麻豆社

Un Nos Ola Leuad - adolygiad

Carys gwilym a Sion Trystan yn ymarfer

11 Mawrth 2011

Adolygiad Glyn Evans o berfformiad yn Llangefni, Mawrth 2011

Cysgodion golau'r lleuad

O'r cychwyn, pan gyhoeddwyd y nofel yn 1961, gwnaeth Un Nos Ola Leuad argraff. Yr oedd yn nofel yr oedd darllenwyr Cymraeg o bob oed yn siarad amdani ar y pryd.

Nid y beirniaid yn unig a blesiwyd ganddi ar adeg pan oedd rhywfaint o gynnwrf yngl欧n 芒 chyhoeddi nofel Gymraeg newydd - gan rai fel Islwyn Ffowc Elis.

Er gwaethaf- ynteu oherwydd? - ei thafodiaith gwnaeth Un Nos Ola Leuad ei marc.

Ar ei ddychweliad i'w ardal mae'r atgofion yn llifo i feddwl y prif gymeriad wrth iddo ddilyn y l么n ar noson olau leuad. Caradog Prichard ei hun yw'r dychweledig wrth gwrs a'r digwyddiadau a'r cymeriadau yn rhai o'i fywyd personol; yn enwedig y prif stori am y fam fregus ei meddwl a'i thynged.

Mae cyfrol nodedig J Elwyn Hughes, Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn dangos pa mor agos i fywyd go iawn yr awdur yn Nyffryn Ogwen yw'r nofel.

Arwydd o'i nerth yw bod ei gafael yn parhau hyd heddiw hanner can mlynedd union yn ddiweddarach pryd mae'n dal i gael ei disgrifio fel y nofel Gymraeg orau erioed.

Addasu a chyfieithu

Yn 1981 addaswyd hi ar gyfer y llwyfan gan un o fechgyn Dyffryn Ogwen, John Ogwen, a'i wraig, Maureen Rhys, ar gyfer y diweddar Gwmni Theatr Cymru gyda'r ddau yn chwarae'r prif rannau.

Yna, yn 1991, cyfarwyddwyd ffilm o'r nofel gan Endaf Emlyn ar gyfer S4C.

Yn y cyfamser yr oedd y nofel ei hun yn cael ei chyfieithu i ieithoedd eraill hefyd, ambell un braidd yn annisgwyl efallai.

Dyma'r rhestr sydd ar Wicipedia: Full Moon (1973), Saesneg, gan Menna Gallie; One Moonlit Night (1995) Saesneg, gan Philip Mitchell; Une Nuit de Pleine Lune, Ffrangeg; Za 煤plnku, Tsieceg ; Una Noche de Luna, Sbaeneg; In einer mondheller Nacht, Almaeneg; Mia vuxta me feggapi, Groeg; In de maneschijn, Iseldireg ac En manelys nat, Daneg.

Bu fersiwn llwyfan Saesneg hefyd.

Cychwyn addawol

A dyma hi'n awr yn 2011 a Bara Caws yn mentro gydag addasiad Betsan Llwyd wedi ei sylfaenu ar un John Ogwen a Maureen Rhys ddeng mlynedd ar hugain yn 么l.

Bu cychwyn addawol, gyda noson lawn yn Neuadd Ogwen, Bethesda, nos Fawrth ond, wrth gwrs, pe na ellid llenwi'r neuadd honno gyda'r cynhyrchiad hwn byddai'n edrych yn go fl锚r!

Ond yn 么l y cwmni mae'r neuaddau'n llawn ar gyfer gweddill y daith hefyd a thocynnau ond ar gael ar gyfer y perfformiad olaf yng Nghricieth erbyn hyn.

O bob oed

Yn neuadd ysgol Llangefni ddwy noson wedi'r perfformiad cyntaf yr oedd cynulleidfa werthfawrogol o sawl gwahanol oed i gynhyrchiad Betsan Llwyd - hi chwaraeodd Y Fam yn y ffilm ac mewn addasiad Saesneg ar gyfer y llwyfan - a'r actorion, Rhys Richards, Sion Trystan, Rhodri Si么n, Arwyn Jones, Carys Gwilym a Manon Wilkinson wedi cael dau berfformiad i ymgynefino erbyn hynny.

Anhawster cynhyrchiad o'r fath yw bod rhywun, ar ei waethaf, yn cael ei dynnu i gymharu efo'r nofel wreiddiol - er imi addo i mi fy hun y byddwn yn ceisio trin y cynhyrchiad fel un cwbl newydd trwy smalio na wyddwn y stori.

