Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Teledu Teledu a Radio
Detholiad o raglenni ar deledu a radio sydd o ddiddordeb i gymunedau a phobl y gogledd orllewin.

FFERMIO
Nos Lun, 4 Medi, 8.25pm, S4C
Mae academig o Gymru'n credu y gall ffermwyr ddatrys y broblem o brinder dŵr ym Mhrydain.

Yn rhaglen gynta'r gyfres newydd bydd Yr Athro Gareth Edwards-Jones o Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol Cymru, Bangor yn awgrymu y gallai ffermwyr elwa o adeiladu llynnoedd bach ar eu tir. nos Lun, 4 Medi, 8.25pm, S4C "Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd Lloegr a Chymru'n derbyn llai o law yn 2020 nag yr ydyn nhw nawr. Oherwydd hyn, gellir bod yn bosib creu system lle mae ffermwyr yn adeiladu cronfeydd bach ar eu tir ac yna'n darparu dðr i'r cwmnïau dŵr am bris. Wedyn, gallai'r cwmnïau dðr drin y dðr a'i basio ymlaen at eu cwsmeriaid. Gall hyn arwain at godiad ym mhris y dŵr, ond gyda llai o ddðr i fynd rownd, mae'n bosib y bydd yn amhosibl osgoi codiad o'r fath." nos Lun, 4 Medi, 8.25pm, S4C Bydd Ffermio yn trafod awgrymiadau'r Athro Edwards-Jones gyda Colin Evans, Gwynfe, ger Llangadog, sy'n deall yn iawn yr angen i gynilo ar y defnydd o ddŵr. Oherwydd nad yw'r cyflenwad dðr o'r nentydd ar ei dir yn ddibynadwy iawn, mae wedi drilo dau dwll ar ei dir er mwyn darparu dðr i'w gartref ac anifeiliaid. Bydd cyflwynwyr Ffermio hefyd yn siarad â chyn ffermwyr tatws yn Sir Benfro sydd â chronfeydd segur ar eu tir.

WEDI SAITH
Nos Fercher, Medi 6, S4C - 7.00 - 7.30
Bydd Glyn Wise o Blaenau Ffestiniog, ddaeth yn ail yn Big Brother mis diwethaf, yn ymddangos efo'i cyd-gystadleuydd Imogen Thomas.

UNED PUMP
Pnawn Gwener, 8 Medi, S4C - 6.30
Bydd Glyn Wise o Blaenau Ffestiniog, ddaeth yn ail yn Big Brother mis diwethaf, yn ymddangos efo'i cyd-gystadleuydd Imogen Thomas.

YSGOLORIAETH BRYN TERFEL URDD GOBAITH CYMRU
Medi 2 - Medi 10, S4C (gweler isod am amseroedd)
Eleni, bydd S4C yn darlledu wyth rhaglen ddeng munud o hyd yn dilyn hynt a helynt yr unigolion sy'n cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2006, wrth iddynt dderbyn gwersi meistri yn eu meysydd penodol.

Byddwn yn dilyn yr wyth ifanc wrth iddynt baratoi am y ffeinal fawreddog, a gynhelir yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ym mhresenoldeb y dyn ei hun, Bryn Terfel. Bydd Bryn yno i fwynhau'r cystadlu ac i gyflwyno'r wobr o £4,000 i'r enillydd.

Meddai Bryn Terfel, "Mae'n fraint ac yn anrhydedd bod yng nghwmni Cymry ifanc mor dalentog a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yr ysgoloriaeth hon yn help ac yn hwb iddyn nhw fynd ymlaen i feithrin eu doniau yn y meysydd o'u dewis. Mae'n mynd i fod yn noson i'w chofio a dwi wrth fy modd 'mod i'n medru bod yno i fwynhau'r perfformiadau a chyflwyno'r wobr. Dwi'n sicr y gwelwn ni lawer mwy o'r unigolion ifanc a brwdfrydig hyn yn y dyfodol - maen nhw'n enillwyr bob un a dwi'n dymuno'r gorau iddyn nhw i'r dyfodol."

Dyma fydd trefn y rhaglenni:

  • 7.40pm, 2 Medi, Osian Gwyn, unawdydd o Lanelli
  • 9.20pm, 2 Medi, Elin Phillips, actores o Ben-y-bont ar Ogwr
  • 7.50pm, 3 Medi, Manon Mai, cantores werin o Lanelli
  • 9.00pm, 4 Medi, Rhys Taylor, clarinetydd o Aberystwyth
  • 9.30pm, 5 Medi, Owain Phillips, llefarydd o Orslas
  • 9.00pm, 6 Medi, Dewi Siôn Evans, unawdydd o Bontrhydygroes
  • 9.00pm, 7 Medi, Elain Llwyd, cantores cerdd dant o Gaernarfon
  • 9.00pm, 8 Medi, Gethin Page, dawnsiwr gwerin o Gaerfyrddin

    Ar ôl cael ein cyflwyno i'r cystadleuwyr yn ystod yr wythnos, bydd rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd yn cael ei darlledu nos Sadwrn, 9 Medi a'r cyngerdd mawreddog o Clwyd Theatr Cymru nos Sul, 10 Medi.

    IOLO'S WILD LIFE 2/4
    Nos Lun, Medi 11, Â鶹Éç One Wales, 7.30
    bbc.co.uk/walesnature
    Bydd Iolo Williams yn wynebu ei sialens fwyaf hyd yn hyn pan mae'n dysgu sut i ddringo ym Mharc Genedlaethol Eryri. Gyda chymorth arbenigwr o ganolfan Plas y Brenin, Capel Curig, bydd yn rhaid i Iolo gorchfygu clogwyni garw - a'i ofnau ei hun.

    Cyfnodau fel yma sy'n gwneud i chi stopio a meddwl - mae'n rhaid bod 'na ffordd haws o wneud bywoliaeth! Pam wnes i ddweud ia pan gefais y galwad ffôn?" meddai Iolo wrth oedi am anadl hanner ffordd i fyny'r clogwyn.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý