21 Gorffennaf 2004 Helo 'na! Newydd addo i blant ysgol Hendre, Caernarfon y byswn yn deud helo wrthynt - felly 'Helo i chi gyd a diolch am y croeso! Cofiwch chi ddysgu'r symudiadau na'n iawn erbyn y tro nesaf dwi'n galw heibio!' Yn sicr, un o'r pethau gorau am y daith i mi ydi perfformio mewn nifer o ysgolion a gweld y rhan fwyaf o'r plant yn cydganu i nifer o ganeuon ac yn dawnsio fel pethe gwirion! Ers y tro y diwethaf, mae'r band a finne wedi perfformio ym Mlaenau Ffestiniog o flaen cynulleidfa fywiog (a deud y lleia!), set acwstig yn y Glôb ym Mangor a Chlwb Ifor Bach, Caerdydd gyda'r band Frizbee - sy'n anhygoel! Nos Sadwrn yma, 24 Gorffennaf mi fyddwn ni lawr yng Nghrymych gyda Alun Tan Lan a Dydd Sul mi fyddwn ni'n teithio'n ôl i Gaernarfon i berfformio yn y Big Buzz gyda Emma Bunton a Liberty X! Yna yn y nos, mi fyddwn ni'n perfformio gyda band o'r enw Mooi yn y Central Station, Wrecsam. Ond cyn hynny i gyd, dwi lawr yn y sioe Frenhinol am ychydig ddyddiau, perfformiad yn y pentref ieuenctid nos Sul diwethaf gyda Dafydd Iwan a'r Band, set acwstig ar babell S4C a Bwrdd yr Iaith heddiw a fory dwi'n feirniad yng nghystadleuaeth 'Seren Wib' y Ffermwyr Ifanc - os fyddwch chi lawr yn y sioe galwch heibio i ganu cân! Hwyl am y tro! Elin Fflur7 Gorffennaf - yr wythnosau cyntaf30 Mehefin - dechrau'r daithDyddiadau'r daithY Gystadleuaeth Llongyfarchiadau i Gareth Powell o Rhuthun - enillydd y gystadleuaeth. Mae Gareth yn ennill copi o Dim Gair, CD diweddaraf Elin Fflur wedi'i lofnodi ganddi. Yr ateb cywir i'r cwestiwn 'Pwy sydd ar daith gydag Elin Fflur', oedd Alun Tan Lan.
|