7 Gorffennaf 2004 - Sumai? Wel, dwi wedi bod ar daith ers pum wythnos bellach a coeliwch chi fi dydi'r bywyd roc a rôl ddim yn fêl i gyd! O fewn wythnos i ddechrau'r daith mi wnes i ddiodde o laryngitis a taro fy nghoes ar fan SAIN tu allan i Venue, Rhuthun - peth anodd ydi anwybyddu gwaed yn llifo lawr fy nghoes tra'n ceisio perfformio i 500 a mwy o gynulleidfa llon! Ond er hyn i gyd dwi wrth fy modd yn teithio o un lleoliad i'r llall, cwrdd â phobol gwahanol bob nos. Mae'r profiad o berfformio o flaen cynulleidfa wresog yn un cynhyrfus a chyffrous iawn, s'nam byd gwell! Mae'r buzz yn 'adictif'! Ers dechrau'r daith yn 'steddfod yr Urdd, mae'r band (sef Nathan Owen - gitâr, Deian Elfryn - dryms a Siôn Llwyd - gitâr fas, allweddellau a llais cefndir - sydd wedi bod o gymorth mawr efo'r nodau uchel!) a finne wedi teithio o'r Bala i Bontypridd gan ymweld â nifer o leoliadau ar y ffordd! Mae pob lleoliad wedi bod yn wych efo'r gynulleidfa yn ymateb yn grêt, felly diolch yn fawr os oeddech chi yno yn rhywle! Yr wythnos yma rydym yn ymweld â nifer o ysgolion yn y gogledd er mwyn annog pobl ifanc Cymru i ymddiddori yn y byd canu roc Cymraeg - hefyd mae'n ddiwedd tymor ac yn esgus da am barti cyn dechrau ar y gwyliau ha'! Sôn am barti, wel ges i brofiad anhygoel nos Wener dwytha'! Canu deuawd gyda'r anhygoel Huw Chiswell (ie, yr hync yn Ibiza! Ibiza! - dydi o heb newid dim!). Cofi Roc, Caernarfon, oedd y lleoliad ac roedd C2 yn recordio'r noson ar gyfer darllediad yn hwyrach yn y flwyddyn - thema'r darllediad oedd cyd-berfformio (y Brits Cymraeg!) Mi wnes i berfformio cân newydd gan Acoustique gyda Lleuwen Steffan, daeth Lleuwen a finne i'r llwyfan yn ystod set Huw Chiswell i berfformio dwy gân oddi ar ei albwm newydd 'Dere Nawr' ac yna daeth Huw i'r llwyfan i berfformio 'Llwybr Lawr i'r Dyffryn' efo fi a'r band! Noson wych, y lle'n orlawn! Yr unig downar oedd gwybod bod rhaid i mi godi am 6:30 y bore wedyn i fynd lawr i Barti Ponty! Ond o leia' ges i gyfle i gysgu yng nghefn y fan ar y ffordd lawr! O ia! Mae Alun Tan Lan yn deud helo, ac yn gofyn i chi gadw'ch clustiau'n 'gored am draciau oddi ar ei albwm newydd 'Aderyn Papur'. Hwyl am y tro! Elin Fflur Darn nesaf ... 30 Mehefin - dechrau'r daithDyddiadau'r daith
|