³Ò°ùŵ±è:
Tangwystl
Enw:
Siôn Iorwerth, fi yw'r canwr ac rwy'n chwarae'r sacsoffon.
Bwriad:
Creu cerddoriaeth gyfoes, unigryw a chyffrous.
Dylanwadau:
Mae gennym ni nifer o ddylanwadau gwahanol, rydw i'n ffan mawr o Serge Gainsbourg, Ffrancwr oedd yn chwarae'r piano mewn 'ffilmiau tawel'. Rwyf hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth Jazz, un o fy arwyr yw Miles Davies, yn ogystal â phob math o gantorion gwahanol o'r Velvet Underground i gerddoriaeth gyfoes fel y Strokes, y Libertines a Shania Twain.
Disgrifia'r gerddoriaeth:
Sai'n hoffi rhoi "label" ar ein cerddoriaeth, baswn i ddim yn siŵr sut i'w rhoi mewn categori. Mae Gruff sy'n chwarae'r gitâr flaen yn hoff iawn o gerddoriaeth Led Zeppelin ac felly chi'n cael y solos hir a diflas (sh!!!). Ma' Ceri'r drymiwr yn dod â dylanwad reggae i'r curiad, a Dave sy'n chwarae'r bas yn defnyddio nodau cyflym fel y ceir mewn cerddoriaeth pync. Dwi jest yn sefyll yno'n canu'n swynol ac yn cynnig rhywbeth bach ychwanegol gyda'r sacsoffon.
Sut wyt ti'n paratoi cyn perfformio/ mynd ar lwyfan?
Rydym ni i gyd yn hoff o wrando ar seithfed symffoni Beethoven, mae'n helpu ni i ymlacio a chanolbwyntio.
Rydych chi wedi llwyddo i godi proffil eitha' da yn y sîn roc Gymraeg, ac yn sydyn iawn, sut?
Yn gyntaf, roedden ni wedi ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau'n lleol, ac wedi llwyddo mynd i'r rownd derfynol yn yr Eisteddfod eleni. Ers hynny rydym wedi chwarae gyda Bob Delyn a'r Ebillion, Mattoidz, Ashokan, ac mae'r rhestr yn cynyddu. Ymhen rhyw wythnos neu ddwy, rydym ni'n cael ein recordio ar "Radio 1 sessions in Wales" gyda Bethan a Huw.
Cyffrous iawn, rydych wedi cael llwyddiant yn go sydyn.
Rydym wedi bod yn lwcus, ac yn gobeithio byddwn yn mynd o nerth i nerth! Rydym wedi recordio demo gyda' wyth cân, o'r enw "Sdim solos mewn hip hop..." ac wedi gwerthu eitha' lot.
Oes gyda ti unrhyw gyngor i bobl ifanc Cymru sy'n dyheu am fod mewn band?
Ewch amdani, mae'n lot o hwyl, ac yn hybu'ch hyder os ydych unrhyw beth fel oeddwn i gynt.
Cyfweliad gan Siwan Williams
Beth yw eich barn am y band? Rhowch eich sylwadau isod.