Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
"Dweud Ein Dweud"
Disgyblion Ysgol Bro Myrddin yn dweud eu dweud am bynciau llosg sy'n bwysig iddyn nhw.

Beth wyt ti'n feddwl o enw'r ysgol newydd "Queen Elizabeth High" yn Nhreioan?
Sion Ifan"Does dim ots 'da fi am yr enw. Os ydyn nhw moyn galw'r ysgol ar ôl y Frenhines, eu dewis nhw yw hynny. Ond fi'n credu bod angen adeilad newydd ar yr ysgol yna er mwyn denu Cymry yn unig i Fro Myrddin, yn hytrach na'r disgyblion sy'n dod oherwydd bod Bro Myrddin yn adeilad cymharol newydd."
Siôn Ifan

Ble hoffet ti weld Eisteddfod yr Urdd yn 2007?
Carys Bowen"Rwy'n credu dylai Eisteddfod 2007 gael ei chynnal yng Nghaerfyrddin achos dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl buodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Tro Caerfyrddin yw hi nawr."
Carys Bowen

Wyt ti'n cefnogi'r cynlluniau i adeiladu Tesco Extra yng Nghaerfyrddin?
Dorothy Bere"Nac ydw. Fi'n erbyn y Tesco newydd. Mae'n mynd i ladd y busnesau bach lleol oherwydd bydd pobl yn siopa yn Tesco ac yn anghofio am y farchnad a'r siopau eraill. Bydd e hefyd yn chwalu enw Caerfyrddin fel tref farchnad."
Dorothy Bere

Beth yw dy farn ar gau ysgolion bach Sir Gaerfyrddin?
Heulwen Evans"Os yw ysgolion bach y wlad yn cau, mae'n medru dinistrio cymuned gyfan ac arwain at wahanu ffrindiau a cholli'r iaith Gymraeg."
Heulwen Evans

Beth fyddet ti'n ddweud wrth bobl ifanc Caerfyrddin am yr iaith Gymraeg?
Hanna Hopwood"Mae angen i bobl sylweddoli pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a dod i wybod faint o sbort gellir ei gael drwy fynd i gigs Cymraeg."
Hanna Hopwood

Yn dy farn di, ble dylai Eisteddfod yr Urdd 2007 gael ei chynnal?
Eleri Jenkins"Os caiff y 'steddfod ei chynnal yn Llanelli, nid Eisteddfod Caerfyrddin fydd hi, yn ôl y bwriad gwreiddiol. Felly hoffwn ei gweld yn dod i Gaerfyrddin."
Eleri Jenkins

Oes angen gwneud gwelliannau i Gaerfyrddin?
Dafydd Loughran"Oes. Mae angen moderneiddio Caerfyrddin er mwyn cadw'r ieuenctid yn yr ardal."
Dafydd Loughran

A oes digon o Gymraeg yng Nghaerfyrddin?
Angharad Lewis"Nac oes. Er bod dros hanner poblogaeth Caerfyrddin yn medru siarad Cymraeg, dydy eu hanner nhw ddim yn defnyddio'r iaith. Yn fy marn i, beth yw'r pwynt siarad Saesneg pan ellwch chi siarad iaith y nefoedd?!"
Angharad Lewis


Cyfrannwch

Nia o Bro Myrddin
jyst ishe cytuno da loopy a dwlali- ma rheol siwperi ysgol ni yn rybish! Ma pawb yn collapso a popeth ond ma dal rhaid ni wisgo siwmperi.
Sun Jan 20 18:47:15 2008

Lisa,Mari a Ffion o Maes Yr Yrfa
Rydym yn cytuno gyda Hanna.Ond dylem werthfawrogi bod cymuned gymraeg da iawn i gael yn barod hefyd. Mar gigs yn llawn hwyl a sbri!!!!!!!!!!!!!!!!!!
Thu May 4 12:38:52 2006

Nia o Lanelli
Rwy'n cytuno gyda Heulwen-ysgol yw calon y pentre' a does neb am weld pentrefi bach yn marw allan.
Tue Dec 20 23:06:23 2005

Dwlail-unwaith eto!
Diolch am dy goments winwns ond mae hawl i bawb cael ei barn. Mae bron pob un o'r plant yn casau'r rheol newydd felly fi jyst yn sefyll lan amdanyn nhw. Dyw busnes siwmperi yma ddim yn bwysig i mi gan fy mod yn gwisgo siwmper bob tro beth bynnag. Allen ni fod yn gwisgo sach datws i'r ysgol - bydden ni dal yn dysgu popeth fel yr ydym nawr. I fod yn onest rydym yn colli amser yn gwersi oherwydd rhaid gofyn caniatad i dynnu siwmper i ffwrdd!
Fri Dec 16 10:20:11 2005

winwns o Fro Myrddin
Ie, ond ysgol yw ysgol. Mae gan yr athrawon yr hawl i wneud rheolau er mwyn hwyluso'r ysgol. Fe wnaeth y plant or-ymateb i'r holl beth drwy brotestio. Nid yw plant bro myrddin ... yn medru ymgyffred a sefyllfa sydd yn galw am wir "brotest".
Tue Dec 6 21:41:29 2005

Loopy a Dwlali o Sir Gar
Rydym yn erbyn y reol newydd o wisgo siwmperi yn yr ysgol. Mae'r athrawon yn ddwl i feddwl ein bod ni yn mynd i wrando!! sain hoffi'r ffaith, oherwydd mae'n rhaid i ni ofyn caniatad i dynnu siwmperi bant. Nesaf bydd rhaid i ni ofyn caniatad i anadlu! Mae'n hollol fascist!
Thu Nov 24 12:34:30 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý