Cafodd y ffilm ei gwneud ar gyfer cyflwyno a hyfforddi gweithwyr newydd i'r gwaith. Mae mwy o wybodaeth am y ffilm yn y stori newydd hon: Cafodd ei darganfod gan y gwyddonydd David Cooper o Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn Porton Down, Salisbury, sydd yn dal i fonitro'r safle er ei fod wedi ei drawsnewid yn warchodfa natur.
Canfu David y ffilm ymysg ffeiliau eu gydweithwyr blaenorol ar ôl ymweld â Rhydymwyn a sylweddoli bod yr hen ffilm yn dangos safle Gweithfeydd Rhydymwyn.
|