|
Yn Hon Bu Afon Unwaith 'Nofel fer - nofel fawr'
Adolygiad Martin Huws o Yn Hon Bu Afon Unwaith gan Aled Jones Williams, Gwasg y Bwthyn, 拢6.
Sneb yn meddwl am hyn yn amal.
Diolch i Dduw.
Mae'n croesi ei feddwl wrth iddo sefyll ar ei draed, wrth i'r arch gael ei hebrwng i mewn i gapel. Wedyn mae'r myfyrio'n cael ei ohirio tan y tro nesa. Nes i'r tro nesa droi'n dro ola. Yn y diwedd.
Rhag ofn i chi amau, dwi ddim ar gwrs o dawelyddion oherwydd iselder. Dwi'n s么n am un o them芒u Aled Jones Williams yn ei nofel ddiweddara, Yn Hon Bu Afon Unwaith. Meidroldeb.
Ac wrth ymdrin 芒'r thema hon, mae'r cyfan yn dod yn fyw. Nofel fer ond nofel fawr.
Mae broliant y clawr cefn yn dweud:
"Nofel am wraig sy'n gwahodd hen gariad yn 么l i'w bywyd i dreulio un diwrnod 芒 hi."
Ond mae'n fwy na hynny. Llawer mwy.
Beth yw'r stori? Rhiannon Owen yn cael ei hanfon adre o'r ysbyty, am y rheswm gwaetha posib, colli'r frwydr yn erbyn canser y fron. Y bore wedyn mae'n sylweddoli'n sydyn: "Dwi'n wynebu peidio 芒 bod ... Dim ddoe Dim heddiw Dim yfory Dim dim."
Cyn ac ar 么l y trobwynt, mae'n ailfyw yn ei meddwl ei pherthynas 芒 g诺r priod, y nofelydd Tom Rhydderch, ac wrth gofio ei charwriaeth yn blodeuo, ei phriodas yn gwywo, y gwych a'r gwael, mae'n myfyrio am ei phrofiadau, ei hiechyd, ei chyflwr ysbrydol.
Cwestiwn yn hofran Yn y cyfamser, mae cwestiwn arall yn hofran yn ei meddwl hi, cwestiwn sy'n troi'n elfen ddisgwyl ym meddwl y darllenydd. Fydd Tom yn derbyn ei gwahoddiad hi, yn galw i'w gweld hi cyn iddi farw?
Os rwy'n deall yn iawn; mae disgyblion lefel-A ysgolion Cymru (rhai ohonyn nhw o leia) yn cael eu cyflyru i feddwl taw'r hyn sy'n bwysig yw nofelau y mae darllenwyr yn eu hoffi.
Hynny yw, y farchnad sy'n rheoli. Trueni. Oherwydd yr hyn sy'n bwysig o hyd yw nofelwyr sy'n sgrifennu'n dda. Rhai sy'n cadw diddordeb y darllenydd. Tan y diwedd.
Mae'r awdur hwn yn un o'r rhai prin sy'n herio ei hunan wrth sgrifennu cyn herio'r darllenydd. Er, rhaid cyfadde, roedd y paragraffau cynta'n gwneud mwy o synnwyr i mi ar 么l eu hailddarllen, ar 么l darllen y nofel i gyd. Yn sicr, fe fydda i'n ailddarllen hon am fod cymaint o gyfoeth ynddi.
Yn y gegin mae defnyn o dd诺r yn cwympo "i wacter y sinc" yn atgoffa Rhiannon fod y diwedd yn agos谩u. Hon yw'r "glec ddofn, affwysol honno i ddiddymdra".
Ond dyw'r cyfan ddim drosodd eto oherwydd mae'n gwybod yn iawn beth yw'r dewis.
"Mi es i mewn i loteri salwch a chael fy mhigo gan gansar. Ond r诺an gin i mae'r dewis: fy llorio neu gyrraedd llawnder."
Ei ddefnydd o iaith
Ychydig o bwyntiau am ei ddefnydd o iaith. Weithiau mae cyfeiriadaeth yn cryfhau ei gymariaethau, er enghraifft pan fo Rhiannon yn cael ei thriniaeth:
"Cemegau cimotherapi yn hwylio ei gwaed hi fel llongau Matholwch."
Enw'r ward yw Alaw ac wrth ochor yr afon honno y bu farw Branwen.
Weithiau mae ganddo'r ddawn i greu trosiad estynedig sy ddim yn stroclyd, er enghraifft yr un sy'n cyfleu i'r dim awydd Rhiannon i droi ei chefn ar ei hafiechyd:
"Gwyddai Rhiannon yn iawn fod canser yn nofelu ei ffordd drwy ei chorff ymhell cyn iddi weld yr un doctor. Ond yr oedd hi wedi cau'r gyfrol a'i gosod yn 么l ar shilff anwybodaeth." Fe ges i flas mawr ar hwn.
Ei hoff ddyfais
Dwi'n amau taw ei hoff ddyfais yw'r paradocs am ei fod yn cyfeirio at fyd sy'n hurt ac yn llawn gwrthddywediadau. Ife dirfodwr yw'r awdur?
Dyma ddwy enghraifft:
Y gynta, pan yw Rhiannon yn gweld mewn cylchgrawn lun o ganser cell y fron, yn gweld "prydferthwch dif盲ol" a "dinistr tlws".
Yr ail, pan yw Rhiannon yn y fynwent, o bosib yn ceisio dofi'r bwganod: "... ymdeimlodd 芒 nid difancoll na difodiant ond 芒 Rhywbeth Angerddol oedd yn bywioc谩u ac yn dinistrio ar yr un pryd."
Nid digalon Nid nofel ddigalon mo hon: mae pelydrau ynghanol y tywyllwch. Ychydig o hiwmor a digon o ddychan.
Trawiadol yw disgrifiad Rhiannon ynghanol lansiad nofel Tom o sut mae parchusrwydd yn tagu menyw yn y Gymru gyfoes: "Ornament ydy sawl gwraig yng Nghymru ... jingl-jangyl ar fraich ei g诺r mewn digwyddiadau fel hyn ... yr ycha fi dosbarth canol Cymraeg sy'n byw yn ein rhith o Gymreictod ..." Chwa o awyr iach.
Llithro Gyda llaw, sylwais i ar ychydig o lithriadau - petai nhw yn lle petaen nhw ar dudalen 74, ffwrdd yn lle fwrdd ar dudalen 84.
Mae angen mwy o ofal.
Ga i roi un awgrym i'r wasg? Rhwymwch yn well. A'r rheswm? Ar 么l i mi ddarllen y nofel o glawr i glawr roedd y tudalennau'n datgymalu. Fel Rhiannon. Yn y diwedd.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|