Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Drumbago Brwydr y Bandiau
Ummh a Drumbago a mwy
Adolygiad Lowri Johnston o gig Cymdeithas yr Iaith: Brwydyr y Bandiau, Ummh a Drumbago, Amser Bangor Awst 2, 2005

Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn llwyddiant mawr eleni gyda ryw 25 o fandiau yn cystadlu.

Eleni, mae enillwyr y pum rhagbrawf dros Gymru yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn cael sesiwn recordio, taith dros Gymru a chyfle i gefnogi Meic Stevens nos Sadwrn yn Amser, Bangor.

Llawer o egni
Neb, o'r Wyddgrug, sy'n agor y noson. Dwi'n mwynhau'r perfformiad ac mae gan y prif leisydd lawer o egni ac yn amlwg yn mwynhau ar lwyfan.

Y gân ola' yw'r uchafbwynt yn bendant, cân roc trwm am Gymru, gyda'r prif leisydd yn chwifio baner Cymru.

Maen nhw'n chwarae fel eu bod nhw'n chwarae i ystafell lawn o bobl yn dawnsio'n wyllt er nad yw'r lle yn hanner llawn eto!

Rant yn orau
Jen Jeniro sydd ymlaen nesaf a dwi'n meddwl eu bod nhw'n wych.
Mae'r perfformiad yn gwella wrth iddo fynd yn ei flaen ac wrth iddynt ymlacio.

Y gân orau yn sicr yw Canol y Ffordd sy'n rant am gerddoriaeth Cymru a'r cyfryngau; "Cân serch i Bryn Fôn" yn ôl y prif leisydd.

Mae'r geiriau yn glyfar a doniol ac mae llais y prif leisydd yn dda yn rapio.

Band da iawn am fod eu caneuon i gyd yn wahanol.

Gall hyn fod yn beryglus os nad yw band yn medru darganfod eu steil unigryw, ond mae hefyd yn gwneud band yn fwy diddorol.

Dwi'n gwir fwynhau'r perfformiad ac mae'n fand addawol iawn.

Y gwanaf
Y Strêts sydd nesa' a dyma fand gwana'r gystadleuaeth yn fy marn i.

Er eu bod nhw i gyd yn offerynwyr da iawn - gyda'r drymiwr yn cael ei adnabod fel cerddor gorau'r gystadleuaeth gan y beirniad Huw Stephens - dwi'n teimlo eu bod nhw braidd rhy broffesiynol ac wedi ymarfer gormod.

Braidd yn 'ganol y ffordd' a dim digon o botensial, sef holl bwynt brwydr y bandiau.

Amharu â'r offerynnau
Tangwystl o Gaerfyrddin sydd nesa'.
Perfformiad da iawn, yn enwedig wrth feddwl fod rhywun wedi amharu ar yr offerynnau cyn iddynt fynd ar y llwyfan.

Mae'r prif leisydd yn dda iawn ar lwyfan, a sŵn y bass yn wych.

Weithiau maen nhw'n dueddol o golli ei gilydd ychydig ond mi ddaw hyn gyda mwy o ymarfer a phrofiad gigs.

Mae nhw i gyd yn offerynwyr da iawn a hynny'n cael ei brofi yn 'Improf' gyda darn unigol ganddynt i gyd.

Mae ychwanegiad y sacsaffôn i'r caneuon yn dda iawn - mwy o hyn plîs!

Ac i gloi'r gystadleuaeth mae'r Derwyddon o Gaernarfon. Yn sicr, dyma'r band sy'n disgleirio fwyaf yn y gystadleuaeth gyda chaneuon tyn ffynci ac mae nhw'n cael rhan helaeth o'r gynulleidfa i ddawnsio.

Band i'w mwynhau ac mae potensial mawr yma. Ac ie, dyma ennillwyr y gystadleuaeth - llongyfarchiadau! Edrych ymlaen i'w gweld nhw yn y gig nos Sadwrn.

Ar ôl y wledd yna o gerddoriaeth addawol mae Ummh yn ymddangos - y tro cyntaf i mi eu gweld ac maen nhw'n ffantastig.

Hollol ffynci a hollol cwl.

Mae Ed Pep Le Pew yn ymuno i rapio ar y llwyfan sy'n ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r caneuon jazz.

Dawnsio'n wyllt
Nesa' mae Drumbago sy'n reit debyg i Ummh ac yn cadw pawb i ddawnsio'n wyllt. Band gwych yn fyw gyda'u bîts African funk er eu bod braidd yn undonog ar adegau prin.

Noson dda iawn, a dyna gyd sydd ar ôl i'w wneud yw rhedeg nerth ein traed i ddal y Bws Tafod sy'n aros amdano ni tu allan!


Mwy o storiau Dydd Iau


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý