|
Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad Ateb y cwestiwn: 'Faint gwell ydym ni o wybod hyn?'
Noson cyhoeddi astudiaeth newydd o glasur Caradog Prichard
Cliciwch YMA i weld lluniau o'r noson
Daeth yn agos i dri chant o bobl i gyfarfod ym Methesda i nodi cyhoeddi y llyfr diweddaraf am Caradog Prichard a'i nofel fawr, Un Nos Ola leuad.
Mae Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad gan J Elwyn Hughes yn datgelu y bobl go iawn a'r lleoedd go iawn yn Nyffryn Ogwen sy'n sail i gymeriadau nofel sy'n cael ei hystyried gan lawer yn nofel fwyaf yr iaith Gymraeg.
Mae'n llyfr 326 tudalen gyda mynegai ac yn cynnwys rhyw 200 o luniau - rhai nas cyhoeddwyd erioed o'r blaen.
Ydi hyn yn bwysig?
Ac wrth ryfeddu at drylwyredd ymchwil John Elwyn Hughes nid oes amheuaeth mai'r cwestiwn ym meddwl sawl un oedd; A yw o ots o gwbl a ydym yn gwybod y pethau hyn ai peidio?
Mae'n gwestiwn sy'n cael ei ateb gan Alan Llwyd mewn cyflwyniad i'r llyfr.
Ac ar noson cyhoeddi'r gyfrol dyna'r union gwestiwn yr aeth un o siaradwyr y noson i'r afael ag ef hefyd.
Daeth Menna Baines, un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru ac awdur astudiaeth, mawr ei chanmoliaeth, o Un Nos Ola Leuad a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn 么l, i'r casgliad y bydd llyfr fel un J Elwyn Hughes yn "cyfoethogi" profiad darllenwyr.
"Wedi'r cwbl, wnaeth Caradog ddim creu Un Nos Ola Leuad mewn gwacter. Mae'r llyfr yn gynnyrch ardal arbennig a chyfnod arbennig ac mae llyfrau fel rhai Elwyn yn gymorth amhrisiadwy inni weld beth oedd deunydd crai Caradog a sut y gwnaeth o drawsffurfio y deunydd yma yn ddarn o lenyddiaeth sy'n gallu siarad efo pawb, nid dim ond pobl y dyffryn yma ac nid dim ond pobl Cymru ychwaith ond efo pawb," meddai.
Dywedodd hefyd fod y llyfr yn dangos hefyd pa mor ddyfeisgar fu Caradog Prichard yn cuddio y cymeriadau a lleoedd go iawn yn Nyffryn Ogwen y tu 么l i'r cymeriadau a'r lleoedd yn y nofel.
Difetha'r hud?
Gwadodd hefyd fod perygl i astudiaethau o'r fath, gan gynnwys ei hastudiaeth hi ei hun, ddifetha hud y nofel.
"Fe allwch chi ddadlau gydag unrhyw waith fel hun eich bod chi mewn perygl o or ddadansoddi a thrwy hynny ddifetha rhyw hud sy'n bodoli i'r darllenwyr ond pen draw y ddadl honno yw na fyddai yna ddim trafod o gwbl ar unrhyw lyfr neu ddarn o lenyddiaeth neu ddarn o gelf - mae'n rhaid ichi roi rhyddid i bobl ddehongli," meddai.
Ychwanegodd fod yr holl drafod, hyd yn oed hanner canrif ers cyhoeddi'r nofel, yn arwydd o'r grym sy'n perthyn i Un Nos Ola Leuad fel llenyddiaeth.
A dywedodd na fyddai'r darlun mewnol sydd gan bobl o'r nofel yn dioddef o gwbl oherwydd ymdriniaeth fel un J Elwyn Hughes.
"I'r gwrthwyneb, dwi'n si诺r y bydd o'n grymuso," meddai.
Tu hwnt o ddadlennol
"Mae Elwyn i'w longyfarch am ddarganfod pob math o ffeithiau difyr a lluniau yn ei ymchwil dihafal. Mae'n ychwanegiad pwysig iawn at yr astudiaethau o'r dyn a'i fyd," meddai.
"Mae'n ymchwil sydd y tu hwnt o dadlennol o safbwynt Caradog ei hun a'i waith ac Un Nos Ola Leuad yn benodol ond mae o'n bwysig a dadlennol hefyd o ran hanes cymdeithasol Dyffryn Ogwen," meddai.
Cyfanu perthynas Hefyd yn annerch ar y noson disgrifiodd Gerwyn Williams, beirniad llenyddol a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad fel llyfr sy'n cyfannu'r berthynas rhwng Caradog Prichard a'i hen gynefin.
"Ac yn rhyw gymodi rhwng Caradog Prichard a'i orffennol," meddai.
Awgrymu creu canolfan Aeth ef gam ymhellach trwy awgrymu y gellid ymestyn ar weithgarwch J Elwyn Hughes dros y blynyddoedd trwy sefydlu 'canolfan Caradog Prichard' yn Nyffryn Ogwen.
