Materion emosiynol - Rhyw ac Iechyd
Yn anochel, mae bywyd myfyriwr yn golygu annibyniaeth, cwrdd â phobl newydd, gofalu amdanoch eich hun a byw eich bywyd eich hun. Bydd temtasiynau yn dod o sawl cyfeiriad : cofiwch fod yn ymwybodol o’r peryglon a chymrwch ofal o'ch hun. Wedi'r cyfan mae'n rhaid ichi fod yn ymwybodol ac yn (eithaf!) iach i fwynhau addysg bellach!
Rhyw
Efallai y byddwch chi'n byw oddi cartref, mi fyddwch chi'n cymysgu â nifer o bobl yr un oed â chi, mi fyddwch chi'n rhan o gymuned eangfrydig ac yn cymdeithasu â llawer o bobl - y cyfuniad perffaith ar gyfer cyfarfyddiadau rhywiol. Cofiwch ofalu eich bod yn saff, yn siwr o'ch pethau ac yn synhwyrol. Mae gwasanaethau cwnsela myfyrwyr a gwasanaethau iechyd yn cynnig atal-cenhedlwyr, cyngor a llyfrynnau ynglyn â iechyd rhywiol yn rhad ac am ddim ac yn rhoi triniaeth yn gyfrinachol.
Iechyd cyffredinol
Beth am fanteisio ar y coleg neu'r brifysgol fel y cyfle delfrydol i gymryd rhan mewn chwaraeon newydd, colli pwysau, cadw'n heini a dechrau eto? Gall chwaraeon fod yn ffordd berffaith o ddelio â straen, mae'n edrych yn dda ar eich CV ac mae'n ffordd ardderchog, unwaith eto, o gwrdd â phobl. Mae byw oddi cartref hefyd yn gallu bod yn gyfle gwych i ddechrau bwyta'n iach a pherffeithio'r grefft o goginio rhywbeth amgenach na ffa pob ar dost! Mae'n hawdd mynd i ddibynnu ar fwyd cyfleus, ond fel arfer bydd y ffreutur yn cynnig bwyd iach, ac mae coginio eich bwyd eich hun yn rhatach na phrynu prydau parod!
TIP
TANBAID!
|
Ewch i wefan Â鶹Éç Health i gael rhagor o wybodaeth
|
Cyffuriau ac alcohol
O ddarllen y papurau fe fyddech chi'n meddwl bod pob myfyriwr yn treulio pob awr o'r dydd yn y dafarn. Dyw hyn ddim yn wir am bob myfyriwr, ond does dim dwywaith nad ydy cyffuriau ac alcohol yn chwarae rhan fawr ym mywydau nifer fawr o fyfyrwyr. Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon a'r ffeithiau, mwy o wybodaeth ar wefan Â鶹Éç Essentials.
Pryderon eraill:
Arian | Unigrwydd | Delio gyda'r baich gwaith | Rhyw a Iechyd | Dewis y Cwrs Iawn, Dewis y Lle Iawn | Gyrfa
Ìý
|