|
|
麻豆社 Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCyfarchion o faes Prifwyl Sir Fflint a'r Cyffiniau ar fore Llun. Ac mae'n ymddangos nad oes dim wedi newid - o leiaf yn agwedd rhai at y Steddfod. Cysgu'n braf oedd Nedwyn yr hen gi bach sy'n cadw cwmni blynyddol inni yn Stafell y Wasg - cysgu a'i gefn at bawb oedd o pan adewais y Felindre y llynedd ac yr oedd yn gwneud yr union run peth pan gyrhaeddais eleni. Mi ddywedwn i na fydd Nedwyn byth yn steddfotwr go iawn. Dwylo allan . . .Ond yn 么l yr hyn mae o'n ddweud wrth bawb mae ein Gweinidog Treftadaeth newydd, Rhodri Glyn Thomas, wrth ei fodd yn y Brifwyl. Ac, wrth gwrs, eleni bydd pob Twm, Dic a Harri Bach yn lluchio lledod ato gan obeithio y bydd yntau yn barod i rannu peth o'r cyfoeth sydd ganddo yn y pwrs cyhoeddus. Beth pe byddai o'n galw, felly, ym Mhabell y Cymdeithasau y bore 'ma a rhoi addewid am gelc go lew i achub y wasg Gymraeg brintiedig. Diwylliant newydd . . .Ond efallai y bydd o'n galw heibio Maes D ychydig yn ddiweddarach. Yno mae rhywun o'r enw Pol Wang yn cynnal sesiwn Gung Ffw ac efallai y gall y gweinidog ein goleuo sut yn union mae'r cyryw beth yn ffitio i'r dreftadaeth Gymreig. Tipyn o ddrama . . .Dirgelwch arall ydi'r sibrydion rhyfeddol nad yw Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru ddim am groesawu'r wasg a'r cyfryngau i weld eu perfformiad cyntaf o'r ddrama newydd, Wrth Borth y Byddar gan Manon Eames. A'r rheswm glywais i yw fod y cynhyrchwyr am i'r cast gael cyfle i setlo'i lawr cyn bod yr adolygwyr yn cael cyfle i fwrw eu llinyn mesur. Agwedd braidd yn amhroffesiynol efallai - os ydy o'n wir wrth gwrs! Gwyntoedd buddiol . . .Ond mae'n gwbl wir bod yna gwmni sy'n arbenigo mewn datblygu ffermydd gwynt wedi penderfynu dod i genhadu ar faes y Brifwyl - ac mae'n amlwg eu bod yn griw o bobl sy'n gweld ymhell. Prin bod lle gwell yn unwam a mwy o wynt o bob math na maes y genedlaethol. Jyst y lle i Windpower Wales Ltd Y Steddfotwr prysuraf . . .
Cwestiwn bach r诺an. Buddugwyr newydd . . .A dwi'n si诺r y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn joio croesawu buddugwyr prig gystadlaethau Prifwyl yr Urdd i'r cylch cyfrin y bore ma a hynny am y tro cyntaf erioed. Sgwn i a ydi Bwrdd yr Orsedd yn bwriadu agor y drysau i'r rhai hynny sy'n dod i'r brig ym Mhrifwyl y ffermwyr Ifainc y flwyddyn nesaf. Mae'n bwysig cadw'r ddesgil yn wastad. Gweinier y cledd.
Categori
|
About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |