Castell Dinefwr
17 Mawrth 2009
Saif castell Dinefwr ar graig anferth uwchben afon Tywi, yn un o gadwyn o gestyll ar hyd neu'n agos i'r dyffryn: Llanymddyfri, Carreg Cennen, Dryslwyn a Chaerfyrddin.
Mae gwreiddiau Dinefwr yn gyfrinach. Mynnai Gerallt Gymro mai yma y bu canolfan brenhinoedd Deheubarth, ond mae'n sôn am y cyfnod hwnnw yn y gorffennol, ac yn anffodus nid oes unrhyw dystiolaeth i fodolaeth castell yma cyn y 12fed ganrif, na chwaith bod gan y brenhinoedd lys yma.
Rhaid bod castell Normanaidd o ryw fath yma cyn 1163, pan lwyddodd Rhys ap Gruffudd ei gipio oddi wrth Roger de Clifford. Ni wyddwn faint o amser y treuliai Rhys yn y castell, na faint o'r muriau a'r tyrrau a adeiladwyd ganddo, ond mae'n bur debyg iddo wneud cyfraniad i'r gwaith.
Ond erbyn y 1170au roedd Rhys yn ffafrio Aberteifi, lle adeiladodd y castell o'r newydd a chynnal ei ŵyl enwog o gerdd a barddoniaeth ynddo. Eto daliodd Dinefwr yn gastell o bwys, oherwydd bu cryn ymrafael rhwng disgynyddion Rhys ynghylch y lle; newidiodd ddwylo yn 1198, 1204, 1208 a 1213. Tynnwyd rhai o'r muriau i lawr gan Rhys Gryg, mab yr Arglwydd Rhys, yn 1220 ar orchymyn Llywelyn Fawr.
Trwsiwyd y castell gan Rhys Fychan, a sefydlodd fwrdeisdref Gymreig gerllaw. Erbyn y 1270au roedd yn bencadlys Rhys ap Maredudd ap Rhys Gryg, a fu am gyfnod yn gefnogwr Llywelyn ap Gruffudd, ond trodd i gefnogi Edward I yn 1277, gan ildio'r castell i'r Saeson.
Daliodd Rhys yn ffyddlon i Edward yn rhyfel 1282-83, gan obeithio cael Dinefwr yn ôl, ond fe'i siomwyd, a gwrthryfelodd yn 1287. Er iddo gipio'r castell, ni allai ei gadw, a daeth y gwrthryfel i ben yn fuan, er i Rhys lwyddo i fyw fel ffoadur yn ei wlad ei hun hyd 1291, pan gafodd ei ddal a'i ddienyddio Rywdro cyn hynny roedd y Saeson wedi sefydlu bwrdeistref newydd, Newton, ar dir mwy gwastad islaw'r castell.
Gwnaethpwyd niwed i gastell Dinefwr yn ystod gwrthryfel byrhoedlog Llywelyn Bren yn 1316, a dioddefodd eto yn 1321. Roedd Edward II wedi rhoi Dinefwr i'w ffefryn Hugh Despenser, ond ymosododd nifer o arglwyddi'r Mers arno a gwneud rhagor o niwed. Trwsiwyd y castell yn helaeth, ond serch hynny fe ddirywiodd ei gyflwr. Ond roedd yn ddigon cryf i wrthsefyll ymosodiad gan filwyr Owain Glyndŵr yn 1403, wedi iddynt lwyddo i gymryd castell Dryslwyn.
Erbyn 1450 roedd Gruffydd ap Nicholas yn dal Dinefwr; adeiladodd dŷ ar safle Newton, a disgynyddion Gruffydd fu'n berchnogion yr hen gastell a'r tiroedd braf o gwmpas hyd ail hanner yr 20fed ganrif. Codwyd math o dŷ haf ar ben tŵr mawr y castell er mwyn i deulu'r plas gymryd picnic yno, a daeth parc Dinefwr yn adnabyddus am ei dirwedd hardd, yn enwedig y coed, am y gwartheg gwynion a'r ceirw sydd i gyd yno heddiw.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.