|
|
Â鶹Éç Homepage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Ìý |
StraeonArgyfwng yr ifanc sy'n lladd eu hunain6 Awst 2007Rhys Meirion yn cefnogi PAPYRUS Bydd un o denoriaid enwocaf Cymru yn galw ar Faes yr Eisteddfod am i bobl fod yn ymwybodol o argyfwng pobl ifainc sy'n lladd eu hunain. Rhys Meirion fydd y gŵr gwadd mewn derbyniad gan fudiad PAPYRUS Cymru am 2.00 pm ddydd Mercher yn Stondin Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint er mwyn tynnu sylw at ymdrechion i ostwng cyfraddau hunanladdiad ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Rhwng 2001-05 roedd y cyfartaledd o bobl 24 oed a gymerodd eu bywydau eu hunain yn 37. Wedi ei syfrdanuDywedodd Rhys ei fod wedi'i syfrdanu gan y nifer uchel o bobl ifanc yng Nghymru, yn arbennig dynion ifanc sy'n cymryd eu bywyd eu hunain bob blwyddyn. Gyda'r raddfa hunanladdiad ymysg pobl ifanc Cymru sydd rhwng 11 ac 17 oed yn uwch nag yn Lloegr dywedodd Rhys Meirion ei fod ef yn bersonol yn adnabod nifer o bobl sydd wedi dioddef. "Fel rhiant a chyn brifathro ysgol gynradd, rwy'n ymwybodol fod pobl ifanc yn wynebu pwysau mawr yn yr amgylchedd cystadleuol heddiw," meddai. Ychwanegodd fod hynny'n cynnwys pwysau gan eu cyfoedion i 'fod yn cŵl'. "Felly, rwy'n canmol gwaith PAPYRUS i godi ymwybyddiaeth y gellir atal hunanladdiad a bod cymorth ar gael ac yn eich annog i godi cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl am rif ffôn 'LlinellOBAITH'," meddai. Ychwanegodd na ddylai unrhyw un sy'n bryderus am berson ifanc oedi cyn galw. Llinell deleffonMenter a lansiwyd yn gynharach eleni yw PAPYRUS Cymru gyda'r nod o ostwng hunanladdiad ymysg pobl ifanc yng Nghymru trwy godi ymwybyddiaeth am LlinellOBAITH a hybu gwaith yr elusen genedlaethol. Dywedodd Cadeirydd PAPYRUS Cymru, Ann Williams o'r Wyddgrug: "Mae LlinellOBAITH yn derbyn galwadau gan rieni, brodyr a chwiorydd, ffrindiau, athrawon, gofalwyr, meddygon a'r sawl sy'n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl. "Mae'r llinell yn cynnig cyngor ymarferol yn gyfrinachol ac yn ddienw, ar sut i ymateb i deimladau o hunanladdiad: beth i'w ddweud a'i wneud," meddai. Angen aelodau newyddGalwodd am aelodau newydd gan ddweud: "Rydym yn grŵp positif, egniol iawn gyda phenderfyniad cadarn i atal mwy o deuluoedd rhag y gofid o hunanladdiad. Yn sicr, nid grŵp galar ydyn ni. Credwn fod ein gwaith yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth ac arian rydym wirioneddol ei angen." Sefydlwyd PAPYRUS yn ganolog yn 1997 gan rieni a gollodd blant trwy hunanladdiad. Yn ogystal â chynnal LlinellOBAITH mae'n comisiynu ymchwil ar hunanladdiad ymysg pobl ifanc, lobio ar faterion fel diogelwch y Rhyngrwyd a chynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau y gellir eu derbyn o'r wefan www.papyrus-org. Categori
|
About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Ìý |