麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Elin Fflur a'r band Elin Fflur ar y ffordd
Manylion taith haf Elin Fflur a'r band o amgylch Cymru - dechrau'r daith.
O bosteri'n hysbysebu ei gwefan newydd i gyfweliadau mewn cyhoeddiadau Cymraeg ac yng nghylchgrawn yr Observer, mae'n anodd iawn osgoi'r gantores ifanc o F么n ar hyn o bryd.

Ers diwedd mis Mai, mae wedi bod ar daith fawreddog drwy Gymru a fydd yn para 10 wythnos - ac mi fydd yn anfon ambell sylw at Lleol yn ystod y daith.

18 Mehefin 2004 - Dechrau'r daith
Ar 么l agor Eisteddfod yr Urdd ym M么n mewn cyngerdd gyda Gwyn Hughes Jones, fe gafodd Elin laryngitis yn ystod wythnos gyntaf ei thaith gan orfod canslo un perfformiad ar faes yr eisteddfod ym Mona! Ond wedi gorffwys, mae'r llais yn 么l, ac bydd Elin a'r band wedi perfformio mewn 40 o lefydd cyn gorffen y daith ganol Awst!

"Bydd wedi ymweld ag ardaloedd sydd prin yn cael y cyfle i glywed perfformiadau byw yn y Gymraeg," meddai Ellen Davies, sy'n cyd-lynu'r daith ar ran Recordiau Sain.

"O Dafarn Beca yn Nhrelech a Thafarn y Bont yn Llangernyw i'r British Legion yn Llanrwst a'r Old Wine Vaults yn Nhreffynnon, mae pawb yn sicr o gael eu gwefreiddio.

"Bydd Elin Fflur a'r Band yn cefnogi Emma Bunton a Liberty-X yn ystod Big Buzz Caernarfon ar Orffennaf 25 hefyd," ychwanegodd.

Rhwng yr holl drafaelio mewn fan fawr wen sydd wedi ei haddasu'n arbennig ar gyfer y daith, mae Elin a'r band yn dal i gael amser i gyfansoddi caneuon newydd ac fe fyddan nhw'n dychwelyd i Stiwdio Sain yn Llandwrog fis Hydref i recordio albwm arall a fydd allan erbyn y Nadolig.

Alun Tan LanYn cadw cwmni i Elin a'r band ar y daith mae Alun Tan Lan o Bandy Tudur. Mae Alun yn cefnogi'r band gyda set acwstig sy'n cynnwys caneuon gwreiddiol ac addasiadau o ganeuon poblogaidd Y Cyrff a Ffa Coffi Pawb.

Bu Alun yn canu mewn tafarndai ar hyd a lled Iwerddon am saith mlynedd, a chyn hynny roedd yn aelod o'r band Serein.

Mae yntau hefyd wedi cael newyddion da am gytundeb recordio a bydd ei albwm acwstig gyntaf yn cynnwys cyfraniad y ffidlwr dawnus Billy Thomson, sydd wedi perfformio sawl gwaith gyda Meic Stevens ar lwyfannau Cymru.

Cynhyrchir albwm Alun gan Toni Schiavone a Mark Roberts, gynt o Catatonia a'r Cyrff, a bydd yn cael ei ryddhau ar label newydd RASAL yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd.

  • Dyddiadau'r daith
  • Y neges ddiweddaraf

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy