Saif adeiladau Chwarel Pen yr Orsedd ar dir uchel uwchben Dyffryn Nantlle, yn edrych dros lyn Nantlle.
Cafodd yr adeiladau, sydd wedi eu cofrestru ar raddfa II, eu hadeiladu mewn dau gam - yn y 1860au a rhwng 1899 a 1907 - ac maent yn sefyll mewn lleoliad mynyddig hynod drawiadol. Agorwyd y chwarel yn 1816 a'i gweithio gan William Turner. Yn 1863 fe'i prynwyd gan WA Darbishire and Co ac yn ystod yr 1890au roedd tua 450 o ddynion yn gweithio yno. Fe'i caewyd yn 1997.
Mae yno hen weithdai, cytiau weindio, barics, ysbyty, tŷ cywasgu a melinau llechi ac os yn fuddugol, y gobaith yw datblygu'r adeiladau i'w defnyddio yn ganolfan hyfforddi ac yn weithdy ar gyfer atgyweirio, cynnal a chadw, dyblygiad neu gynhyrchu eitemau peirianneg sy'n rhan o dreftadaeth yr ardal. Mae'r waliau a'r toeau yn eu lle, ond mae angen adfer tu mewn yr adeiladau yn llwyr er mwyn creu canolfan weithdai a hyfforddiant ar gyfer trwsio, atgynhyrchu a chynhyrchu eitemau peirianyddol sy'n gysylltiedig â gwarchod treftadaeth.
Y bwriad yw i'r safle fod yn ganolfan leol a darparu cyflogaeth a hyfforddiant i un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Yr adeilad yn Nyffryn Nantlle oedd y pumed adeilad i gyrraedd rhaglen olaf y gyfres ddiwedd Medi ond yn anffodus, ni lwyddodd i ennill y bleidlais a'r dros £2m oedd ar gael i'r enillydd. Penderfynodd gwylwyr y gyfres mai gweithdy gof yn Sir Warwick a ddylai gael y flaenoriaeth gydag Oriel Watts yn Surrey yn ail a un o'r goleudai cyntaf yn Yr Albam, Dennis Head Old Beacon yng Ngogledd Ronaldsay, yn drydydd.
Ond, yn ôl arweinwyr ymgyrch Pen yr Orsedd, maen nhw am barhau â'r cynllun -
|