi yn ystod eich cyfnod yn astudio. Mae'r Undeb yn cynnig amrywiaeth eang iawn o weithgareddau a digwyddiadau a fydd at ddant pob chwaeth gerddorol a diwylliannol. Mae'n lle gwych i gael diod neu ddau, sgwrs fach dawel, parti gwyllt, cyfarfodydd cymdeithasau neu ralïau gwleidyddol.

TIP
TANBAID!

Ceisiwch beidio â gwario eich arian i gyd yma (na threulio'ch amser i gyd chwaith)…cofiwch fod yn rhaid ichi wneud rhywfaint o waith!

Ffair y Glas
Mae'r ffair yn cael ei chynnal fel arfer yn ystod wythnos gynta'r tymor. Mi fydd pob clwb a chymdeithas yn mynd yno i ddenu aelodau newydd. Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un anian â chi neu ymuno â thîm sy'n rhedeg clwb. Mae'r dewis yn eang – o glybiau hwylio neu star wars i elusennau a grwpiau gwleidyddol. Yn ogystal, os nad ydych chi'n dod ar draws cymdeithas sydd o ddiddordeb ichi, gall yr Undeb eich helpu i sefydlu'ch cymdeithas eich hun. Mae Prifysgolion hefyd yn cynnal clybiau all fod yn uniongyrchol berthnasol i'ch gyrfa (er enghraifft papurau newydd, gorsafoedd radio, clybiau gwleidyddol, grwpiau gwirfoddoli yn y gymuned).

TIP
TANBAID!

Peidiwch â chael eich temtio i ymuno â gormod o gymdeithasau - cadwch at un neu ddau y gallwch chi gysegru digon o amser ac egni iddyn nhw!

Eich cwrs
Pa gwrs bynnag rydych chi wedi'i ddewis, fe wnewch chi gwrdd â phobl eraill, cael cyfle i wneud gwaith grwp neu waith seminar a chael cyfle i ymuno â grwpiau astudio academaidd. Mae hyn eto'n ffordd ardderchog i wneud ffrindiau. Wrth gwrs, mae sefyll mewn seminar a chyfrannu yn gallu bod yn brofiad brawychus, ond unwaith y cewch chi flas ar ddadlau bywiog, fe all fod yn hwyl, ysgogi'r meddwl a gwneud ichi feddwl mewn ffyrdd gwahanol. Does dim atebion cywir nac anghywir – felly ewch amdani!

TIP
TANBAID!

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi ar y cwrs anghywir, dydi hi byth yn rhy hwyr i newid.

Crefydd
Bydd pob sefydliad addysg uwch yn cynnig ystod eang o weithgareddau crefyddol gydag addoldai ar gyfer pob enwad. Mae'r Caplandy yn agored i bawb, beth bynnag eu cred.

Cwnsela a'r lein nos
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau, yn teimlo'n unig neu'n isel, mae pob sefydliad yn cynnig cefnogaeth o bob math. Peidiwch â chladdu'ch pen yn y tywod na gadael cyn gorffen eich cwrs. Ewch i gael gair â rhywun all helpu. Mae pawb yn teimlo'n unig ac allan o'u dyfnder o bryd i'w gilydd, ac nid arwydd o wendid ydy mynd i ofyn am gyngor. Naill ai ewch i weld y swyddog lles myfyrwyr neu gael sgwrs wyneb yn wyneb gyda chwnselwr, neu ffonio'r 'Lein Nos' – myfyrwyr eraill fydd ar ben arall y lein ac mae pob sgwrs yn gwbl gyfrinachol a does dim raid i neb roi ei enw. Mae'r gwasanaeth yma i'w gael ym mhob prifysgol.

Pryderon eraill:

Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa

Ìý

Ìý

Lincs

Hefyd...
Materion emosiynol
Myfyrwyr hyn
Anabledd

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý