麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bwystfilod Rheibus
Casgliad o anectodau difyr
  • Adolygiad Glyn Evans o Bwystfilod Rheibus. Hunangofiant Robyn L茅wis. Gwasg y Bwthyn. 拢9.95.


  • Tri pheth i'w cofio pan yn s么n am Robyn L茅wis.

    Mai 'y' sydd yn Robyn, bod yna linell fach uwchben yr 'e' yn Lewis ac mai yn nhref - nid pentref - Nefyn mae'n byw.

    Gallai anghofio un o'r pethau hyn arwain at epistol sydyn oddi wrth un o ddynion mwyaf aml-lythyrog Cymru!

    Clawr y llyfr Byddai casgliad ohonyn nhw at bapurau yn amrywio o Lanw Ll欧n i 'r Telegraph yn llenwi eithaf cyfrol - a dyma fi'n dechrau gwneud gwaith comisiynydd Gwasg y bwthyn!

    Caiff y tri pheth - a'r duedd i lythyru - sylw yn y llyfr hwn.

    Tri pheth arall am Robyn L茅wis; mae'n siarad yn blaen, dydi o ddim ofn sathru cyrn neb ac mae wrth ei fodd cael ei enw yn y papur - neu felly yr ymddengys.

    A dyma'r hunangofiant.
    Digon diniwed
    Does dim amheuaeth na fydd y cyfuniad o'r enw Robin Lewis - jyst jocian! - a'r teitl Bwystfilod Rheibus yn symud sawl copi oddi ar y silffoedd gyda'r disgwyl yn eiddgar i weld pwy yw'r bwystfilod a gaiff eu pigo'n ysgafn gan ei binsel finiog.

    Ond bydded rhybudd - dyfais werthu ydi'r teitl ac mae'r eglurhad y tu 么l iddo yn ddigon diniwed, os difyr, ond mae rhywun yn meddwl tybed na fyddai "Hurtrwydd Ysbrydoledig" wedi bod gystal pennawd i gofiant y g诺r lliwgar hwn.

    Dyna ei gyfieithiad ef ei hun o ddyfyniad allan o adolygiad pryfoclyd gan Hywel Teifi Edwards o'i lyfr pryfoclyd A Oes Heddwch.

    Wrth adolygu cyfeiria Hywel Teifi at "flashes of inspired daftness tymor Robyn L茅wis yn Archdderwydd ac rydw i'n rhyw amau fod y cyn Archdderwydd wedi cymryd at y disgrifiad goleuedig yna ac mae'r fflachiadau hynny yn bywiogi ac yn goleuo'r gyfrol hon drwyddi draw - fel ag y bu iddyn nhw fywiogi bywyd yr hunangofiwr ei hun!

    Mwy na daftness!
    Ond nid 'daftness' fu popeth wrth gwrs gan eich bod yn s么n hefyd am ddyn a balodd yn hir ac yn ddwfn yn helaethu'r defnydd o'r Gymraeg yn llysoedd Cymru er enghraifft.

    Yn wir, byddai ei eiriadur termau cyfreithiol wedi bod ynddo'i hun yn gyfraniad oes a roddai bob hawl i'r awdur orffwys ar ei rwyfau wedyn.

    Bu'n llenydda hefyd gan ennill y Fedal Ryddiaith; bu'n gwleidydda ac ni all neb wadu mai ef 芒 dorrodd fwlch yn y mur a alluogodd Dafydd Wigley i gamu drwyddo i gynrychioli Arfon yn y Senedd yn Llundain..

    Ac nid y lleiaf o rinweddau rhestr ar flaen y gyfrol hon o ugain o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo yw eu hamrywiaeth.

    A chan fod naws hunangofiannol i rai ohonynt dim rhyfedd i'r awdur betruso pan y'i gwahoddwyd gan Wasg y Bwthyn i lunio y cofiant diweddaraf hwn gan yr ofnai nad oedd rhagor i'w ddweud.

    "Yr oeddwn o'r farn fy mod i wedi gwasgu cymaint o sudd o'r ffrwyth fel nad oedd dim a fyddai at ddant neb ar 么l," meddai cyn mynd ar arch y wasg i gribino'i gof am ragor o atgofion.

    Ac yr oedd hi yn amlwg yn delyn o gribin a ddefnyddiwyd ganddo gan iddi dynnu dros 200 o ddalennau i'r rhenciau!

    Rhannu'r blynyddoedd
    Mae'n rhannu ei fywyd yn gowleidiau hwylus o flynyddoedd gan gychwyn yn 1929 a gorffen yn y blynyddoedd wedi 2000.
    Yn y canol mae tocyn o luniau yn darlunio'r blynyddoedd hynny.

    Ond ar wah芒n i'r penodau cyntaf dydi'r gyfrol ddim yn hunangofiant yng ngwir ystyr y gair ond yn gasgliad difyr ac amrywiol o straeon ac anectodau.

    A chan ei fod yn ymwybodol mai pechod mwyaf yr hunangofiannydd yn aml iawn yw brolio ei hun mae wedi sicrhau ddogn o straeon 'yn ei erbyn ei hun' ac sy'n feirniadol ohono.

    Mae'n cyfaddef, er enghraifft, mai mater o gywilydd mawr iddo oedd ymaelodi 芒'r lluoedd arfog a gwisgo "lifrai Si么r VI, Brenin Lloegr".

    Cythraul mewn croen
    Do, "fe wneuthum bethau na ddylwn fod wedi'u gwneud. Megis bod yn gythraul bach mewn croen," meddai - a hynny'n ein hatgoffa o gofiant ei olynydd, Selwyn Iolen, a fu hefyd yn 'hogyn drwg' heb ei ail pan yn fachgen.

    Beth ydio gyda hogiau drwg eu bod nhw'n gwneud cystal archdderwyddon?
    Efallai y dylem gael cystadleuaeth - pwy yw'r archdderwydd mwyaf drygionus!

    Cynnwys y gyfrol hon gymaint o straeon bach da mae'n anodd gwybod lle i ddechrau dyfynnu a da o beth mai digon i adolygydd yw annog pawb i ddarllen cyfrol hawdd iawn ymgolli ynddi - a dychwelyd ati ar 么l ei rhoi i lawr.

    Ac fe gewch hefyd y gwir am hanes yr helynt dwyn bws chwedlonol hwnnw yn Aberystwyth.

    Nid pob lleidr bws ddaeth yn archdderwydd - heb s么n am ei ddyrchafu'n Ddirprwy Farnwr hefyd!



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy