Mae chwaeth pob person yn wahanol. Ffilmiau o'r 60au sydd at ddant rhai, tra bod eraill yn mwynhau ffilmiau mwy diweddar. Ond pa rai sydd orau - y " clasuron" neu'r ffilmiau diweddaraf?
Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen mae'r gwelliannau technolegol a'r cyfrifiaduron diweddaraf wedi gweddnewid y diwydiant ffilmiau. Y cwestiwn rwy'n ei ofyn yw, ydy technoleg yn chwarae rhan rhy bwysig ym myd y ffilmiau heddiw?
Nid oes angen gwell enghraifft na " Star Wars" i ddangos sut mae technoleg wedi helpu i wella ffilmiau. Mae pawb yn cofio'r tair ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres am yr antur a'r gwaith cyfrifiadurol ynddynt. Campweithiau technolegol oedd yn dod â bydysawd arall yn fyw. Faint tybed sy'n eu cofio am y storïau yr oeddynt yn eu hadrodd?
Y gwir amdani yw bod angen stori dda i wneud "clasur" a bod y ffilmiau sy'n defnyddio'r cyfrifiadur i raddau anhygoel yn cysgodi'r stori. Creu'r effaith "WOW" sydd flaenaf ar feddyliau gwneuthurwyr ffilm erbyn heddiw.
Rhaid cydnabod mai diwedd y gân yw'r geiniog ac mae'r math o ffilmiau sy'n cael eu creu yn dibynnu'n llwyr ar y galw yn y swyddfa docynnau. Mae'r swm o arian y gellir ei ennill o greu ffilm anhygoel a chofiadwy yn anferth.
Felly, y tro nesaf y byddwch yn gwylio ffilm, edrychwch heibio i'r gwaith cyfrifiadurol a meddyliwch a oes stori?
Gan: Marc Davies
Beth yw eich barn chi am dechnoleg mewn ffilmiau? Gallwch ymateb i'r erthygl hon a mynegi eich barn isod.
|