| |
Y
Rhyfel a'r Dirwasgiad
Faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Effaith y Dirwasgiad
Y mae’r dirwasgiad yn rhoi terfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu’n
mynd ar garlam am ganrif a hanner. Y mae pobl yn gadael Cymru wrth
eu miloedd - 390,000 yn gadael rhwng 1925 a 1939. Nid yw poblogaeth
Cymru yn cyrraedd y rhif ydoedd yn 1925 tan 1973. Canlyniad y segurdod
di-ddewis yw ffataliaeth ac anobaith. Mae byw ar enillion bychan yn
cael effaith ar iechyd pobl ac ar gyflwr eu tai. Mae’r prawf moddion
- sy’n golygu llai o fudd-dal diweithdra os oes gan deulu incwm o
ffynhonnell arall - yn arwain ar wrthdystiadau enfawr, yn eu plith
protest ar 3 Chwefror 1935, gan hyd at 300,000 ar strydoedd Cymru.
Mae methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth yn hwb i achos y Sosialwyr
a’r Comiwnyddion, sydd ar flaen y gad ym mhob protest. Mae’r dirwasgiad
yn yr ardaloedd diwydiannol yn ergyd i ddiwylliant y capeli a’r iaith
Gymraeg. Arweiniodd ffrae ynglyn â chynorthwyo’r di-waith at gwymp
Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a
ffurfiwyd nid oedd dim i’w wneud ond aros i bethau wella. Yn 1937,
serch hynny, mae’r llywodraeth yn dechrau cynorthwyo cwmnïau sy’n
creu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel - gan sefydlu’r polisïau
economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru. Ond
er y swyddi newydd - yn enwedig mewn llefydd fel gwaith dur Glyn Ebwy
a stad ddiwydiannol Trefforest - a chynifer o bobl ddi-waith yn ymfudo,
nid yw economi Cymru yn gwella rhyw lawer. Yn y mis olaf cyn y rhyfel,
Awst 1939, mae 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.
Yr Ail Ryfel Byd
Y mae’r rhyfel yn datrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn
1941 mae gan bron bawb sy’n abl i weithio, swydd, ac mae canran y
menywod sy’n ymuno â’r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw
ran arall o’r Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae’r rhyfel yn lladd
pymtheg mil o Gymry ac mae galw ar lawer mwy i fynd i weithio mewn
ffatrïoedd yn Lloegr. Credir bod Cymru’n rhy bell i gyrchoedd awyr
yr Almaenwyr; mae’r holl faciwîs swyddogol ac eraill sy’n ffoi rhag
y bomio yn ychwanegu rhyw ddau gan mil at rif y boblogaeth. Ond di-sail
yw’r gred bod Cymru’n ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd ar Abertawe
yn Chwefror 1941. Serch hynny, mae nifer o ddiwydiannau rhyfel yn
cael eu sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont
ar Ogwr. Y mae llai o alw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, ac
mae hynny’n creu’r gobaith am fwy o amrywiaeth economaidd wedi’r rhyfel.
Oherwydd prinder bwyd mae’r ffermwyr yn cael mwy am eu cynnyrch. A’r
rhyfel yn llusgo ymlaen mae yna benderfyniad yng Nghymru fel yng ngweddill
y Deyrnas Unedig na fydd ailadrodd holl helbulon y 1930au. A’r agwedd
meddwl yma yw’r brif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn
etholiad cyffredinol 1945.
|
|
|
© MM
|
Ìý |
Ìý |
|
|