麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Birkenhead

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Yr Unol Daleithiau yn ymuno 芒'r Rhyfel.
  • Ymdrech Haig i symud allan o Ypres yn fethiant ym mwd Fflandrys. Y brwydro yn dod i'w anterth gwaedlyd yn Passchendaele.
  • Lewis Valentine yn ysgrifennu yn ystod trydedd frwydr Ypres yn Awst:

    'Uffern! Uffern! Uffern! Cnawd drylliedig, esgeiriau yn ysgyrion. Atal, Dduw, y dwymyn wallgof, atal boeredd y mallgwn!'
  • Awdurdodau Coleg Aberystwyth yn atal y cylchgrawn Y Wawr oherwydd ei ferniadaeth ar y Rhyfel. 'Roedd T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Williams wedi cyfrannu i'r cylchgrawn.
  • Y Chwyldro Comiwnyddol yn ffrwydro yn Rwsia, a Lenin a Trotsky yn dod i rym.
  • Rhannau o Gymru yn croesawu'r chwyldro yn Rwsia. 'Mae'r chwyldro wedi peri mwy o lawenydd ym Merthyr Tudful nag yn unman y tu allan i Rwsia,' meddai'r Merthyr Pioneer, a chanai glowyr Rhydaman: 'Workers of the Vale of Amman', / Echo Russia's mighty thrust'.
  • Lloyd George yn cyhoeddi fod y Llywodraeth am ganiat谩u i ferched dros 30 gael pleidlais.
  • Rodin a Degas yn marw.

Archdderwydd               Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: ' Yr Arwr'
Enillydd: Hedd Wyn
Beirniaid: Dyfed, T. Gwynn Jones, J. J. Williams
Cerddi eraill: Sarnicol, Prifardd 1913 , oedd yr ail. Canodd am y Rhyfel Mawr. Un arall o'r cystadleuwyr aflwyddiannus oedd Dewi Emrys, a dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y Gadair, mae'n debyg.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau. Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd 芒'r Fyddin. Ar 么l iddo gwblhau ei awdl yn Ffrainc, ar y ffordd i Fflandrys, cafodd fymryn bach o drafferth i gael y gerdd heibio i sensoriaid y Fyddin, a ofnai fod perygl i Gymry Cymraeg ddatguddio cyfrinachau yn eu llythyrau Cymraeg.

Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb. 'Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe wythnos ynghynt. 'Roedd y Rhyfel a'r Brifwyl, llwyfan a chyflafan, yn un. Yn awdl 'Yr Arwr' mae elfen o adlewyrchu'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas Wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif. Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol. Credai T. Gwynn Jones mai'r ferch, a swffragetiaeth, a gynrychiolid gan 'Merch y Drycinoedd' yn yr awdl.

Bu llawer o ddadlau ynghylch ystyr awdl Hedd Wyn, a llawer o anghytuno. Bu llawer o ddyfalu pwy oedd yr Arwr yn yr awdl, a phwy oedd 'Merch y Drycinoedd'. Yr oedd yr ateb i'w gael ym marddoniaeth Shelley, hoff fardd Hedd Wyn. Yr oedd dylanwad dwy o gerddi hir Shelley, Prometheus Unbound a The Revolt of Islam, ar awdl Hedd Wyn, a cheir creadigaethau debyg i Arwr Hedd Wyn a 'Merch y Drycinoedd' yn y ddwy gerdd hyn. Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol. Yr awdl hon, ar lawer ystyr, oedd cerdd fawr olaf y mudiad Rhamantaidd, er i'r mudiad hwnnw lusgo ymlaen, yn adlais egwan, i'r dauddegau.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Pwyll Pendefig Dyfed'
Enillydd: Wil Ifan
Beirniaid: Cadfan, Elfed, Gwili

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Pryddest anarbennig yn y traddodiad chwedlonol-ramantaidd.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy