Â鶹Éç

"Mwy o Gymro na Sais ..."

Oherwydd marwolaeth ei fam yn ystod yr Ail Ryfel Byd, doedd gan yr ifaciwî Jimmy Ritchie ddim cartref i ddychwelyd iddo ym Mhenbedw ar ddiwedd y rhyfel. Magodd wreiddiau yn ei fro fabwysiedig ac mae bellach yn ffermwr yn Ysbyty Ifan.

23 Hydref 2008

"Ddaru'r ysgol anfon fform adref at holl blant fy ysgol yn Birkenhead, ac yn wreiddiol, doeddwn i na fy mrawd yn mynd i fod yn faciwîs, ond bu farw mam, ac i ffwrdd â ni.

"Felly pan roeddwn i yn naw oed a fy mrawd, Fred, yn chwech, cawsom ein hanfon i Bont Ddu am ryw wythnos efo Mrs Ifans. Wedyn cafodd y faciwîs i gyd eu hel at ei gilydd i Ddyffryn Nantlle. Bu fy mrawd a minnau'n byw gyda theulu uwchben siop gig, ond roedd fy mrawd yn colli adref ac yn crïo drwy'r nos, ac yn cadw babi'r teulu'n effro. Felly ddaru ni symud ymlaen ar ôl noson i Fryn Meirion, Dyffryn Ardudwy - 'dyffryn on sea' fel roedden ni yn ei alw!

"Roedden ni'n byw ar fferm efo Wncl Edward ag Anti Ann Gruffydd, oedd heb blant eu hunain. Ddaru nhw gymryd aton ni yn fawr, yn enwedig fy mrawd. Roeddwn i'n gwario lot o amser draw ar fferm Llechryd, fferm chwaer Anti Ann yn Nhal-y-bont. Cyn pen dim roeddwn yn helpu William Ifans yno efo'r godro bob bore cyn yr ysgol.

"Roedd yna ryw hanner cant ohonon ni'r faciwîs yn Dyffryn a Thal-y-bont ac roedd ganddon ni ysgol ac athrawon ein hunain. Byddai'r Saeson i gyd yn chware efo'i gilydd, ar wahân i'r Cymry. Doedden ni ddim yn gallu siarad iaith ein gilydd, ond yn y diwedd mi gychwynnon ni ddod yn ffrindiau trwy chwarae, fel mae plant yn gwneud.

"Mi wnes i ddysgu Cymraeg ar ôl symud yma wrth gwrs, trwy chwarae, adref ac yn yr Ysgol Sul - roeddwn yn fachgen da ac yn mynd bob Sul!

"Mi wnes i aros trwy gydol y Rhyfel. Aeth rhai yn ôl, bob yn ddau a thri wrth iddynt gyrraedd 14 oed a gadael yr ysgol, ond roedd mam wedi marw a dad wedi symud i Ellesmere Port ac roedd yn ddeng mlynedd cyn i mi ddychwelyd i Birkenhead. Roedd yna fwy o dynfa yng Nghymru nac yno erbyn hynny.

"Yn y diwedd dim ond ryw dri ohonon ni'r bechgyn oedd ar ôl - fi, fy mrawd a Georgie Woollie, ac mi aethon ni i gyd i Ysgol Dyffryn ar ôl i ysgol y faciwîs orffen.

"Ar ôl ymadael â'r ysgol, es i weithio ar fferm Llechryd - i ddisgwyl i fod yn ddigon hen i ymuno â'r Merchant Navy fwy na dim, ond wedyn ges i TB. Es i'r ysbyty ym Machynlleth am dros bum mis cyn mynd yn ôl i Fryn Meirion ar ôl gwella.

"Es i weithio ar fferm ac aros am dros dair blynedd, cyfarfod Annie, merch Bron Caled ac i ffwrdd â ni i Ysbyty Ifan.

"Dwi'n byw yn Ysbyty Ifan ers 30 mlynedd erbyn hyn. Dwi'n ffermwr, a symudais yma gan ei bod yn haws cael tir i bori defaid. Dwi'n gwneud llai rŵan, ond mae fy mab a'i fab o yn edrych ar ôl y fferm, felly mae am aros yn y teulu, er nad oedd yna ddim cefndir ffermio yn fy nheulu i cyn i mi ddod yma.

"Dwi'n fwy o Gymro na Sais erbyn hyn. Mae fy mrawd yn dal i siarad Cymraeg, er ei fod yn Lloegr ers pan mae'n 17 oed. Mae gennym ni ddwy chwaer hefyd, Edna a Betty, ond gan eu bod yn ifanc iawn pan fu farw mam aeth y ddwy at ffrindiau'r teulu ac maen nhw'n dal i fyw yn Birkenhead. Ond Anti Ann ac Wncl Edward oedd fy nheulu i a fy mrawd â dweud y gwir."

Bu Jimmy Ritchie yn dweud ei hanes ar ymweliad bws y Â鶹Éç â Betws-y-coed.

Atgofion personol eraill gan, ac am, faciwîs:


Anfonwyd tri theulu nôl i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion ifaciwîs gan bobl y canolbarth.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.