|
|
麻豆社 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCychwyn gobeithiol4 Awst 2007Y tywydd o blaid ac arian yn y pwrs Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ymlaen at gychwyn da gyda chyflwr y maes wedi ei drawsnewid yn llwyr o'r hunllef mwdlyd oedd o ychydig dros wythnos yn 么l yn dilyn glawogydd di-baid. Ac mae'r trefnwyr yn ffyddiog iddynt wneud digon i ddiogelu'r maes gyda graean a thracfyrddau i ddygymod ag unrhyw newid yn y tywydd yn ystod yr wythnos. A chyn bwysiced na dim maen nhw'n gwybod yn barod i'r ymgyrch gasglu arian yn lleol fod yn llwyddiant ysgubol gyda llawer mwy na'r nod wedi cyrraedd y coffrau - a darogan y bydd pobl Sir Y Fflint wedi codi mwy o arian na neb arall erioed erbyn y diwedd! "Y nod oedd 拢300,000 ac mae 拢365,000 wedi ei godi," meddai Selwyn Evans, trysorydd y pwyllgor gwaith. Dywedodd ef i'r gymuned leol ymateb yn rhyfeddol i ymgyrchoedd codi arian o bob math wedi eu llunio i apelio at y gymdeithas leol yn gyffredinol. "Yr oeddem wedi gwneud yn si诺r bod yna ddigon o ymgyrchoedd a fyddai'n apelio at bobl nad oeddent yn eisteddfodwyr - pethau fel nosweithiau cyri, teithiau, twrnamaint golff a gwthio coets o Nercwys i'r Wyddgrug a gododd fil o bunnau ei hun. Hyn oll ar ben y boreau a'r pnawniau coffi arferol," meddai Mr Evans a oedd yn cynorthwyo ar y maes ddydd Gwener ac yn paratoi stondin ei siop, Siop y Siswrn. Ychwanegodd i'r ymgyrch godi arian fod yn fodd i ddod a phobl Sir y FFflint at ei gilydd. "Mi fu yna lawer o bontio," meddai. Straeon newyddion eraillCategori
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |