麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eleanor Roberts "Sut oedd hi, Nain?"
Eleanor Owen Roberts o Garndolbenmaen sy'n cofio prinder siwgwr, ifaciw卯s, carcharorion rhyfel a bywyd pentref yn ystod rhyfel 1939 - 1945.
Holodd fy wyres: "Be oeddech chi'n neud amsar rhyfel, Nain?" Dyma'r atebiad.

Roeddwn yn byw hefo Mam a'i rhieni hi a'i brawd ar fferm fynyddig Tyddyn Graig nepell o Eglwys Dolbenmaen. Cefais lawer o gwmni fy Nain a anwyd ar fferm Drws-y-coed, Rhyd ddu. Mynychodd Nain, a gafodd ei geni yn 1872, ysgol breswyl Miss Rimmer a Miss Katie yng Nghaernarfon a dysgodd i mi gynghorion doeth iawn. Un ohonynt oedd "Paid 芒 gadael i neb gymeryd mantais arnat" - dyna'r unig 'wers' ryw gefais erioed.

Ffarmwr oedd Taid ac yn flaenor a thrysorydd ei gapel yn Jerusalem, Garndolbenmaen. Edrych o hirbell gawn i pan fyddai Nain ac yntau yn paratoi arian y capel ar fwrdd y gegin i fynd i'r banc ym Mhorthmadog. Swydd ddefosiynol iawn. Cawn edrych ar y pentwr o geiniogau - sylltau a chwecheiniogau. Dim ond edrych.

Amser rhyfel y tywyllwch dudew oedd waetha. Nid oedd gennym drydan na gas. Cario'r paraffin o'r siop fach leol. Roeddynt yn gwerthu burum a da-da ond roedd rhaid cael cwponau i gael da-da.

Mam fyddai'n godro gwartheg, yn y fuches yn yr ha' a'r beudy yn y gaeaf. Roedd wastad rywun eisiau menyn a llaeth enwyn. Byddai hen wragedd mewn dillad duon llaes yn cythru amdanaf ar fy ffordd i'r ysgol. "Dwedwch wrth eich mam mod i isio pwys neu hanner pwys o fenyn" fel bo'r galw, "o, a thropyn o laeth."

Eleanor Roberts yn ferch fachRhaid fyddai danfon menyn i rai. C芒i Alan y Lodge a minnau hwyl yn rowlio ambell hanner pwys i lawr y bryn. Anodd iawn a phrin y papur lapio amser rhyfel. Yn ystod poethder ambell haf lapiwyd y menyn hefo deilen riwbob - ar sylfaen o soser neu bl芒t.

Prynai Mam ddefnydd i wneud ffroc i mi yn y Felin Wl芒n, Bryncir. Rhaid fyddai mynd i'r Garn i Tanffolt at Miss Kate Pritchard i fesur a ffitio'r ffrog. Gwaith trwm a blin drybeilig i mi. Miss Kate yn gordro "Trowch rownd, trowch rownd!" a pinna yn ei cheg a rhwng ei bysedd, a minnau ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd tu 么l i mi, ac ofn pigiad.

Coron ar y noson oedd cael te a chacan felan gin Miss Laura Pritchard - hi ofalai am y tyddyn, y fuwch a'r llo a'r t欧 - tra byddai Kate yn gwn茂o.

Allan o'u cartref clyd y troediai fy Mam, a minnau yn trotian tu 么l iddi. Clec - ac ar fy ngwyneb i wal gerrig ar y ffordd lawr i'r l么n bach gul. Credaf mai'r profiad cas hwnnw wnaeth elyniaeth oes at dillad newydd byth mwy. Ni hoffais hynny.

Credai Taid bod jam amser rhyfel yn cael ei wneud efo swetsh (swede). Anfonwyd fi i'r siop i n么l pot o jam. B没m yn hir yn ceisio agor y caead a llwyddo a rhoi fy mys ynddo i'w flasu - gan honni adref mae'r siopwr oedd yn gyfrifol - er mwyn iddo wybod pa ffrwyth oedd yn y jam (ddaru mi ddim sylweddoli bod stamp ar y pot wrth gwrs).

Cludai Taid, a minnau'n gwmni iddo, fasgedaid o eirin i Mrs Williams, T欧'n Llan, Cwm Pennant bob blwyddyn ac wrth fod prinder siwgr, holodd Mrs Watkins, Bryn Wern (dynes brofiadol gynt o Goleg Madryn), faint o siwgr oedd Kate Williams, Llan, yn roi hefo'r ffrwytha? "Neith o byth gadw" medda hi. Ateb Kate Williams oedd "ddim i'w gadw dwi isio fo ond i'w fwyta."

Eleanor Roberts yn ei harddegauRhaid oedd gorchuddio ffenestri'r t欧 hefo ryw lian du. Blacowt oedd hynny i mi. Ond ar noson oer aeafol a s诺n trwm yn yr awyr - awyrennau rhyfel yn mynd i Lerpwl - caem dynnu'r bwrdd crwn at y t芒n a rhoi y lamp baraff卯n arno - a medrwn weld i fyny'r simdde a gwrando'r criced yn nhu 么l y gr芒t. Ryw bryfyn oedd y criced, fel sioncyn gwair. Os gwir a ddeallais rhwbiai ei goesau yn ei gilydd i wneud s诺n.

Oherwydd oedran Taid a Nain, a'r ffaith fod Mam yn wael, ni orfu i ni gymeryd plant cadw - ifaciw卯s. Ond cafodd y Person a'i wraig, oedd yn ddi-blant, ddau hogyn o Lerpwl, Harri a Tomi Oaks. Dau hyderus dros ben oeddent. Curent ddrws nain a deud, "Dyro frechdan siwgr i ni". Arswydai Nain ar eu haelligrwydd, roedd hi wedi cael dysg gwahanol i barchusrwydd. Ac ni wyddai'r Person a'i wraig faint stumog dau fachgen ar eu prifiant. Dysgodd y ddau Gymraeg yn sydyn iawn.

Daeth geneth fach bedair oed o Lundain hefo'i mham a'i brawd i fyw at ei nhain i Golan - Dorothy. Ni siaradai Gymraeg. Sylwodd ei mham arnaf i yn eistedd yn y drol ar ryw daith hefo'm taid. Ac wrth Dorothy dywedodd ei mam: "Hefo'r hogan fach yna sydd yn y drol y byddi di yn mynd i'r ysgol." Ac felly bu pan ddaeth yr amser. Roedd llawer mwy o Gymry bach uniaith yn Ysgol Garn Dolbenmaen bryd hynny (1941) ac mewn dim dro o roedd Dorothy yn Gymraes. Hyd heddiw mae'r cyfeillgarwch clos fu rhyngom ar hyd y blynyddoedd yn para. Buom forwynion priodas y naill i'r llall. Mewn dyddiau, chwe diwrnod sydd rhyngom mewn oed a hi sy'n blaenori. Geneth addfwyn a hynod driw.

Y chwaraeon oedd gennym oedd p锚l a rhaff sgipio. Byddem yn hel mwsog oddi ar y cerrig ac yn chwara cuddio, dringo coed a gwneud cacena mwd heb s么n am Jona yr oen llywaeth a drodd yn dra chwyrn hefo'i gyrn. A cael a chael oedd hi arnom i'w osgoi - bu Jane Ann ac yntau yn dyrnu drws yr hows bach - fo tu allan yn dyrnu hefo'i ben a hithau o'r tu mewn hefo'i holl nerth yn dal ar y drws.

Rhoddodd Nain ddefnydd o'i r诺m ffrynt i Miss Lewis. Cogyddes oedd hi a brodores o Lansawel ger Castell Nedd. Bomiwyd Miss Lewis o'i th欧 yn Llundain, ac nid oedd yn rhy dda rhyngddi a'i theulu yn Ne Cymru - er bod un nith iddi a'i g诺r o Lundain yn gyfeillgar 芒 hi. Ni siaradai yr un ohonynt Gymraeg.

Ar ben ei hun yn y r诺m ffrynt ar nosweithiau hirion y gaeaf, gwahoddai Miss Lewis fi i gael pryd o fwyd hefo hi. Byddwn yn dyheu am dd诺r hefo'r cinio, ond ni chawn ganddi. Galwai Mam heibio o'r cefn a gofynnwn iddi "Isio'r gloyw sy'n rhedeg ydw i".

Dilyniant i'r pryd bwyd di-ddiod oedd gemau "Cuddio'r geiniog". Fel na fedrwn weld a thwyllo, codai Miss Lewis y papur newydd a'i roi dros fy mhen. Wedi codi a cherdded, gollyngai wynt - roedd pwysau arni, fel bob cogyddes roedd yn ddynes nobl - felly dim ond dilyn y s诺n glywais wnawn i. Cawn hyd i'r geiniog a'r wobr oedd Wine Gum neu ddau.

Daeth dyddiau'r Nadolig a'r paratoi. Ni roddodd fy mam le i mi 'rioed gredu yn Si么n Corn. Toedd yna yr un. Hynny am iddi hi gael siom aruthrol pan ddwedodd ryw was wrthi hi yn ifanc nad oedd Santa yn bod.

Ond honnai Miss Lewis fod yna Santa Clos a rhaid oedd i mi fynd i ngwely'n gynnar. Ni allwn gysgu yn y tywyllwch a fyny, lawr, n么l a blaen y brwydrai Miss Lewis i lawr ac i fyny a minnau'n hollol effro bob tro.

Wedi i mi deffro yn y bore, mewn cas gobennydd wrth y gwely fyddai dodrefn llofft i d欧 dol o waith Mr Blake, a mwnci hefo trowsus coch a crys gwyn a phibell yn ei geg a chap ar ei ben. Bu hwnnw gennyf am flynyddoedd.

Ar ei phen blwydd yn saith oed cafodd Mrs. Blake ddol Almaenig wedi ei gwisgo mewn melfed piws. A minnau yn saith oed, cefais y ddol yn bresant gin Mrs Blake. Fe'i trysoraf yn fawr, hyd y dydd heddiw.

Credai Nain mewn parchu'r Sul i eithafion. Doedd wiw chwibianu, na chware p锚l - honnai hi rhag ofn i'r Arglwydd dy daro. Dim gwn茂o chwaith - efallai wrth roi edau ar nodwydd ar y Sul y llithrai'r nodwydd i'm bys a gweithio'i ffordd i'm calon - a dyna ddiwedd. Cerddwn am dro i Ddolbenmaen hefo Miss Lewis i n么l y News of the World ar 么l te dydd Sul.

Cofiaf un noson oleuedig iawn pan oedd flares yn yr awyr. Caed tameidia - stribedi - o bapur arian hyd y llawr.

Galwai ar dro ambell dro ambell gyda'r nos - gyfeillion i taid a nain am sgwrs i drafod Hitler a rhyfel a phetha eraill. Ran amlaf, byddai'r dynion hefo cap ac ar 么l ei rhoi yn saff, cawn innau hyd i'r cap a'i guddio dan y setl neu tu 么l iddi. Amser ffarwelio, hir fyddai'r chwilio 'Duwch roedd gin i ryw hen gap'. Down innau wrth gwrs hyd i'r cap yn dra buan a chawn fy nghanmol, "Hogan dda wedi dod o hyd i'r cap" a childwrn.

Daeth y carcharorion rhyfel i weithio ar y ffermydd. Roedd dau gamp - un yn y Ff么r a'r llall yn Bontnewydd. Daeth un o'r enw Max Schwarz i helpu Taid a honnodd wrtho: "I'm as weak as a cat, Max bach". Nid oedd ganddo fawr o Saesneg ac nid oedd ryw lawer gennym ninnau oedd yn meddwl ac yn siarad Cymraeg drwy'r adeg.

Ar yr 22ain o Fai digwyddodd Nain wneud crempog. Dyna'i chroeso i bawb. Ac ar ddiwrnod ei ben-blwydd, 22 Mai, y cafodd Max wledd - hefo jam, lemon a menyn.

Rheidrwydd naturiol oedd mynychu'r capel dair gwaith y Sul. Cerdded gryn ddwy filltir n么l a blaen, ambell Sul gwahoddai cyfeillion caredig ni i de. Rhaid oedd dysgu ar ein cof adnodau ac emynau, ac i barchu'r oedolion.

Geiriau gwaharddedig iawn i fy nain oedd 'cachu' a 'chwydu'. Roedd gwell geiriau i'w cael, 'taflu i fyny' a.y.b. Cymerai Max ddiddordeb mawr yn yr holl gapela a chrefydda a holai fi am hyn a ddysgwn. Wel, roedd yn anodd egluro yn Saesneg a chofiais am hen bennill bach ffwrdd 芒 hi:

Cachu ci, cachu cath
Cachu mochyn, jyst 'run fath.

Ac o'r holl bobl, aeth ac adrodd i fy Nain yr hyn ddwedais wrtho. Ni chofiaf y canlyniadau, ond ymhen deugain mlynedd daeth am dro - ac adroddodd y pennill yn berffaith air am air.


Cyfrannwch

lois jones o pwllheli
Sylweddolais pa mor ddifrifol oedd y rhyfel. Nid yr oeddwn wedi chwilio digon i gael yr hanes yn iawn, ond o'r diwedd dyna fi wedi ei chael.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy