Portmeirion - Breuddwyd un dyn
topRhan 3: O ran teledu mwy diweddar, ffilmiwyd pennod olaf cyfres ddrama ITV, Cold Feet ym Mhortmeirion yn 2003.
Ymwelodd y cymeriadau â'r pentref er mwyn gwasgaru llwch y cymeriad Rachel Bradley (a chwaraewyd gan Helen Baxendale), a oedd wedi mwynhau adegau rhamantus yno gyda'i phartner Adam (James Nesbitt).
Mae'r gyrchfan hefyd yn le poblogaidd i briodi - daeth y pentref i'r penawdau yn 2003 wrth i Brian Capron - y llofrudd yn y gyfres Coronation Street, Richard Hillman - briodi ei gariad yno ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Mentrau'r Pentref
Sefydlodd merch Syr Clough, Susan, a oedd yn artist ac wedi ei hyfforddi gan Henry Moore, Grochendy Portmeirion ym 1960. Roedd Susan a'i gwr, Euan, wedi cymryd trosodd rhedeg siopau'r pentref yn y '50au, ac roedd Susan wedi cynllunio nifer o fathau o waith ceramig iddyn nhw. Yn y pen draw fe symudodd y cwmni i mewn i adeiladau yn Stoke on Trent ac erbyn hyn maen nhw'n allforio cynlluniau cyfredol a rhai wedi eu hail-lansio o'r '60au ar draws y byd.
Yn ogystal â'i ddiddordeb mewn Pensaernïaeth a chynlluniau tirluniau lliwgar, roedd Williams-Ellis yn dadlau'n gryf o blaid cadwraeth cefn gwlad, cynllunio mwynderau a chynllunio diwydiannol, ac mae'r casgliad o adeiladau a nodweddion pensaernïol wedi eu benthyg yn fodd i gadw elfennau o hanes pensaernïol o bob rhan o'r DU. Ym 1971 cafodd Syr Clough ei urddo'n farchog am ei wasanaeth i bensaernïaeth a'r amgylchedd.
Mwy
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.