Nid yn annisgwyl hanes brwydr ryfeddol Bryan 'Yogi' Davies yn dilyn ei ddamwain erchyll ar gae rygbi sydd ar ben rhestr y llyfrau mwyaf poblogaidd ar drothwy'r Nadolig.
Fel y dywed ein hadolygydd Lowri Rees Roberts mae'n llyfr a fydd yn ysbrydoliaeth i eraill gyda'i gymysgedd o'r lleddf a'r llon.
Hunangofiant sy'n ail ar y rhestr hefyd - un y darlledwr Arfon Haines Davies, Mab y Mans
Trydydd hunangofiant ar y rhestr ydi'r un â sgrifennodd y pêl-droediwr Malcolm Allen gyda Geraint 'Set y Gornel' Jones gydag arddull y gŵr o Drefor yn drwm ar y gyfrol.
Nofel hunangofiannol ydi cyfrol Eigra Lewis Roberts, Hi a Fi y trydydd llyfr ar y rhestr.
mae nofel gan Cefin Roberts hefyd, Cymer y Seren a a nofelau gan Catrin Dafydd a Siân Owen.
Y llyfr crandiaf, heb os, ydi Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw yng Nghymru gan John Davies a lluniau gan Marian Delyth - un o bresantau gorau'r Nadolig hwn i'r sawl sydd am greu argraff!
Cyfrol ddifyr yw un ddiweddaraf Alan Llwyd - hanes Hedd Wyn gyda'r lluniau'n cynnwys rhai o'r ffilm S4C a sgriptiwyd gan Alan.
Nid pawb, fodd bynnag, fydd yn hapus â'r fformat dwyieithog ond hyd yn oed wedyn dyw'r pris ond yn £7.95.
- Yogi - Mewn Deg Eiliad, Hunangofiant Bryan Davies, Bryan Davies (Y Lolfa) 9781847711854 £9.95
- Mab y Mans - Hunangofiant Arfon Haines Davies, Arfon Haines Davies (Y Lolfa) 9781847711878 £9.95
- Hi a Fi, Eigra Lewis Roberts (Gwasg Gomer) 9781848510609 £7.99
- Cymer y Seren, Cefin Roberts (Gwasg Gwynedd) 9780860742579 £8.95
- Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cofi, Dewi Rhys (Y Lolfa) 9781847711885 £3.95
- Malcolm Allen - Hunangofiant, Malcolm Allen (Y Lolfa) 9781847711861 £9.95
- Stori Hedd Wyn/The Story of Hedd Wyn, Alan Llwyd (Barddas) 9781906396206 £7.95
- Y Tiwniwr Piano, Catrin Dafydd (Gwasg Gomer) 9781843239000 £7.99
- Cymru - Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw, John Davies, Marian Delyth (Y Lolfa) 9781847711960 £19.95
- Mân Esgyrn, Siân Owen (Gwasg Gomer) 9781848511507 £7.99
LLYFRAU PLANT
- Tomos a'i Ffrindiau: Tomos, W. Awdry (Rily Publications) 9781904357100 £2.99
- Tomos a'i Ffrindiau: Pyrsi, W. Awdry (Rily Publications) 9781904357124 £2.99
- Tomos a'i Ffrindiau: James, W. Awdry (Rily Publications) 9781904357117 £2.99
- Cerddi Cyntaf, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845270551 £6.95
- Croeso i'n Cragen, Julia Donaldson (Rily Publications) 9781904357087 £5.99
- Sali Mali a Ci Bach Neb - Llyfr Cyffwrdd a Theimlo, Dylan Williams (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120832 £4.99
- Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Deall Geiriau/Understanding Words, Elin Meek (Gwasg Gomer) 9781843232759 £4.99
- Lewsyn Lwcus: Y Goets Fawr, Goscinny (Dalen) 9780955136641 £9.99
- Helpwch eich Plentyn/Help Your Child: Adnabod Llythrennau/Learning About Letters, Elin Meek (Gwasg Gomer) 9781843232742 £4.99
- Tractor Swnllyd Smot, Eric Hill (Gwasg Gomer) 9781843239864 £7.99