|
Bore Newydd Teitl gobeithiol - ac wedyn . . .?
Adolygiad Meg Elis o Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. 拢6.50.
Bore newydd - a llyfr newydd o gerddi. Ai llun machlud sydd ar y clawr? Mae mor grefftus, mae'n anodd dweud, felly rwy'n rhydd i f'argyhoeddi fy hun y gallai fod yn wawr.
Wedyn rwy'n agor y gyfrol, a gweld lluniau. Disgwyl hynny, a chofio gyda blas sut y mae ambell i fardd cyfoes yn cyfuno lluniau a cherddi yn gelfydd graff. Y lluniau cychwynnol - lluniau o adfeilion. Ac felly hefyd ymlaen trwy'r gyfrol. Maen nhw'n ffotograffau da - ond...?
Crefftus a chywrain Ond tydw i ddim yn feirniad lluniau. Felly dwi'n troi at y cerddi. Ac yn 么l fy arfer, darllen ar hap, plymio i mewn i ganol y gyfrol - a dau farnwnad, neu gerddi cof yw'r rhai cyntaf a welaf.
Maen nhw'n grefftus, yn gywrain fel y gellid disgwyl gan y bardd hwn, a gellir canmol yr un rhinweddau yn y moliant i'r 'cenedlaethol' (Gwyn Erfyl) a'r 'lleol' (Gwyn Elis, Llithfaen).
Ydw, rydw i'n cael yr un blas wrth eu darllen . Ac i fod yn hollol deg, nid marwnadau yw popeth - mae darllen y gerdd i gyfarch Gwyn Thomas yn llonni calon unrhyw un, fel y mae'r gwrthrych ei hun bob tro.
Ydi, mae Myrddin ap Dafydd yn llawn ymwybodol o swyddogaeth y pencerdd: mae'n moli ac yn marwnadu. Cymreig iawn.
Ennill rhai brwydrau Ond erbyn hyn, dwi'n dechrau meddwl - diawch, mi ddaru ni ennill rhai brwydrau, 'ndo? Mae 'na fuddugoliaethau i orbwyso Catraeth, does bosib?
Ac yn union wedi hynny, darllen un o gerddi gorau'r gyfrol, Llafnau, a'r is-deitl Rhan o'r dorf mewn angladd llanc, sydd yn wrthnysig yn profi fod modd i fardd celfydd eithriadol chwythu anadl einioes i'r hen hanes hwn o hyd. Damia fo.
Ond er gwaethaf hynny, ac er gwaethaf crefft ddiamheuol y gwaith hwn o'r clawr i'r cefn - dwi'n dal i feddwl mai'r peth mwyaf gobeithiol am y gyfrol ydi'r teitl.
Mae'r cynnwys tu mewn i'r cloriau yn atgofus, hiraethus, besimistaidd.
Rown i'n darllen cerddi atgofus, hiraethus, pesimistaidd pan oeddwn i yn fy arddegau - a bryd hynny yn tybio bod yn rhaid bob 'na rywbeth gwell na hyn.
Ac mae 'na. Mae 'na fyd newydd, Cymru newydd - a dwi'n rhyw synhwyro nad ydi'r bardd yn or-hoff o hyn, er gwaetha'r broliant sy'n crybwyll "cyfle newydd a "nos ar yr hen syniadaeth".
O'r hyn wela'i yn Bore Newydd, mae cerddi fel Urddas, Adrodd yr Hanes ac Agoriad Swyddogol yn gogor-droi yn ormodol o gwmpas yr hen syniadaeth; ond mai'n hen syniadaeth ni ydi hi.
Lle mae'r bore newydd? O gadwch i ni alarnadu am Dryweryn, o, och a gwae mae'r pyllau wedi cau....... Lle mae'r bore newydd?
Ac yn bwysicach fyth, lle mae'r beirdd sy'n canu am y newydd-deb hwn?
Maen nhw yno, ac y mae eu lleisiau i'w clywed.
Anaml, er hynny, y mae'r lleisiau newydd yn canu mor grefftus ag y gwna Myrddin ap Dafydd yn y llyfr hwn. Dyna'r piti. Oherwydd mae'n well gen i eu neges nhw - ac os ydw i, yn ganol oed a mwy, yn dweud hynny - beth am y cynulleidfaoedd nesaf, sydd yn perthyn go-iawn i fore newydd y genedl?
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|