Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sefydliad Prichard Jones
Adeilad neo-Duduraidd yn Niwbwrch sy'n neuadd ddinesig yn dyddio o 1905 ac wedi ei restru yn Radd II ydy'r 'Institiwt', a oedd yn un o dair adeilad o bwysigrwydd hanesyddol lleol a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn rhaglen deledu Restoration Village ar Â鶹Éç Two. Mwy am y rhaglen
Sefydliad Prichard Jones
Yr Institiwt - Sefydliad Prichard Jones next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý 9Ìý 10Ìý
11Ìý 12Ìý

Roedd yn rhodd gan Syr John Prichard Jones, ynghyd â chwech o fythynnod "rhoddedig fel rhodd am byth ... i bobl Niwbwrch eu defnyddio ...ynghyd â'r bythynnod sydd er budd pobl Niwbwrch yn unig".

Yn frodor o'r pentref, roedd Syr John Prichard Jones o gefndir digon cyffredin. O fod yn brentis mân-werthu yng Nghaernarfon dringodd i frig y diwydiant ffasiwn gan agor ei siopau ei hun. Daeth yn gyfarwyddwr ac yna yn bartner yn Dickins a Jones, Stryd Regent, Llundain.

Ef dalodd am adeiladu Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Cymru, Bangor.

Roedd adeilad yr Institiwt yn Niwbwrch yn cynnwys llyfrgell, ystafell ddarllen, ystafell i'r merched, neuadd gyhoeddus, ystafell goffi, ystafell ysmygu a 'swyddfeydd eraill' ar gyfer preswylwyr y bythynnod a thrigolion Niwbwrch a'r ardal gyfagos.

Caiff rhai ystafelloedd eu defnyddio fel mannau cyfarfod ac fel llyfrgell, sy'n cynnwys casgliad Prichard Jones. Tybir bod copi o The Compleat Angler yno yn rhywle!

Heddiw, yn yr ystafell ddarllen, mae paneli dehongli am Lys Rhosyr - llys tywysogion Cymreig sy'n dyddio nôl i'r 14eg Ganrif. Nid yw lleoliad y Llys yn bell o Niwbwrch - cafodd ei ail-ddarganfod yn 1994.

Er y caiff ei ddefnyddio gan y gymuned, mae'r adeilad wedi dirywio rhywfaint a gobaith pobl y pentref yw ei adnewyddu a gwneud mwy o ddefnydd ohono fel man cyfarfod a chynnal hyfforddiant - ac yn lle i gynnal priodasau hyd yn oed.

Gall artistiaid lleol hefyd arddangos eu gwaith ar furiau'r ystafelloedd cyhoeddus. Bydd yr arteffactau, sydd yn cael eu cadw mewn ystafell gefn, i'w gweld gan gynnwys y penddelw o John Prichard Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý