Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lleisiau
Maes glo y de - Dyffryn Aman Streic yn newid bywydau
Anghofiwch y gwleidyddion a'r haneswyr, edrych yn benodol ar stori'r bobl oedd ynghanol streic y glöwyr nôl yn 1984 oedd rhaglen deledu arbennig gan Â鶹Éç Cymru.

Roedd Cau Pwll - Lladd Cymuned? (Dydd Mawrth, Ebrill 6, 2004 Â鶹Éç Cymru ar S4C) yn cynnwys atgofion a barn y bobl gyffredin gan gynnwys glöwyr a'u teuluoedd.

Gofidio am y plant
Yn 1984, fe ymddangosodd Hilda a Billy Roberts o'r Tymbl ar raglen Newyddion 7 pan oedd Billy ar streic ac yn poeni am yr effaith ar eu pump o blant o wybod y byddai'r streic yn gyfnod anodd.

Hilda a BillyOnd roeddynt hefyd yn edrych ymhellach ac yn ofni tranc y diwydiant glo.

Fel unrhyw riant, y gofid mwyaf oedd beth oedd o flaen y plant, lle y bydden nhw'n cael gwaith i'w cynnal nhw a'u teuluoedd hwythau.

Yn 2004, mae pob un o'r pump o blant wedi llwyddo i aros yn eu cynefin gyda'u teuluoedd a chael gwaith yn lleol.

Teulu arall yw un Aled Morris a'i ferch Meinir, o Abercwmboi. Yn ddeg oed ar y pryd mae Meinir yn cofio haelioni pobl ynghanol cyfnod mor galed.

Yn wir, dyna un o'r prif bethau a wnaeth Cau Pwll - Lladd Cymuned?; edrych ar y streic o safbwynt plant y cyfnod.

Heddlu yn y strydoedd
Roedd Meinir hefyd yn cofio'r llinell biced ger y tÅ· ac yn cofio'r holl heddlu ar y strydoedd cyfagos.

Mae'n sicr i'r streic ei gwneud yn berson cryfach a pharotach i sefyll dros rywun sy'n cael cam.

Meinir ac Aled Morris"Falle bod e wedi siapo fel fi'n edrych mas ar bethe," meddai. "Os oes rhyw gam ar rywun rwy'n tueddu i fod yr un sy'n stico 'nhrwyn mewn a sefyll drostyn nhw."

Ond cafodd bywyd ei thad, Aled Morris, ei drawsnewid gan y streic. Pan gaeodd gwaith glo Phurnacite ddechrau'r 90au aeth i goleg, rhywbeth na fyddai byth wedi ei wneud onibai iddo oroesi streic mor hir a chaled.

Erbyn heddiw mae'n weithiwr cymdeithasol.

"Nath e roi rhyw fath o hunan barch i'n hunan," meddai. "Hunan hyder hefyd achos yn yr amser o'n i'n dreulio yn brifysgol yn newid ac yn cael tystysgrif i wneud gwaith cymdeithasol o'n i'n eithaf hyderus.

"O'n i wedi bod mas ar streic am flwyddyn. I fod allan am ddwy flynedd, tair blynedd i gael addysg uwch ac yna meddwl sut ydw i'n mynd i neud hynny, beth ambwyti arian, wel am flwyddyn heb ddim o'dd e'n ddigon hawdd neud unrhyw beth ar ôl hynny."

Mentro i leoedd dieithr
Doedd gan Les Thomas, o Benygroes, Llanelli, ddim cyfrifoldebau teuluol ac roedd ei streic ef yn gyfnod o fentro i lefydd na fyddai fyth wedi meiddio mentro iddyn nhw, gan godi arian mewn clybiau hoyw, annerch ar lwyfannau a synnu bob dydd pa mor barod oedd pobl i helpu a chefnogi'r streic.

Roedd e hefyd yn un o'r cannoedd o löwyr de Cymru oedd yn rhan o'r frwydr ffyrnig fu rhwng y glöwyr a'r heddlu y tu allan i waith golosg Orgrave yn swydd Efrog. Fel Zulus
"Fy nheimlad i o'dd, wedi watsio'r Zulu ffilm, o'dd hi fel Zulu war yna," meddai. "Chi ar ben y mynydd 'ma a o'dd yr heddlu ar y gwaelod a na i gyd o'ch chi'n gweld o'dd y shields ma a'r heddlu yn bango nhw a'r peth nesaf o'ch chi'n gweld o'dd y shields yn agor mas a'r heddlu ar gefn ceffyle yn chargo lan atoch chi."

PiceduBu'r rhaglen hefyd yn trafod y cydweithredu a fu rhwng y glöwyr a'r heddlu - rhywbeth oedd yn unigryw i Gymru - gydag Alf Jones o Rosllannerchrugog yn cofio sut roedd yr heddlu o Gaernarfon hyd yn oed yn rhannu bwyd o'u cantîn symudol gyda'r glöwyr.

Ond stori wahanol iawn oedd hi pan anfonwyd heddlu Manceinion i ddelio gyda'r streicwyr.

"Nhw o'dd y diawled. Chi 'di clywed y gair diweddar na, Margaret Thatcher's troops, dyna o'dd y diawliaid yn yr ardal yma."

Dychwelyd i'r ardal
Ar gyfer y rhaglen dychwelodd y cyflwynydd, Vaughan Roderick, i rai o'r llefydd y bu'n gohebu ohonynt ar gyfer Newyddion 7.

"Ugain mlynedd yn ôl roedd ystafell newyddion y Â鶹Éç yn wahanol iawn i'r hyn yw hi heddiw," meddai.

"Teipiaduron yn lle cyfrifiaduron a chysylltu â newyddiadurwyr yn y maes yn dibynnu ar flychau ffôn cyhoeddus. Roedd yn lle swnllyd ac anhrefnus ac yn las o fwg sigaréts. Ond roedd y wlad roedden ni'r gohebwyr ifanc ar y gwasanaeth Cymraeg newydd yn darlledu iddi hefyd yn bur wahanol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý