麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Caradog Prichard
Bywgraffiad darluniadol
Gwerthfawrogiad Glyn Evans o Byd a Bywyd Caradog Prichard 1904-1980. Bywgraffiad Darluniadol gan John Elwyn Hughes. Barddas. 拢9.95.

Lluniau o'r noson

Yr oedd merch y llenor a'r bardd, Caradog Prichard, yn bresennol mewn noson i gyhoeddi bywgraffiad darluniadol o'i thad yn ei dref enedigol.

Clawr y llyfrTeithiodd Mari Prichard o'i chartref yn Rhydychen i fod yn bresennol yn y digwyddiad yn Neuadd Ogwen lle'r oedd dros 200 o bobl yn bresennol - a bu prynu mawr ar gyfrol drwyadl John Elwyn Hughes, hanesydd lleol a chyn athro Cymraeg a phrifathro Ysgol Dyffryn Ogwen.

Er wedi ei bwriadu yn un o'r cyfrolau yn y gyfres Bro a Bywyd, dan law John Elwyn Hughes tyfodd y gwaith yn gyfrol fwy swmpus na gweddill cyfrolau'r gyfres honno ac y mae iddi ei diwyg ei hun.

Byd nid Bro
Newidiwyd y teitl hefyd i Fyd a Bywyd gan adlewyrchu y cyfnodau helaeth a dreuliodd Caradog Prichard y tu allan i Gymru - yn yr India gyda'r lluoedd arfog ac yn newyddiadurwr yn Stryd y Fflyd, Llundain, gyda'r Daily Telegraph gan hwyaf.

Er yn fardd o bwys -enillodd Goron y Genedlaethol deirgwaith yn olynol - fel nofelydd y daeth i fri mwyaf.

Heb amheuaeth y mae Un Nos Ola Leuad yn un o gerrig milltir rhyddiaith Gymraeg ac yn parhau yn boblogaidd ymhlith darllenwyr ifainc heddiw er iddi gael ei chyhoeddi cyn belled yn 么l ag 1961.

Diddordeb mawr
Bydd diddordeb mawr ym mywgraffiad darluniadol John Elwyn Hughes, felly - yn genedlaethol yn ogystal ag yn lleol ac yn y gynulleidfa noson cyhoeddi'r gyfrol yr oedd y beirniad llenyddol, Dafydd Glyn Jones, yr archdderwydd, Robyn Lewis a'r prif lenor, Sonia Edwards.

Cyflwynwyd y gyfrol a'r awdur gan y Prifardd Elwyn Edwards ar ran y cyhoeddwyr, Barddas. Darllenwyd rhannau o'r bywgraffiad gan John Ogwen a Maureen Rhys.

Teyrnged prifardd
Siaradodd y Prifardd Ieuan Wyn - a fagwyd yn yr un t欧 a Charadog Prichard - am berthynas Caradog Prichard a'i fro gan adrodd marwnad dirdynnol a gyfansoddodd yn adlais ysgytiol o nofel enwocaf y llenor.

Clywai yng ngolau'r lleuad hwyrol gri
Wylo gwraig amddifad
Y bu ei dydd heb ei dad
Yn un hirnos annirnad
meddai.

Ac hefyd:
Ei lef oedd ei gelfyddyd, a'i hystyr
Ym Methesda'i adfyd;
Ei nos yn aros o hyd,
A'i llefain gorffwyll hefyd.

Yn euogrwydd y dagrau, yn llewyg
Nos y lleuad olau,
Yn labrinth yr hen lwybrau,
Ofnau mab fu'n ymwau.

Rhythai'n y gwyll rith heb gam, ac oedai
Hen gysgodion gwargam
Nosau alaeth y Seilam
Y cariai faich cur ei fam.

O'i danfon yn drist, ynfyd, aeth yn gaeth
I'w gof, ac o'r ddedfryd
Y fo yn stori'i fywyd
Yw'r dyn sy'n hogyn o hyd.

Gair a llun
Wrth gyflwyno'i gyfrol dywedodd John Elwyn Hughes mai ei fwriad yn ei lyfr yw "gosod y bardd, y llenor a'r newyddiadurwr pwysig hwn, trwy gyfrwng gair a llun, yng nghefndir y fro a garai gymaint."

S么n hefyd am ddarganfyddiadau gwefreiddiol a chyffrous a ddaeth i'w ran yn sgil ei waith ymchwil.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl oddi wrth ymchwilydd mor drwyadl a gofalus mae yma gyfoeth o wybodaeth ddifyr.

Un peth y mae'n mynd i'r afael ag ef yn gynnar yn y gyfrol yw'r sillafiad Prichard sy'n gymaint bagl i sawl un: ". . .Pritchard oedd cyfenw rhieni Caradog, a dyna'r ffurf a ddefnyddid gan bob aelod arall o'r teulu - ac eithrio Caradog! Dadleuai ef fod Prichard yn sillafiad mwy 'Cymreig' a mabwysiadodd y ffurf honno yn gynnar iawn yn ei yrfa fel newyddiadurwr a bardd," meddai.

Rhennir y gyfrol yn gyfnodau ei fywyd gyda'r penodau cynharaf yn olrhain ei achau; wedyn dyddiau ysgol, y teulu'n chwalu, cyfnod yn newyddiadurwr yng Nghaernarfon, cyfnodau yng Nghaerdydd, yr India a Llundain er enghraifft.

Un Nos Ola Leuad
Mae pennod arbennig i Un Nos Ola Leuad gyda John Elwyn Hughes yn tynnu sylw at y dystiolaeth sy'n ei argyhoeddi ef "fod elfennau cryf o hunangofiant yr awdur yn y nofel hon".

Dywed hefyd: "Er i'r nofel hon gael ei sgrifennu yn nhafodiaith Dyffryn Ogwen, enillodd fri a phoblogrwydd nid yn unig ledled Cymru ond y tu hwnt i Glawdd Offa hefyd ac mewn nifer o wahanol wledydd ."

Bu dau gyfieithiad Saesneg ohoni a ddilynwyd gan gyfieithiadau i'r Ffrangeg, Tsieceg, Sbaeneg, Almaeneg, Groeg a Daneg!

Yng nghefn cyfrol John Elwyn Hughes mae nifer o atodiadau:
Cangen deulu; llinell amser, llyfryddiaeth gan Dafydd Guto Ifan, ac, yn olaf, rhywbeth y mae mwy a mwy o awduron yn rhy barod i'w hepgor y dyddiau hyn, mynegai .

Lluniau o'r noson



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy