Castell Cricieth
05 Chwefror 2009
Cychwynnwyd y gwaith adeiladu ar gastell Cricieth yn y 1230au, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), er bod peth ansicrwydd pa rannau o'r castell oedd yn rhan o ddatblygiadau pellach gan Edward I neu Llywelyn ein Llyw Olaf .
Mae ysgolheigion wedi trafod llawer ar hanes datblygu castell Cricieth. Y farn ddiweddaraf, eiddo'r diweddar Richard Avent, arbenigwr ar hanes cestyll yng Nghymru ac yn enwedig cestyll y Tywysogion Cymreig, yw mai gwaith Llywelyn Fawr a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yw swmp yr adeiladwaith, ond bod nifer o welliannau yn waith Edward I a'i fab Edward II.
Prif ddefnydd y castell am gyfnodau o'i hanes oedd fel carchar. Yma y carcharwyd Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i fab Owain gan y tywysog Dafydd ap Llywelyn yn 1239. Yn 1259 bu Maredudd ap Rhys Gryg o Ddeheubarth yn garcharor yma. Yn 1296 gyrrodd Edward I garcharorion o'r Alban i Gricieth, a bu'r lle'n garchar yn gyson hyd ei ddinistrio gan Owain Glyndŵr.
Yn ystod ail ryfel Cymreig Edward I yn 1282-83 cipiwyd castell Cricieth gan y Saeson. Yn dilyn y fuddugoliaeth cryfhaodd Edward y castell gyda datblygiadau a gwaith adeiladu pellach. Cwblhawyd y gwaith ar y castell gan Edward oddeutu 1292, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach dioddefodd ei warchae cyntaf gan y gwrthryfelwyr Cymreig, dan arweiniad Madog ap Llywelyn, oedd yn gyfyrder i Lywelyn ap Gruffydd.
Chwaraeodd lleoliad strategol y castell wrth lan y môr ran bwysig yn nycnwch y garswn, gan alluogi llongau o Iwerddon i gludo cyflenwadau pwysig i'r castell yn ystod y gwarchae.
Bu Cymro enwog yn gwnstabl castell Cricieth, sef Syr Hywel y Fwyall, oedd yn nodedig am ei wasanaeth ym mrwydrau Crecy a Poitiers. Daliodd y swydd o 1359 hyd ei farw yn 1381. Yn ôl y traddodiad, roedd lle wrth fwrdd cinio Syr Hywel i'w fwyall, gymaint oedd ei feddwl ohoni.
Dechreuodd dilynwyr Glyndŵr warchae'r castell cyn diwedd 1403. Y tro yma doedd dim cymorth na chyflenwadau i ddod mewn o Iwerddon i helpu'r Saeson, gan fod gan Glyndwr gefnogaeth llynges Ffrainc, oedd wedi eu hangori ym Môr Iwerddon. Doedd gan gastell Cricieth ddim dewis erbyn gwanwyn 1404 ond i ildio.
Fel na allai'r castell gael ei ddefnyddio fel cadarnle yn erbyn y Cymry fyth eto, dymchwelwyd y muriau gan ddilynwyr Glyndŵr a rhoi'r lle ar dân. Hyd heddiw gellir gweld olion y dinistr - nid yn unig o'r waliau a'r tyrrau sydd wedi eu dymchwel, ond o'r olion llosgi sydd ar rai o'r cerrig.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.