Y Crynwyr yng Ngogledd America (3)
Cychwyn gwael
Fel gyda bron pob symudiad i'r Byd Newydd, daeth yr ymfudwyr ar draws nifer o broblemau nad oedden nhw wedi eu paratoi ar eu cyfer. Problem a darodd nifer ohonyn nhw oedd 'hiraeth' a effeithiodd arnyn nhw er gwaethaf unrhyw broblemau roedden nhw wedi dod ar eu traws yn eu gwlad enedigol. Dechreuodd eu trafferthion gyda'r daith beryglus i America, a gymrodd o'r 6ed o Awst hyd y 27in o Hydref 1795.
Roedd yr amodau ar fwrdd y llong yn erchyll ac er na chofnodwyd unrhyw farwolaethau ar daith y Maria, fe gyrhaeddon nhw Philadelphia wedi blino ac yn llwglyd, mewn dinas oer. Roedd un o'r teithwyr, gwraig y Parch. Rees Lloyd yn feichiog ac fe roddodd enedigaeth i'w baban Ebenezer ar y diwrnod y cyrhaeddon nhw. Bu'r baban fyw yn ddim ond 8 mis oed.
"Mae'n rhy anodd i bobl dlawd ennill bywoliaeth ar y tir hwn...alla i ddim, â chydwybod glir, annog fy nghydwladwyr i ddibynnu llawer ar y lle hwn."
Arweiniodd Morgan John Rhys yr ymgyrch i ymgartrefu yn yr ardal, gan arwain 12 o deuluoedd i mewn i dir gwyllt dieithr America. Cofnododd George Roberts ei atgofion am yr adeg hwn: "Gadewais Philadelphia am Cambria ar Fedi 20ed 1796, crwydrais ar droed ar hyd y ffordd yn y diffeithwch hyd Fis Tachwedd 19eg pan adeiladwyd caban bychan o bolion, nad oedd ddim mwy na fy nghoes, lle buom yn byw yn gymharol hapus am ddwy flynedd, weithiau heb damaid o fara yn y tÅ·".
Roedd Roberts yn hapus, ond roedd ef yn un o'r ychydig rai. Llwyddodd i ddatblygu ei randir, oedd tua wyth i ddeg erw, ychydig filltiroedd i'r dwyrain o Beulah a chreodd fywyd da iddo'i hun.
Roedd pethau'n mynd o chwith mewn llefydd eraill; roedd hyn mor wahanol i'r wlad llawn digonedd roedd nifer o'r teithwyr wedi ei ddisgwyl. I'r Parch. Rees Lloyd nid dyma'r oedd wedi bod yn gobeithio amdano, ac fe ysgrifennodd ddarn yn cynghori yn erbyn symud i'r lle hwn a oedd i fod yn baradwys Arcadaidd:
"Mae'n rhy anodd i bobl dlawd ennill bywoliaeth ar y tir hwn ... alla i ddim, â chydwybod glir, annog fy nghydwladwyr i ddibynnu llawer ar y lle hwn."
Cafodd gaeafau caled mewn amgylchiadau gelyniaethus yn Niffeithwch yr Allegheny, diffyg offer addas a deiet annigonol, effaith ar nifer o'r rhai oedd yn byw yn yr ardal. Ar ôl cyfnod yn pregethu egwyddorion Beulah ar yr arfordir dwyreiniol, dychwelodd Morgan John Rhys i'r ardal gyda mwy o ymsefydlwyr, yn llawn brwdfrydedd am egwyddorion Beulah, yn ystod gwanwyn 1797. Roedd ganddo gynlluniau ar gyfer tref wych, gyda llyfrgell a choleg diwinyddol, ond daeth ar draws pobl oedd â'u hysbryd wedi cyrraedd y gwaelodion.
Symud ymlaen
Doedd y tiroedd o gwmpas Beulah ddim mor ffafriol i ffermio a byw'n gyfforddus ag roedd Morgan John Rhys wedi ei obeithio. Roedd ardaloedd eraill, yn enwedig Ohio, yn ddewisiadau gwell i'r rhai a oedd eisiau byw bywyd ar y tir. Yn dilyn newidiadau mewn deddfwriaeth ffederal ym 1800, fe gawson nhw'u hagor i'r ymsefydlwyr. Gadawodd nifer Beulah yn fuan iawn gan anelu am y gorllewin i geisio bywyd haws.
Ond doedd y Parch Rees Lloyd, er yn anhapus yn Beulah, ac wedi colli dau o blant i'r hinsawdd, ddim eisiau gwneud taith arall fyddai'n mynd ag ef i diroedd anghyfarwydd. Penderfynodd adeiladu tref weledigaethol ei hun, ddim ond 3 milltir i'r dwyrain o Beulah. Ebensburgh oedd y dref hon. Roedd yn fwy newydd, yn llai o ran maint ac yn llai anturus ei uchelgeisiau, ond fe oroesodd.
Er nad yw Beulah'n bodoli bellach, mae Ebenbursgh yn dal i fod, ac mae'n dal i ffynnu. Bu farw Rees Lloyd yno, yn aelod uchel ei barch o gymuned brysur a chynyddol gefnog, yn falch o fod wedi datblygu tref, er nad oedd hon yr eidyl Gymreig roedd wedi breuddwydio amdani unwaith.
Un ffactor amlwg dros oroesiad Ebensburgh oedd ei ddatblygwr, y Parch. Rees Lloyd. Roedd ef eisiau aros yn yr ardal i fyw a ffynnu yno, ac felly cymrodd nifer o gamau craff ym myd busnes a gwleidyddiaeth er mwyn ceisio gwireddu hynny. Gweithiodd yn ddiflino yn yr ardal, ar ei dir ac yn ei eglwys. Ar ôl prynu tir gan Dr. Benjamin Rush, datblygodd Ebensburgh, ond rhoddodd neu fe werthodd nifer o ddarnau o dir canolog i ffigurau amlwg a dylanwadol. Bu hyn o help i'r dre, er gwaetha'r ffaith nad oedd fawr mwy na phentref bychan, i gael ei wneud yn sedd sirol ym 1805, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer datblygiad pellach.
Dylanwadau parhaol
Bu farw gweledydd Beulah, Morgan Rhys, yn ystod gaeaf 1804/5, gan adael y dref heb ei arweinydd idealistig. Roedd Rhys wedi treulio tipyn o'i amser yn teithio i fyny ac i lawr yr arfordir Dwyreiniol yn hybu ei weledigaeth, ond heb roi amser ac ymdrech i mewn i'w datblygu, ac mae hyn, erbyn heddiw, yn cael ei ystyried gan nifer o haneswyr y ffactor bwysicaf ym methiant Beulah. Ymsefydlodd mewnfudwyr newydd i'r ardal yn nhref newydd Ebensburgh neu fe deithion nhw ymlaen i mewn i Ohio, gan ddilyn nifer o fewnfudwyr gwreiddiol Llanbrynmair i mewn i wlad well.
Efallai nad yw'r Americanwyr yn dathlu eu hetifeddiaeth Gymreig mor gyhoeddus ag y maen nhw eu gwreiddiau Gwyddelig, ond wrth gloddio ychydig yn ddyfnach gwelir bod gwaed Cymreig i'w weld mewn llawer o hanes America. Y gymdeithas iaith ethnig hynaf yw Cymdeithas Gymraeg Philaedelphia, sy'n dyddio o 1729. Yn ogystal â hyn, mae 16 o'r rhai a arwyddodd y Datganiad Annibyniaeth o dras Cymreig.
Yng Nghymru, y Crynwyr a ymfudodd o Feirionnydd a Sir Drefaldwyn oedd mwyafrif y Crynwyr yn yr ardal. Dim ond cyfran fechan o boblogaeth Canolbarth Cymru sydd yn Grynwyr erbyn heddiw. P'un a fyddai Beulah wedi goroesi ai peidio, fe fydd ymfudiad y bobl hyn o Lanbrynmair yn gadael ôl parhaol ar Ganolbarth Cymru ac America.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.