Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Chwarel Pen yr Orsedd Restoration
Roedd cyfres Restoration Village yn galw ar y cyhoedd i weithredu i achub treftadaeth Prydain yn y gyfres ar Â鶹Éç 2 yn ystod 2006.
Roedd 21 o adeiladau ar draws y Deyrnas Gyfunol yn rhan o'r bleidlais gyhoeddus gyda'r posibilrwydd o ennill arian hanfodol i sicrhau eu dyfodol.

Roedd cyfres 2006, a gyflwynwyd gan Griff Rhys Jones, yn canolbwyntio ar adeiladau sydd wedi bod o bwysigrwydd hanesyddol i gymuned wledig leol. Ac a allai fod eto.

Fe wnaeth gwylwyr y pumed rhaglen, sef rhaglen Cymru, ddewis Gweithdai Chwarel Pen yr Orsedd, Nantlle, fel y pumed adeilad i fynd drwodd i rownd derfynol y gyfres deledu ond yn anffodus, ni lwyddodd i fynd dim pellach.

Pleidleisiodd gwylwyr y gyfres dros weithdy gof yn Sir Warwick gydag Oriel Watts yn Surrey yn ail ac un o'r goleudai cyntaf yn Yr Albam, Dennis Head Old Beacon yng Ngogledd Ronaldsay, yn drydydd.

Roedd tri chynnig o Gymru, gan gynnwys dau o'r gogledd orllewin:

  • Chwarel Pen yr Orsedd (uchod)
    Saif adeiladau Chwarel Pen yr Orsedd ar dir uchel uwchben Dyffryn Nantlle, yn edrych dros lyn Nantlle.

    Agorwyd y chwarel yn 1816 a'i gweithio gan William Turner. Yn 1863 fe'i prynwyd gan WA Darbishire and Co ac yn ystod yr 1890au roedd tua 450 o ddynion yn gweithio yno. Fe'i caewyd yn 1997.

    Mae yno hen weithdai, cytiau weindio, barics, ysbyty, tÅ· cywasgu a melinau llechi ac os yn fuddugol, y gobaith yw datblygu'r adeiladau i'w defnyddio yn ganolfan hyfforddi ac yn weithdy ar gyfer atgyweirio, cynnal a chadw, dyblygiad neu gynhyrchu eitemau peirianneg sy'n rhan o dreftadaeth yr ardal. Mwy ... 'Institiwt' Niwbwrch

  • Sefydliad Prichard Jones
    Adeilad neo-Duduraidd yn Niwbwrch sy'n neuadd ddinesig yn dyddio o 1905 ac wedi ei restru yn Radd II*.

    Roedd yn rhodd gan Syr John Prichard Jones, ynghyd â chwech o fythynnod 'rhoddedig fel rhodd am byth ... i bobl Niwbwrch eu defnyddio ...ynghyd â'r bythynnod sydd er budd pobl Niwbwrch yn unig'.

    Yn frodor o'r pentref, roedd Syr John Prichard Jones o gefndir digon cyffredin. O fod yn brentis mân-werthu yng Nghaernarfon dringodd i frig y diwydiant ffasiwn gan agor ei siopau ei hun. Daeth yn gyfarwyddwr ac yna yn bartner yn Dickins a Jones, Stryd Regent, Llundain.

    Ef dalodd am adeiladu Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Cymru, Bangor.

    Roedd adeilad yr Institiwt yn Niwbwrch yn cynnwys llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell i'r merched, neuadd gyhoeddus, ystafell goffi, ystafell ysmygu a 'swyddfeydd eraill' ar gyfer preswylwyr y bythynnod a thrigolion Niwbwrch a'r ardal gyfagos.

    Caiff rhai ystafelloedd eu defnyddio fel mannau cyfarfod ac fel llyfrgell, sy'n cynnwys casgliad Prichard Jones. Tybir bod copi o The Compleat Angler yno yn rhywle!

    Heddiw, yn yr ystafell ddarllen, mae paneli dehongli am Lys Rhosyr - llys tywysogion Cymreig sy'n dyddio nôl i'r 14eg Ganrif. Nid yw lleoliad y Llys yn bell o Niwbwrch - cafodd ei ail-ddarganfod yn 1994.

    Er y caiff ei ddefnyddio gan y gymuned, mae'r adeilad wedi dirywio rhywfaint a phe bai'n fuddugol, y gobaith yw ei adnewyddu a gwneud mwy o ddefnydd ohono fel man cyfarfod a chynnal hyfforddiant - ac yn lle i gynnal priodasau hyd yn oed.

    Gall artistiaid lleol hefyd arddangos eu gwaith ar furiau'r ystafelloedd cyhoeddus. Bydd yr arteffactau, sydd yn cael eu cadw mewn ystafell gefn, i'w gweld gan gynnwys y penddelw o John Prichard Jones. Mwy ...

  • Llys Pen-bre ger Llanelli

  • Yr adeilad arall yng Nghymru oedd yn rhan o'r rhaglen oedd Fferm Cwrt Pembre yn Sir Gaerfyrddin, cliciwch yma am fwy o fanylion.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý