Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lleisiau
Ray Gravell yn darlledu ei raglen yn fyw o fws Â鶹Éç Cymru yng Nghaerfyrddin, Hydref 2005 Dyma Grav
Ray Gravell - gŵr sydd wedi'i alw yn gawr cydnerth y meysydd rygbi a chawr addfwyn ei aelwyd.

Ers mis Mawrth 2004, bu Ray Gravell yn darlledu rhaglen foreol ar Â鶹Éç Radio Cymru i'r de orllewin, ac yn ystod pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007 darlledwyd rhaglenni arbennig am yr arwr rygbi a'r darlledwr.

Rhaglenni Ray Gravell ar Â鶹Éç Radio Cymru
SainSainShorts Grav
Sgyrsiau gyda chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru.

Yn 23 oed, chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn Ffrainc ym 1975, yn un o bum cap newydd.

Yr oedd yn un o'r canolwyr mwyaf grymus i gynrychioli Cymru erioed.

Ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1980 chwaraeodd yn y pedair gêm brawf.

Bu'n gapten Llanelli o 1980 tan 1982.

Meddai Ray:
Am ei Dad: Fe oedd fy arwr i. Yr hen foi. Colier. O'dd e'n ddyn cryf, o'dd e'n ddyn dewr. Yn gawr o ddyn.

Ond lladdodd ei dad ei hun ar y mynydd ger eu cartref uwchben Cydweli pan oedd Ray yn ei arddegau:
Roeddwn i wedi colli nhad. Argol fawredd. O'dd e'n ddiwedd y mywyd i.

Am ei fro:
Roedd Ray yn dad ei hun ac yn byw gyda Mari ei wraig yn y bwthyn ar y mynydd lle cariodd ei dad ei gelfi i gyd ar ei gefn o'r tÅ· cyngor lle'r oedd yn byw:
Mae 'nghalon i ynghlwm i'r lle yma a fi'n credu mod i mewn ffordd yn gwireddu breuddwyd fy nhad yn dwyn y teulu lan yma, meddai ychydig flynyddoedd cyn iddo farw.

Mae'r golygfeydd yn anhygoel a chi'n gweld hanes dim ond o edrych mas o 'ma - yn ddiwylliannol ac yn ddiwydiannol.

Fi'n edrych mas bob dydd ac mae'r olygfa'n wahanol. . . Fferm Gwenllian, Ynys Bŷr, Penrhyn Gŵyr, Dinbych y Pysgod, Cydweli . . .

Fi wedi gweld Niagra, Mount Fuji, sdim gwell i gael na hyn.

Bod yn Dad:
Cofiai eni ei ddwy ferch, Manon a Gwenan:

Oeddwn i ymhell i mewn i'r canol oed - 44 - ac roedd dod yn dad yn brofiad hollol newydd i mi, ond dyma brofiad gorau mywyd i.

Fi'n meddwl i fi brofi mwy o gael bod yn bresennol yn ystod y genedigaethau. Fi'n teimlo'n freintiedig iawn. Dyma brofiad mwya' mywyd i.
Pan wnes i chwarae dros Gymru, chwarae gêm oeddwn i, ond bywyd yw hyn.

Dysgu oddi wrth ei gilydd:
Wy'n dysgu cymaint oddi wrthyn nhw. Fi hefyd yn trial dysgu rhywbeth iddyn nhw.
Dwi'n trial trosglwyddo hanes y lle 'ma iddyn nhw.

Darlledwr:
Pan fo'r golau gwyrdd yn mynd ymlaen yn y stiwdio roedd fel y chwiban ar gae rygbi.

Am ei raglen yn y bore:
Rydyn ni'n gwrando ar lais y bobol. Yn mynd at y bobol eu hunain.

Gorllewinwr:
'West is best' - mae Cymru gyfan yn y Gorllewin!

Am rygbi:
Bu'n ddyhead gen i erioed chwarae dros Lanelli. Bu'n freuddwyd gan fy Nhad y byddwn i'n chwarae dros Gymru. Dyma'r unig glwb i mi chwarae iddo erioed - yr unig glwb y breuddwydiais am eu cynrychioli.

Cefais ddeuddeng mlynedd o bleser pur 'da'r Scarlets - tymhorau o lawenydd, o gyflawni potensial, o iwfforia, a thamaid bach o dristwch hefyd.

Yr oedd yn aelod o dîm Llanelli a drechodd y Crysau Duon o Seland Newydd yn 1972.

Ymunodd â'r Â鶹Éç yn 1985 gan actio yn y ffilm Gymraeg, Bonner. Bu hefyd yn blismon yn y ddrama ddogfen am Operation Tân.


Dyn y stryd:
Enwyd stryd ar ei ôl ym Mynydd y Garreg. Off Horeb Road oedd yr enw arni cynt:
Yr oedd yma lethr yma yr oedd pawb yn ei alw yn Llethr Raymond ond mae hyn yn swyddogol.
Mae'n ardal hyfryd gyda hen chwarel a digonedd o fywyd gwyllt. Mae cael fy enw ar y lle yn brofiad gwych."

Pan ofynnwyd i Ray gan y Western Mail pa lyfr fyddai o'n mynd gydag ef i'r lleuad dewisodd Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis - y llyfr cyntaf iddo'i ddarllen yn yr Ysgol Ramadeg.

Heb fod yn hir wedyn darllenais Mae Theomemphus yn Hen gan Dafydd Rowlands.
Dewisodd fel ei hoff lyfr chwaraeon, gofiant Rocky Marciano, arwr ei dad.

Bu farw Ray Gravell tra ar wyliau teuluol yn Sbaen ar 31 Hydref, 2007 yn 56 oed.

  • Cofio Grav
  • Eich teyrngedau i Grav

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý