Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lleisiau
Ray, Marc a Sian y cyflwynwyr Cyflwyno Lleisiau i'r de orllewin
Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin gydag ail gynllun Lleisiau Â鶹Éç Radio Cymru wedi cychwyn ar Fawrth 1, 2004.

Tonfedd Lleisiau ar Â鶹Éç Radio Cymru yw: 104.2 104.6 FM
Ac ar wefan Lleisiau ar y we.

Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin.

Rhoddwyd cychwyn i ail gynllun Lleisiau Â鶹Éç Radio Cymru gyda digwyddiad arbennig yn cynnwys cannoedd o blant ysgol ar Barc y Strade ddydd Gwyl Dewi 2004.

Mae'r trefi a'r pentrefi y bydd y Lleisiau yn ymweld â hwy o fewn cylch sy'n ymestyn o Gaerfyrddin i Landeilo, i Borth Talbot ac Abertawe a Llanelli.

A phrif lais y gwasanaeth newydd ydi Ray Gravell a gafodd ei dacl gyntaf i mewn yn fwy na llwyddiannus fore Dydd Gwyl Dewi ac ennill cefnogaeth eang i'r fenter yn yr ardal.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Phil Bennett y cyn faswr rhyngwladol a fu'n chwarae ochr yn ochr a Ray, nifer o chwaraewyr prsennol y Scarlets a'u hyfforddwr, Gareth Jenkins, y prifardd Alan Llwyd, actorion Pobol y Cwm a phennaeth Â鶹Éç Cymru, Menna Richards.

Am rai misoedd bydd gan yr ardal hon ei rhaglenni radio ei hun ar Â鶹Éç Radio Cymru. Gyda Ray Gravell yn darlledu i'r ardal rhwng 8-30 a 10-30 o fore Llun tan fore Iau.

Yna, foreau Gwener, bydd Marc Griffiths yn darlledu rhwng 8.30 a 10.30, eto yn arbennig i'r ardal, gan gyflwyno rhaglen fywiog o sgwrs a chlonc.

Mae gan Marc, o Lanybydder, hefyd ei raglen ei hun ar ddydd Sadwrn, am 7.15pm, sydd i'w chlywed drwy Gymru gyfan.

Yn y prynhawn bydd rhaglen ddyddiol Sian Thomas yn cael ei darlledu rhwng 2.00 a 4.00 bob dydd.

Bydd yr ardal yn cael sylw ar raglenni eraill Â鶹Éç Radio Cymru hefyd, fel C2.

A bydd Ray Gravell yn teithio i bob cornel o'r gorllewin yn cyfarfod pobl ac yn dod â'r difyr a'r diweddaraf yn fyw ar ei raglen.

Cychwyn ar y Strade

Dyma restr o'r ymweliadau:
Mawrth 1: Parc y Strade o saith y bore tan 5.30 y nos gyda Chôr Meibion Llanelli a'r Brodyr Gregory ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan..

Mawrth 2: Eglwys Dewi, Stryd Woodfield, Treforys.

Mawrth 3: Castell-nedd. Recordio Beti a'i Phobl yng Nghlwb Rygbi Mynydd y Garreg gyda'r nos..

Mawrth 4: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe. Recordio Cant y Cant yng Nghlwb Rygbi Cwmgors..

Mawrth 5 a 6: Canolfan Siopa Rhydaman. Gig yn Nhy Tawe, Abertawe

Mawrth 8: Cydweli.

Mawrth 9 a 10: Caerfyrddin. Recordio Talwrn y Beirdd yng Ngorseinon. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Maes yr Yrfa. Recordio Manyl;u ym Mhontyberem nos Fawrth.

Mawrth 11: Canolfan Elli a'r Farchnad Llanelli.

Mawrth 12: Menter Cwm Gwendraeth, Pontyberem.

Mawrth 13: Canolfan Elli a'r Farchnad, Llanelli.

Mawrth 15: Marchnad anifeiliaid Llandeilo.

Mawrth 16: Gwaun Cae Gurwen. Beti George yn holi Gareth Edwards. Clwb Rygbi Cwmgors. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Pantycelyn.

Mawrth 17: Canolfan Grefftau Llanymddyfri.

Mawrth 18: Ty Tawe, Abertawe.

Mawrth 19: Co-op Ystradgynlais. Cyngerdd gyda Huw Chiswell a Chôr Orpheus Treforys yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. Côr Meibion Llanelli a Lleisiau Blaenau.

Mawrth 25 - Ebrill 2: Trimsaran.

Ebrill 5 Ebrill 16: Gwaun Cae Gurwen

Mae cynlluniau i dreulio pythefnos ar y tro hefyd yng Nghwm Aman, Cwm Tawe a Chwm Nedd.

Beth yw Lleisiau?
Cynllun arbennig sydd ar waith ar hyd a lled Prydain gan y Â鶹Éç dan yr enw Voices ydi Lleisiau. Bu Lleisiau Cymraeg cyntaf y Â鶹Éç ym Mlaenau Ffestiniog y llynedd yn llwyddiant ysgubol sy'n dal i weithredu gyda phobl a mudiadau lleol yn cael llais ar yr awyr ac ar y we am y tro cyntaf.

Mae Â鶹Éç Cymru yn benderfynol o weld yr un llwyddiant yn y De Orllewin.

Eich dewis chi
Rhan allweddol o lwyddiant Lleisiau yw mai y bobl eu hunain sy'n penderfynu beth maen nhw eisiau'i glywed ar y radio a'i weld ar y We.

Aled Glynne Davies - de - ac eraill mewn cyfarfod yn Rhydaman i gyflwyno LleisiauMae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a sôn am eu profiadau a'u gobeithion.

Mae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a sôn am eu profiadau a'u gobeithion.

Mewn cyfarfod yn Rhydaman i roi cychwyn i Lleisiau'r De Orllewin dywedodd Golygydd Â鶹Éç Radio Cymru, Aled Glynne Davies:
"Nid mater o'r Â鶹Éç yn dod i mewn i'ch ardal a dweud, 'Dyma'r ydym ni'n mynd i'w wneud,' ydi Lleisiau ond Â鶹Éç Radio Cymru yn rhoi cyfle i chi gael yr hyn ydych chi ei eisiau ac fe brofodd hynny yn llwyddiannus iawn gyda Lleisiau Blaenau.
"Lleisiau fydd y Radio Cymru lleol ar y Radio Cymru cenedlaethol," meddai.

Ymhlith y rhai fydd yn llywio Lleisiau yn yr mae Keith Davies o Rydaman sy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed lleisiau ac acenion pobl ei ardal ar yr awyr.

"Bydd y cynllun hwn yn berchen i gymaint o bob ag fydd ishe'i berchen e," meddai.

LleisiauA dywedodd Ray Gravell mai ei obaith ef yw y bydd ei raglen newydd arbennig ef yn dod â phobl y Gorllewin at ei gilydd gan wneud i bawb deimlo mai eu radio nhw yw hi.

"Mae e'n brosiect mentrus. Fe fyddwn ni'n gwrando ar lais y bobol, yn mynd at y bobol eu hunain," meddai.

Dychwelwch i'r wefan hon am ragor o wybodaeth.

Dychwelwch yn rheolaidd i'r ddalen hon am fwy o newyddion

i weld beth sydd gan Ray i'w ddweud

i weld 'Holiadur Sian Thomas'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý