Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

Â鶹Éç Homepage
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
³§³Ù´Ç°ùï²¹³Ü
Siart

Bitesize TGAU
Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Elin Fflur
Y Bala, Mehefin 2004
Gan Branwen Williams


Lle a phryd
Clwb Golff Y Bala, Nos Wener, Mehefin 18fed

Y bandiau
Elin Fflur a Alun Tan Lan

Awyrgylch
Un tro, digwyddodd rhywbeth od a phrin iawn ym Mala dirion deg - cynhaliwyd gig yn y clwb golff! Tua naw o'r gloch roedd pawb yn dechrau teimlo'n annifyr gan mai dim ond llond dwrn oedd yno, a'r grwpiau yn dechrau edrych yn ddigalon. Ond! Fel mewn pob stori dda, aeth pethau ar i fyny, dechreuodd y lle lenwi ac o fewn chwarter awr roedd y lle yn orlawn! Er mai lle bach, yn nghanol mynyddoedd Meirionydd ydi'r clwb golff a fod yr hysbysebu at y gig wedi bod yn erchyll o wael (sticio dau boster ar gefn dau arwydd ffordd a dyna ni!), mae'n amlwg fod 'y gair' wedi ei ledaenu yn dda iawn gan fod trigolion o Ruthun wedi ymuno a'r Bala Wâs!

(Faint oedd yn y gynulleidfa? Oedd y lle'n llawn? Pa fath o bobl oedd yn y gynulleidfa? Ymateb y gynulleidfa? Disgrifiwch y lleoliad)

Trac y noson
O ran y gynulleidfa yn gyffredinol, roedd hi'n amlwg mai 'Harbwr Diogel' oedd y fflêc yn eu peint. Yn bersonol, fersiwn Alun Tan Lan o 'Pethau Achlysurol' gan y Cyrff a 'Pan Ddaw'r Haul' gan Elin Fflur oherwydd mae yn y caneuon yma yr oeddech chi'n gweld 1) cystal gitarydd ydi Alun 2) cystal cerddorion sydd ym mand Elin Fflur.

Disgrifiwch y perfformiadau
Alun Tan Lan ddechreuodd y noson hefo set hanner awr; fo a'i gitâr. 'Dw i'm meddwl fod na haint yn ein hardal ni - dydi pobl ddim yn fodlon gwrando, parchu na rhoi cyfle i gerddorion newydd, nad ydy nhw wedi eu clywed o'r blaen. Oherwydd hyn, chafodd o ddim llawer o wrandawiad - colled y gynulleidfa! Fyswn i'n ei ddisgrifio fel cymysgedd o Gabriell 25, Mim Twm Llai a Meic Stevens - sŵn grêt. Mae o wrthi'n recordio efo Marc Roberts gynt o'r Cyrff / Catatonia a Billy Thomson (ffidlwr Hendrixaidd Meic Stevens, felly pawb i arbed eu pres yn barod i brynu'r stwff newydd.

Wedyn ddoth Elin Fflur a'i band i'r llwyfan - bas, gitâr a dryms. O'r nodyn cyntaf, roedda chi'n sylweddoli fod yma dalent a grŵp o offerynnwr tun iawn a lwyddodd i greu sŵn deg mil gwaith gwell na'r hun a geir ar y CD - wir i chi! Mae'r CD yn gallu swnio'n fflat ar ôl llawer o wrando, ond roeddwn i'n teimlo fel mod i'n clywed y caneuon o'r newydd - dyna ddweud digon!

Uchafbwynt y noson
Teimlo fod gig yn Bala wedi bod yn llwyddiannus, a fod y gerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysicach na'r cwrw am newid.

Y peth gwaethaf am y noson
Er o'n i'n teimlo fel nain yng nghanol y môr o wyneba ... yn, 'rhy ifanc'?! Ond dyna ni...

Achlysur Roc a Rôl
Wel, mi oedd Alun Tan Lan yn edrych fel ryw roc a rolydd mewn crys ffarmwr! (Amlwg wedi edrych mewn i'w gynulleidfa!)

Beth sy'n aros yn y cof?
Dawnsio a bywiogrwydd Elin Fflur - lle ti'n cael yr egni hogan!

Talent gorau'r noson
'Dw i'n rhoi yn llaw ar y nghalon a deud mai safon yr holl offerynwyr oedd talent y noson!
Er, yn ôl sylwadau bechgyn cyfagos - pen ôl Elin! Trafod y peth mor naturiol a thrafod y tywydd!!

Marciau allan o ddeg
9/10 am lwyddiant y gig a'r gerddoriaeth

Un gair am y gig
Codi Calon (ok 2 air!)

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Be oedd o'i le ar roi posteri o gwmpas Ysgol y Berwyn neu lythyr i'r chweched?! Plîs fandiau / drefnwyr gigs, rhowch rhyw faint o amser i hysbysebu! Falch gweld fod y sîn roc a'i chefnogwyr yn dal yn fyw ac yn iach!

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý