麻豆社

Un Nos Ola Leuad - taith Bara Caws

Rhan o boster y daith

16 Chwefror 2011

Addasiad o un o nofelau mwyaf poblogaidd erioed yr iaith Gymraeg yw cynhyrchiad Theatr Bara Caws ar gyfer gwanwyn 2011.

Ac yn addas iawn cychwynnodd Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard ar ei thaith yn Neuadd Ogwen, Bethesda, yr ardal y mae ei phobl yn galon y stori.

Cychwynnodd y daith honno ar Fawrth 8 2011 gyda phob tocyn wedi ei werthu a bydd yn parhau tan Ebrill 2 gyda pherfformiad olaf yn Neuadd Goffa Cricieth.

Nid hwn yw'r addasiad theatr cyntaf o'r nofel hunangofiannol a gyhoeddwyd yn 1961. Ddeng mlynedd ar hugain yn 么l addaswyd y nofel gan John Ogwen a'i wraig Maureen Rhys ar gyfer Cwmni Theatr Cymru fel ag yr oedd yr adeg honno gyda'r ddau yn chwarae'r prif rannau.

Yr addasiad hwnnw fu man cychwyn Betsan Llwyd ar gyfer yr un newydd hefyd a hi sydd hefyd yn cyfarwyddo'r llwyfaniad.

Dydi'r nofel ddim yn anghyfarwydd iddi gan iddi chwarae rhan Y Fam mewn ffilm ohoni yn 1991 ac mewn fersiwn Saesneg ar gyfer y theatr.

Mae Bara Caws yn rhagweld derbyniad gwresog i'r cynhyrchiad.

"Profodd taith Cwmni Theatr Cymru dri deg o flynyddoedd yn 么l yn hynod lwyddiannus gyda'r Cwmni yn trefnu perfformiadau ychwanegol. Gan fod cyfyngiad ar nifer y gynulleidfa mewn ambell i ganolfan mae gofyn archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi," meddai Linda Brown o'r cwmni.

Aelodau'r cast ar gyfer y daith newydd yw Rhys Richards, Sion Trystan, Rhodri Si么n, Arwyn Jones, Carys Gwilym a manon Wilkinson.

Darlith cyn cychwyn

A chyn i'r daith gychwyn bu'r Dr J Elwyn Hughes awdur Byd a Bywyd Caradog Prichard a Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn traddodi darlith Llefydd a Chymeriadau Un Nos Ola Leuad yn Neuadd Ogwen nos Lun Chwefror 28.

Bu hefyd yn tywys pobl ar daith bws o amgylch Dyffryn Ogwen ar Fawrth 5 gan ymweld 芒 lleoedd yn ymwneud 芒 Charadog Prichard ac Un Nos Ola Leuad.

Taith y cynhyrchiad

  • Mawrth 8 Neuadd Ogwen Bethesda, 01248 602032 neu 01248 600251
  • Mawrth 9 Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog 01766 830435
  • Mawrth 10 Ysgol Uwchradd Llangefni (Menter M么n 01248 725732)
  • Mawrth 11 & 12 Galeri. Caernarfon (01286 685222)
  • Mawrth 15 & 16 Neuadd Dwyfor Pwllheli. 01758 704088
  • Mawrth 17 Theatr Twm o'r Nant. Dinbych 01745 813431 neu 01745 812349
  • Mawrth 18 Canolfan Bro Aled Llansannan. 01492 642357 neu 01492 641329
  • Mawrth 19 Neuadd J P Bangor, 01248 382 828
  • Mawrth 22 Neuadd Talybont, Ger Aberystwyth 01970 832560
  • Mawrth 23 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron 01570 470697
  • Mawrth 24 Theatr y Gromlech. Crymych 01239 831 455
  • Mawrth 25 Theatr Taliesin Abertawe 01792 602 060
  • Mawrth 26; pnawn a nos Lun, Mawrth 28. 1pm a 7.3Opm Canolfan Gartholwg, Pontypridd. 01443 219 589
  • Mawrth 30 & 31 Ysgol y Berwyn, Y Bala. 01678 540 236
  • Ebrill1 Theatr John Ambrose, Rhuthun 01824 702 575
  • Ebrill 2 Neuadd Goffa, Criccieth 01766 523 566 neu 01766 522 308 Cwmni Theatr Bara Caws: 01286 676335

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.