Dim ond i raddau y llwyddais ac efallai nad drwg o beth oedd hynny gan fy mod yn ansicr a fyddwn wedi cael gafael ar y stori'n iawn ar y cychwyn heb yr wybodaeth gefndir.

Dychwelyd i'w gynefin

Roedd yr agoriad yn afaelgar gyda'i gyfuniad gerddoriaeth ac awyrgylch dywyll wrth i'r Dyn (Rhys Richards) ddychwelyd i'w gynefin a chael ei gario gan lif ei ymwybod i gofio'r hun a fu.

Yr oedd o, yn bresenoldeb ar y llwyfan gydol y perfformiad wrth i'r actorion eraill chwarae golygfeydd o'i fywyd.

Nid peth hawdd, debygwn i, yw i actorion mewn oed argyhoeddi cynulleidfa wrth chwarae rhannau plant ysgol gan fod peryg i'r cyfan droi'n ddigrifwch parod茂ol yn unig. Yn destun chwerthin.

Ond yn nhrowsusau cwta cyfnod y nofel ac yn llawn miri ac osgo plant - sylweddol ddiniweitiach na phlant heddiw - yr oedd eu perfformiad yn glod i Sion Trystan (Y Dyn yn fachgen), Rhodri Si么n (Huw) ac Arwyn Jones (Moi)

Buan iawn y sugnwyd y gynulleidfa i fywyd pentref chwarelyddol y cymeriadau. Ei hwyl - fel yr ornest focsio fendigedig - ei galedi, ei gymdogrwydd, ei ragrith, ei densiynau, ei dristwch, ei groesdynnu, ei brofedigaethau, ei frawdoliaeth.

Bu cyfuno'r dwys a'r doniol yn gelfydd iawn gyda sawl golygfa yn cyffwrdd - ac mae rhywun yn stryglo braidd i beidio a chyfeirio at enghreifftiau penodol rhag difetha'r parti i rai sydd eto i weld y cynhyrchiad.

Mae'n gynhyrchiad llawn cysgodion. Yn llythrennol ac yn ddelweddol gyda goleuo eithriadol o grefftus - gan Emyr Morris-Jones - mewn cytgord llwyr a'r gerddoriaeth a'r sain yng ngofal Berwyn Morris-Jones.

Clod hefyd i'r set ddyfeisgar, hefyd gan Emyr Morris-Jones. Gweithiodd yn arbennig.

Manion, dibwys bron, sy'n tynnu oddi ar y cynhyrchiad - megis Nain (Manon Wilkinson) yn edrych yr un oed 芒'i h诺yr ac yn ieuengach na'i merch ei hun!

Y Fam

"Camp yr addasiad presennol . . . yw ei fod wedi llwyddo i grisialu naws ac awyrgylch y nofel ei hun, gan ddod 芒'r cymeriadau'n fyw a chredadwy o fewn eu cefndir yn y Pentra a'r cyffiniau," meddai John Elwyn Hughes yn rhaglen y cynhyrchiad.

A'r nofel ei hun, yn ei thro, yn crisialu mewn ffordd mor afaelgar y gymdeithas a fowldiodd Garadog Prichard.

I Carys Gwilym yr ymddiriedwyd y cyfrifoldeb aruthrol o chwarae'r Fam ac er na lwyddodd y sgript i gyfleu yn llwyr union lwybr dadfeiliad ei meddwl bregus y mae'r olygfa o'r chwalfa feddyliodd derfynnol yn eithriadol ac yn mynd i aros yn y cof am yn hir.

Fel ag yr agorodd, mewn tywyllwch a chysgodion - gwyliwch, yn wir, y cysgodion ar y parwydydd - y derfu'r ddrama hefyd a hynny'n drawiadol iawn.

Heb amheuaeth yr oedd hwn yn gynhyrchiad teilwng o un o nofelau mawr y Gymraeg ac fe all y rhai hynny a fu mor frwd i archebu tocynnau fod yn hyderus fod perfformiad go arbennig yn eu disgwyl.

Ac mae'n werth nodi hyn hefyd o fewn y cyd-destun Cymraeg, ni chafodd y cynhyrchiad ei ymestyn i eithafion o ran amser. Rhyw awr a thrichwarter a lwyddodd i wneud imi anghofio pa mor galed ydi cadeiriau neuadd ysgol.

Da iawn, Fara Caws.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆社 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.