Â鶹Éç

Cartref Frank Lloyd Wright - gyda diolch i Taliesin Preservation am y llun

Lladdfa Taliesin

Llyfr yn tynnu sylw at lofruddiaeth erchyll cariad y pensaer Frank Lloyd Wright.

Bu newyddiadurwr Americanaidd o dras Cymeig, Ron McCrae, a'r Athro William Drennan o Brifysgol Wisconsin yn ymchwilio'r saith o lofruddiaethau yn nhÅ· Taliesin, cartref Frank Lloyd Wright, ym 1914.

Cafodd Frank Lloyd Wright ei eni ym 1867 yn Wisconsin, i deulu o dras Cymreig. Fe oedd pensaer enwocaf a mwyaf dylanwadol America, a bu'n gawr ym myd pensaerniaeth y byd tan ei farwolaeth ym 1959.

Rhoddodd yr enw Taliesin - enw'r bardd Cymreig - ar y tŷ a adeiladodd ym 1911 ym mro ei febyd ar dir a roddwyd iddo gan ei fam yn y cwm a fu'n gartref ers cenedlaethau i'w theulu Lloyd Jones, a oedd â'u gwreiddiau yn ardal Llandysul.

Roedd Taliesin yn arddangos egwyddorion cynllunio Wright ar eu gorau. Serch hynny, bu hefyd yn ganolbwynt i sgandal gan iddo ei adeiladu fel cartref iddo fo a'r ddynes y gadawodd ef ei wraig a'i chwech o blant ar ei chyfer - Martha "Mamah" Borthwick.

A thair blynedd yn ddiweddarach, ar 15 Medi, 1914, y tÅ· hwn oedd lleoliad llofruddiaeth dorfol unigol fwyaf yn hanes Wisconsin.

Dywedodd Ron McCrae i un o weision Wright ymosod ar drigolion y tŷ, gan ladd saith ohonynt, gan adael y berl bensaernïol fyd-enwog yn adfeilion, a chan ddinistrio bywyd Wright, a oedd yn 47 oed ar y pryd.

Julian Carleton, 30 oed, un o weithiwr yr ystad, un a oedd yn wreiddiol o Barbados, oedd y llofrudd.

Tra roedd Wright i ffwrdd yn Chicago gyda'i fab, fe folltodd Carleton ddrysau a ffenestri'r stafell fwyta lle roedd Mamah Borthwick, ei phlant, ei staff a rhai gwesteion yn bwyta. Tywalltodd sawl bwced o betrol o dan y drysau ac fe roddodd yr adeilad ar dân.

Wedyn fe ymosodd â bwyell ar y rhai a ddihangodd o'r fflamau trwy neidio allan o'r ffenestri.

O'r naw person a fu yn yr ystafell, dim ond dau a oroesodd. Lladdwyd cariad Wright, Mamah Borthwick, a'i dau blentyn, Martha Cheney, oedd yn naw oed, a'u mab John Cheney, a oedd yn 12.

Y rhai eraill a laddwyd oedd: Ernest Weston, mab 13-oed y saer William Weston; Emil Brodelle, cynllunydd 26-oed o Milwaukee; David Lindblom, gweithiwr 38 oed, a Thomas Brunker, 68, arweinydd safle Taliesin.

Llwyddodd William Weston, a chynllunydd o'r enw Fritz i ddianc a chael cymorth.

Daeth ugeiniau o ffermwyr y fro i helpu. Ymunodd gweinidog lleol a pherthynas i Wright, Jenkin Lloyd Jones, gyda Siryf Sir Iowa, John T. Williams, ac Is-Siryf y Sir, George Peck, i ffurfio mintai i chwilio am Carleton. Lladdodd Julian Carleton saith o bobl, ac wedyn lladd ei hun.

Daethant o hyd iddo y prynhawn hwnnw yn cuddio mewn rhan o'r adeilad. Roedd wedi llyncu asid hydrochlorid, ac roedd bron yn anymwybodol.

Bu bron iddo gael ei grogi yn y fan a'r lle, ond fe lwyddodd y siryf a'r fintai i'w gludo i garchar Dodgeville gyda thri llond car o ddynion arfog yn eu hymlid.

Marwodd o newyn yn y carchar saith wythnos yn ddiweddarach er gwaethaf triniaeth feddygol.

Ymddangosodd yn y llys ddwywaith, ond ni esboniodd erioed ei reswm am yr ymosodiad.

Serch hynny, ceir nifer o ddamcaniaethau am gymhelliad y llofruddiaethau: dial am sarhad hiliol gan Emil Brodelle; dial am golli ei swydd (roedd Wright newydd hysbysebu am weision newydd) neu ysfa grefyddol i gosbi Wright a'i gariad am eu "hanfoesoldeb".

Daeth Wright yn ôl i adfeilion ei gartref ar noson 15 Awst, ynghyd ag Edwin Cheney, cyn-wr Mamah Borthwick a thad dau o'r plant a fu farw.

Yn ei hunangofiant, fe gofiodd Wright: "Tri deg chwech awr ynghynt, gadewais Taliesin, gan adael popeth yn fyw, yn gyfeillgar ac yn hapus. Yn awr, 'roedd yr ergyd wedi disgyn fel mellten.

"Ysgubwyd cartref Taliesin i ffwrdd yn wyllt mewn hunllef gwallgofddyn, llawn fflamau a llofruddiaeth. Dim ond yr hanner gweithiol a oroesodd.''

Disgrifodd y lle fel "golygfa o ddifrod erchyll."

Claddwyd Mamah ym mynwent y Unity Chapel gerllaw, capel Undodaidd a gafodd ei gynllunio gan Wright ar gyfer cynulleidfa Jenkin Lloyd Jones.

"Dymunwn llenwi'r bedd fy hun,'' meddai Wright. Dywed Ron McCrae i Wright gyhoeddi llythyr yn y papur wythnosol lleol ychydig wedyn er mwyn diolch i'r gymuned am ei chefnogaeth - ond hefyd i achub cam Mamah, "dynes ddewr a hyfryd,'' ac i roi gwybod i bawb na fyddai ef yn cael ei yrru o'r fro.

"Mae ei henaid wedi fy meddiannu, ac ni chaiff ei golli,'' meddai. O ran Taliesin, meddai:

"Byddaf yn ail-godi'r ty, er mwyn i ysbryd y meidrolyn - a fu fyw yno ac a'i carodd - gael byw yno o hyd. Yno fydd fy nghartref o hyd."

Cadwodd ei air, ac fe ail-godwyd y ty, sydd belach yn gofeb i fywyd a gwaith Wright.

Yn sgîl y drychineb, bu dryswch ynglyn â chymhelliad y llofruddiaethau.

'Doedd Wright ei hun yn methu credu y gall Carleton fod wedi cyflawni'r drosedd. Felly hefyd oedd teimladau chwaer Wright, Jane Porter, a oedd yn byw yn nhy Tan-y-Deri gerllaw.

"Nid oes unrhyw dystiolaeth am gymhelliad na bwriad rhesymol wedi dod i'r golwg erioed," meddai Ron McCrae, sy'n Olygydd Newyddion y Capital Times yn Wisconsin ac sydd yn rhannol o dras Cymreig ei hun."

Mae wedi bod yn ymchwilio llofruddiaethau Taliesin am sawl blwyddyn, ac mae bellach yn gweithio ar lyfr a fydd yn rhoi'r cofnod llawn modern cyntaf o'r digwyddiad.

Mae'n gobeithio y bydd ei ymchwil, a gwaith yr Athro Drennan, yn bwrw goleuni newydd ar y drychineb a ysgydwodd y gymuned Gymreig yn Wisconsin, ac a chwalodd fywyd mab enwocaf Cymry America.

Grahame Davies


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.