麻豆社

Terfynfa Cyril Cottingham ym Maes Awyr Comox - diolch i Linda Hughes am y llun

Teyrnged i Gymro yng Nghanada

Mae adeilad ar faes awyr yng Nghanada wedi ei enwi ar 么l Cymro. Idris Hughes, o Comox, Ynys Vancouver sy'n dweud yr hanes.

Agorwyd yr adeilad ar gyfer Maes Awyr Dyffryn Comox ar Ynys Vancouver, British Columbia, Canada, ar Ebrill 16, 2004.

Yr enw a ddewiswyd arno oedd F/O C. Cottingham Terminal. Yma y bu'n chwarae ac yma yr aeth i'r ysgol; yr union fan lle saif y Maes Glanio heddiw.

Eu colli dros F么r y Gogledd

Gadawodd yr ysgol uwchradd yn Comox ym 1939 ac ymuno a'r RCAF. Ym 1942, aeth i Brydain ac ymuno a'r RAF gan hedfan Lancasters o Fiskerton ger Lincoln.

Ym mis Tachwedd 1943, fe'i collwyd ef a'i griw o chwech dros F么r y Gogledd ac yntau ond yn 25 oed.

Mae Cyril yn cynrychioli nifer o fechgyn ifanc o Ddyffryn Comox a Chanada, a gollwyd yng ngwasanaeth eu gwlad yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

O Gymru 'roedd yn dod. Mary Ann Cottingham oedd ei fam a gl枚wr oedd William ei dad , o Goginan ger Aberystwyth.

Ymfudodd y teulu i Ynys Vancouver ym 1927 gyda phedwar mab; William, Ron , Cyril a Glyn, a merch, Doreen.

Ganwyd dwy ferch arall, Beryl a Phyllis yn Comox.

Wythnos ar dr锚n

Croesodd y teulu yr Iwerydd ar yr SS Montcalm i New Brunswick gan dreulio wythnos mewn tr锚n wedyn ar draws Canada i Vancouver, ac wedyn llong fechan i Comox , a setlo i lawr ar ddarn o dir yn Lazo.

Naw oed oedd Cyril pan gyrhaeddodd, a chyda'i frawd Glyn, saith, a'i chwaer Doreen, 12, bu iddynt chwyddo poblogaeth yr ysgol fechan un ystafell yn Lazo.

Am amser, ni fedrai'r athrawes ddeall y plant gan mai Cymraeg oedd eu hunig iaith.

Yn un o'i lythyrau adref, ac ar 么l ymweld 芒 rhai o aelodau'r teulu ym Mhrydain, dywedodd Cyril:

"Mae Lloegr yn hynafol a hen ffasiwn a byddaf yn meddwl yn reit aml pam y dewis miliynau o bobl fyw mor glos i'w gilydd ar ynys mor fechan.

"Mi fuaswn yn hoffi ychwaneg o amser i weld mwy ohoni....... Mi 'roeddwn yn hedfan dros Gymru brynhawn ddoe - gwlad gyda'i nentydd, bryniau ac afonydd , ac mae hon yn dlysach fyth."

Brawd a chwaer

Yn ystod y seremoni yn yr adeilad newydd , cefais y fraint o siarad gyda brawd a chwaer Cyril; y ddau yn dal i fyw yn y Dyffryn.

Yn ystod y sgwrs, cyfeiriodd Glyn at y daith hir ar draws yr Iwerydd, ac yna ar hyd Canada i Ynys Vancouver.

Deallwn ei deimladau yn dda gan i minnau hefyd wneud yr un daith 39 o flynyddoedd yn ddiweddarach!

Idris Hughes


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.