Â鶹Éç

Portmeirion - Breuddwyd un dyn

top
Neuadd Hercules ym Mhortmeirion

Rhan 2: Cafodd rhai adeiladau eu cynllunio gan Williams-Ellis, eraill eu tynnu i lawr, eu cludo a'u hailgodi o rannau eraill o'r DU.

Mae Hen Golofnres Bryste nawr yn sefyll o flaen y Pantheon cromennog. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn Arnos Court, Bryste, ym 1760 gan William Reeve a chafodd ei ailgodi yn Portmeirion ym 1959.

Cafodd Neuadd y Dref (1937-38) neu 'Neuadd Hercules' ei chynllunio i gartrefu nenfwd plastr 'fowt-faril' Jacobeaidd, gafodd ei achub o Neuadd Emral yn Sir Fflint ym 1933. Caiff dros 45 o adeiladau unigryw eu disgrifio yn arweinlyfr cyfredol Portmeirion.

Cafodd y dulliau adeiladu a'r manylion eu cadw mor syml â phosibl er mwyn i bob adeilad newydd gael ei gwblhau pan oedd y gwesty ar gau rhwng yr hydref a'r Pasg canlynol. Mae gerddi isdrofannol a enwir 'Y Gwyllt' yn amgylchynu'r pentref, a gaiff ei hybu gan gynhesrwydd Llif y Gwlff, ac erbyn hyn cânt eu nodi'n ardal Cadwraeth.

Lleoliad, lleoliad, lleoliad...


Patrick McGoohan yn y Prisoner

Mae nifer o bobl enwog wedi ymweld â Portmeirion yn cynnwys Noel Coward, a ysgrifennodd y ddrama 'Blithe Spirit' yno ym Mis Mai 1941. Ymwelodd y pensaer Frank Lloyd Wright ym 1956 fel rhan o'i unig ymweliad â chartref ei gyndadau, Cymru.

Ym 1966, perswadiodd Patrick McGoohan, y grym y tu ôl i'r gyfres 'The Prisoner', Williams-Ellis i ganiatàu iddo ffilmio yno.

Ers hynny mae'r rhaglen wedi dod yn glasur teledu cwlt wedi ei dangos mewn dros 60 o wledydd, gan ddod â sylw i'r lleoliad o bedwar ban byd.Patrick McGoohan oedd y seren a gymrodd ran y cymeriad canolog, 'Number Six': ysbïwr gâi ei ddal ymhlith pobl wedi eu cyflyru a'u cadw'n gaeth gan gyfundrefn ddirgel. Wrth rifau yn unig y câi y carcharorion eu hadnabod ac fe gaent eu cadw mewn trefn gan falwns anferth fyddai'n eu mogi petaen nhw'n ceisio dianc.

Roedd Portmeirion yn gefnlen arbennig o addas ar gyfer y rhaglen swrrealaidd hon - cydnabu Williams-Ellis bod y gyfres yn dangos Portmeirion ar ei orau. Cafodd statws cwlt y rhaglen ei gadarnhau gan sefydlu Cymdeithas Gwerthfawrogi'r Prisoner yn y 1970au. Roedd y lleoliad hefyd wedi cynnig ei hun fel cefnlen i'r stori yn y gyfres Dr Who, 'Masque of Mandragora,' ym 1976.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.