Materion emosiynol - Delio â'r baich gwaith
Mae gwaith mewn prifysgol neu goleg yn gallu bod yn wahanol iawn i waith ysgol, ac mae dewis enfawr o gyrsiau ar gael. Heb athrawon i'ch gwthio a chyda darlithoedd yn lle 'addysgu ffurfiol' mae hi'n gallu bod yn hawdd syrthio ar ei hôl hi neu beidio â thrafferthu mynd o gwbl. Mae tynfa'r undeb yn gallu bod yn gryfach na galwad y llyfrgell yn aml iawn!
Lle bynnag y byddwch chi'n astudio, mae cyngor a help i'w gael gyda'ch gwaith. Er enghraifft, help i reoli'ch amser neu wersi ychwanegol mewn rhai meysydd arbennig. Mae hi'n werth gwneud eich gwaith mewn pryd yn hytrach na gorfod gwasgu'r cyfan i gyfnod byr pan ddaw’r arholiadau. Rydych chi yn y coleg i ennill cymhwyster, felly fe ddylech chi geisio cael eich gwerth am arian a gweithio. Gall tiwtoriaid, cynghorwyr a darlithwyr eich helpu gyda'ch gwaith. Mynnwch air â rhywun os ydych chi'n cael problemau - ewch i weld eich cofrestrydd academaidd neu eich tiwtor personol i ddechrau.
Pryderon eraill:
Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa
Ìý
|