"Tybed nad oes yna hedyn syniad na ellid ei dyfu ymhellach fel y gwnaed yn achos Elis Wyn a'r Lasynys a Kate Roberts a Chae'r Gors sef datblygu rhyw fath o ganolfan dreftadaeth gyda bywyd a gwaith Caradog Prichard yn ganolog iddi," meddai.
"Wedi'r cyfan yn sgil ffilm a chyfieithiadau niferus o'r nofel i sawl iaith mae gwybodaeth am y nofel arbennig hon wedi hen ymestyn ymhell y tu hwnt i'r fro arbennig hon a'i wlad enedigol."
Gan ddilyn y trywydd hwn cymharodd Un Nos Ola Leuad gyda nofel y Gwyddel, James Joyce , Ulysses, a'r modd y trodd Dulyn y cysylltiad 芒'r nofel honno yn atyniad twristaidd.
"A'r Gwyddelod yn rhai mor dda am weld eu cyfle dydi hi ddim syndod yn y byd eich bod chi yn gallu dilyn siwrnai Leopold Bloom [prif gymeriad] y nofel o amgylch strydoedd Dulyn gydag arwyddion pwrpasol ar y palmentydd," meddai.
Y fath rym
Cysylltir hefyd, meddai greadigaethau ffuglennol Joyce gyda rhai o gig a gwaed.
"A rhywbeth tebyg welwch chi ar waith yn Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad a Byd a Bywyd Caradog Prichard [hefyd gan J Elwyn Hughes] o'i blaen.
"Yr hyn sydd ynddyn nhw ydi cynnyrch dyn wedi dod ar draws gwaith creadigol sy'n meddu ar y fath rym nes deffro ynddo chwilfrydedd ac awydd anniwall i wreiddio'r dychmygol ym mhridd realaeth.
"Ac os ystyriwn ni Un Nos Ola Leuad fel coeden fawr ganghennog yr hyn a wna'r gyfrol ddiweddaraf hon ydi datgelu inni ei gwreiddiau troellog ac estynedig," meddai.
Canmolodd hefyd y modd y llwyddodd J Elwyn Hughes i ddod o hyd i luniau "sy'n ychwanegu wynebau a chyrff real at enwau trawiadol y nofel."
Gan gyfeirio at "weithiau meistraidd mewn sawl cyfrwng - sydd wedi eu sylfaenu ar Un Nos Ola Leuad yn amrywio o astudiaethau academaidd i ffilm dywedodd mai Byd Go iawn . . . yw'r gyfrol ddiweddaraf sy'n "talu gwrogaeth" i Un Nos Ola Leuad gan ddarlunio yn fyw iawn bobl a chymdeithas y nofel.
Cyfeirlyfr anhepgor Disgrifiodd y llyfr fel;"Y cyfeirlyfr anhepgor i'r sawl sydd am leoli'r nofel, sydd am ddeall ei thopograffi hi, sydd am wybod y sail fywgraffyddol i'w chymeriadau."
Rhagwelai, meddai, ymwelwyr yn crwydro'r ardal gyda chopi o'r llyfr dan eu cesail!
"Mae'r seiliau ar gyfer gwaith ymchwil y dyfodol gymaint a hynny'n sicrach o'i herwydd," meddai.
Tri phrifardd Daeth yn agos i dri chant o bobl i Neuadd Ogwen ym Methesda ar gyfer cyhoeddi'r llyfr ac ar ddiwedd y noson bu gwerthu sylweddol ar y gyfrol a gyhoeddir gan Barddas gyda rhai yn prynu hyd at hanner dwsin o gopiau!
Yr oedd tri phrifardd ar y llwyfan, Elwyn Edwards o Barddas yn cyflwyno, Gwynfor ab Ifor, a ddarllenodd gerdd a gyfansoddodd, Y Bryniau Hyn, a Ieuan Wyn a gyflwynodd ddadansoddiad treiddgar o glasur Caradog Prichard.
Ac meddai ef am gyfrol J Elwyn Hughes:
"Cymwynas y gyfrol ar un gwastad yw ei bod hi yn cynnig eglureb inni ar y broses greadigol ym meddwl llenor a'r modd y mae'n gallu gwneud defnydd creadigol drwy gyfuno'r cof a'r dychymyg gan dynnu o'i wybodaeth a'i brofiadau ei hunan.
"Ond mae'n amgenach na hynny. Yn achos Caradog Prichard yn Un Nos Ola Leuad fel nofel seicolegol fodernaidd mae'r llenor am inni'n gweld ein hunain yn sefyllfa pobl a oedd ar fin mynd o'u coeau a chlywed ein hunain yn eu lleisiau nhw; ymglywed a'n meddyliau ein hunain yn eu meddyliau, yn eu gobeithio ac yn arbennig yn eu camobeithio," meddai.
Dywedodd fod Un Nos Ola Leuad yn bosib oherwydd i Caradog Prichard brofi ei hun fyd oedd yn chwalu'n barhaus.
Darllenwyd rhannau o lyfr J Elwyn Hughes gan Wyn Bowen Harries a Neville Hughes, aelod o Hogia Llandegai, a ganodd g芒n am angladd buwch o'r enw Mollie Lloyd sy'n cael sylw yn y llyfr!
Cysylltiadau Perthnasol
Lluniau o'r noson
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|