Cefndir cestyll Cymru
28 Ionawr 2009
Mae haneswyr yn dweud fod dros 400 o gestyll yng Nghymru - y cyfan bron yn adfeilion, a rhai wedi diflannu'n llwyr, ond mae'r olion yn parhau i'n hatgoffa o'u pwysigrwydd yn y gorffennol.
Gyda chymaint o gestyll mewn gwlad mor fach ei maint, mae mwy o gestyll i bob milltir sgwâr i'w cael yng Nghymru na unrhyw wlad arall yng Ngorllewin Ewrop.
Mae'r cestyll yn cynrychioli cyfnod pan oedd Cymru'n wynebu goresgyniad gan elynion llawer mwy effeithiol na'r rhai oedd wedi ymosod arni o'r blaen.
Roedd cestyll Cymru'n gynnyrch sawl carfan o adeiladwyr a pherchnogion. Yn gyntaf daeth yr ymosodiad Normanaidd, a hwythau'n raddol yn troi'n Saeson. Ymatebodd y Cymry trwy adeiladu eu cestyll eu hunain. I sicrhau'r goresgyniad mewn dau ryfel (1277-78 a 1283-84) crëwyd cadwynau o gestyll mawreddog o gwmpas Gwynedd. Fe godwyd ychydig o gestyll wedi'r Goresgyniad terfynol, a nifer eto yn ystod oes Fictoria.
Bu llawer o'r cestyll yn newid dwylo fwy nag unwaith. Os oedd castell yn syrthio i ddwylo'r buddugwyr, gallai gael ei ddefnyddio i'w budd nhw. Weithiau byddai'n cael ei addasu, neu byddai castell newydd yn cael ei adeiladu ar y safle neu gerllaw.
Ar adegau eraill, os oedd y castell wedi ei ddifrodi'n ddrwg mewn brwydr, a bellach yn ddi-werth fel amddiffynfa, byddai'n cael ei ddinistrio fel na allai unrhyw un ei ddefnyddio eto.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.