Â鶹Éç

Llyfr y Flwyddyn 2009 - Rhestr Hir

Llyfrau'r flwyddyn 2009

Yn ôl y disgwyl mae'r ddwy nofel 'fawr' Petrograd a Teulu Lòrd Bach wedi ennill eu lle ar restr hir llyfr y Flwyddyn 2009.

Datgelodd y beirniaid- Luned Emyr, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas - eu henwau hwy a'r wyth llyfr arall mewn digwyddiad ym Mangor nos Fercher Ebrill 22, 2009.

Dim ond un llyfr gan ferch sydd ymhlith eu dewis o ddeg - y nofel Y Maison du Soleil gan Mared Lewis.

Dim ond un cyfrol o farddoniaeth aeth a'u bryd hefyd, Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd.

Dyma'r rhestr gyflawn - (gellir clicio ar y teitlau i ddarllen adolygiad):

Barn y beirniaid

Wrth gyhoeddi'r enwau ar y rhestr dywedodd Luned Emyr ar ran ei chyd feirniaid; Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan, bod cytundeb ynglŷn â mwyafrif y llyfrau ar y rhestr ac i bob llyfr gyrraedd y rhestr gyda dwy bleidlais o dair o'i blaid pan fyddai anghydweld.

Luned Emyr yn traddodi

"Ac mae'n dda gen i ddweud y gallai sawl cyfrol arall fod wedi ennill ei lle ar y Rhestr Hir," meddai.

Ymhlith ystyriaethau y beirniaid wrth ddod i benderfyniad un a godai yn aml, meddai, oedd arddull:

"Er mor amrywiol y cyfrolau cymwys roeddem yn chwilio am awduron oedd yn cynnal safon uchel o sgwennu yn eu dewis faes . . . [a] tra byddai un neu ddau ohonom yn gweld arddull yn farddonol er enghraifft byddai un arall yn gweld elfennau a oedd braidd yn hunan ymwybodol ac ymwthgar ," meddai.

Dro arall, meddai, byddai natur neu swyddogaeth cyufrol "braidd yn anelwig" ac y byddai hynny "yn tynnu oddi wrth egni neu bwer y gwaith hwnnw".

Cyfeiriodd hefyd at safon "anwastad" rhai gweithiau o ran cynnyws, naws a chywirdeb ieithyddol.

Heb godi hen ddadl

Ond yn wahanol i feirniad y rhestr Saesneg ymwrthododd Luned Emyr â'r demtasiwn i feirniadu natur y gystadleuaeth ei hun yn gosod llyfrau o natur neu genre yn erbyn ei gilydd.

Derec Llwyd Morgan yn siarad gyda Dei Tomos, Radio Cymru

Ac, yn wir doedd hwn ychwaith ddim yn rhywbeth a barodd bryder mawr i un arall o'r beirniaid, Yr Athro Derec Llwyd Morgan, na'r alawad gan rai i greu gwahanol gategoriau o fewn y gystadleuaeth.

"Dydi hwnna ddim yn rhywbeth sy'n mynd i wella," meddai wrth 'Cylchgrawn'.

"A faint o gategoriau ydych chi'n mynd i gael - ydych chi'n mynd i wahanu barddoniaeth a rhannu'r stori fer oddi wrth y nofel neu'n mynd i feirniadu beirniadaeth lenyddol oddi wrth hanes. Dyna chwe chategori yn syth. Na, mae'n rhaid jyst derbyn mai peth fel hyn ydi hi," meddai.

Awgrymu rhannu'r arian yn well

Ond fe awgrymodd y gellid, fodd bynnag, edrych ar y dull o wobrwyo.

"Fe fyddai'n well gen i," meddai, "fod y tri buddugol yn cael rhywfaint o'r arian yn hytrach na bod y £10,000 yn mynd i un. Byddai'n well gen i weld pum mil, tair mil, dwy fil achos mae yna rhyw siom ofnadwy mewn dod i'r brig a chael nemor ddim."

Rhyngddynt ystyriodd y beirniaid rhyw 60 o lyfrau i gyd - o gymharu a 200 gan feirniaid y llyfrau Saesneg.

Peryglon i feirniaid

Ac yng nghanol yr holl dryblith a chymysgfa o weithiau yr oedd Yr Athro Gwyn Thomas yn ymwybodol iawn mor hawdd yw hi i feirniaid gael caff gwag.

Yng nghylchlythyr yr Acaedmi, a drefnai'r digwyddiad, mae'n cael ei ddyfynnu yn dweud:

Gwyn Thomas

"Y mae'n briodol i feirniaid, yn enwedig; ac i awduron, i raddau llai, gofio fod yna enghreifftiau yn y gorffennol o gawlio mawr wedi digwydd wrth feirniadu - straeon byrion gan Kate Roberts yn cael eu rhoi ar waelod yr ail ddosbarth mewn Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, er enghraifft!

"Wedi dweud hyn'na, fe ddywedaf, hefyd, fod yna gytundeb rhwng tri beirniad Llyfrau 2008 (pob un â'i chwaeth ei hun) am rinweddau'r mwyafrif o'r rhestr o Ddeg Llyfr. Bu dadlau, ond nid dadlau ffyrnig, am leiafrif o'r deg, a oedd, wrth reswm, yn cael eu barnu yn erbyn dyrnaid o lyfrau eraill nad ydynt ar y rhestr hon. Felly, os yw'r beirniaid yn cawlio, y maen nhw o leiaf yn cawlio'n eithaf unfrydol wrth nodi rhagoriaeth y deg llyfr a ddewiswyd."

Beth nesaf?

Y cam pwysig nesaf yn awr i'r awduron fydd cyhoeddi rhestr fer o dri mewn digwyddiad gyda Damian Walford Davies yng Ngŵyl y Gelli nos Lun Mai 25 2009.

Wedyn bydd y Seremoni Wobrwyo fawr nos Lun Mehefin 15 2009 yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd.

Ond nid barn y beirniaid yn unig fydd yn cyfrif gan fod gwahoddiad i'r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefryn hwythau o blith y rhestr hir gydag awdur y llyfr gyda'r mwyaf o bleidleisiau yn derbyn tlws ITV Cymru gan Mari Grug.

Yr awduron a gyrhaeddodd y rhestr hir Saesneg yw Deborah Kay Davies, Joe Dunthorne, Matthew Francis, Stephen May, Robert Minhinnick, Sheenagh Pugh, Zoë Skoulding, Dai Smith, Gee Williams a Samantha Wynne-Rhydderch - gyda Tiffany Atkinson, John Barnie a Mike Parker yn beirniadu.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn Â鶹Éç Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.