Adolygiad Gwilym Owen o Malcolm Allen - Hunangofiant gyda Geraint Jones. Lolfa. £9.95.
Cyfrol am glamp o gymeriad o Ddeiniolen ydi hon. Hogyn o Lanbabo a ddringodd i fod yn seren ffurfafen y byd pêl-droed yn rhai o brif glybiau Lloegr yn ogystal ag ennill ei le yng ngharfan Cymru.
Ond ar yr un pryd fe'i cafodd ei hun mewn pob math o drafferthion. Yn ôl ei dystiolaeth ei hun methodd reoli, Y Boced, Y Botel a'e Balog!
A fo ydi'r cyntaf i syrthio ar ei fai - ond y fo hefyd sydd yn barod iawn i gyhoeddi y dylai gael y parch dyladwy am ei allu fel chwaraewr i glwb a gwlad.
A'r pendilio yma rhwng y gwych a'r gwachul yn ei fywyd sy'n gwneud yr hunangofiant hwn yn un gwerth ei ddarllen.
Unigrwydd a hiraeth
Pêl-droed oedd popeth i Malcolm yn nyddiau ysgol. Mae'n cyfaddef fod y gêm yn obsesiwn iddo ac yn 16 oed fe'i cafodd ei hun yng nghlwb Watford ac mae ei ddisgrifiadau o unigrwydd a hiraeth y cyfnod hwnnw yn ddirdynnol.
Roedd 'Tyddyn Llwgfa' yn Chilcot Road, Watford, yn uffern ar y ddaear i'r hogyn bach o Lanbabo.
Roedd o'n cofio am fwyd maethlon ei fam ac yn gorfod bodloni ar ddigon o nionod i wneud Joni Nionod yn filiwnêr a digon o bys tun i wneud iddo rechan hyd Ddydd y Farn medda fo.
Ond dal ati oedd raid ac fe symudodd yn ei dro i Norwich, Millwall a Newcastle yn ogystal â chynrychioli Cymru dan Terry Yorath.
Ond daeth y cyfan i ben pan gafodd anaf difrifol yn 28 oed ac er nad oedd alcohol yn ddieithr iddo yn ystod ei yrfa aeth pethau o ddrwg i waeth wedyn.
Catalog o dorcyfraith
Ac mae'r hunangofiant yn mynd a ni drwy gatalog o dorcyfraith ac ymddangosiadau o flaen llysoedd - yn bennaf am yfed a gyrru.
Collodd swyddi a chwalodd ei briodas ond llwyddodd i gadw cysylltiad agos â'i blant.
Bellach, mae'n un o sylwebwyr praffaf y bêl-droed ac yn cael gwaith rheolaidd ar S4C a Radio Cymru.
Ac mae'n ymddangos ei fod wedi torri rhych arbennig iddo'i hun oherwydd i'r rhai hynny ohonom sy'n ei wrando a'i wylio ar y cyfryngau does dim dadl nad oedd Malcolm Allen yn un o'r dadansoddwyr gorau o'r gêm yn yr iaith Gymraeg.
Eto i gyd, yr hyn sy'n dod i'r amlwg yn y gyfrol emosiynol hon ydi'r teimlad fod y boi bach o Lanbabo yn dal i deimlo fod ganddo gyfraniad pellach i'w wneud i ddatblygiad ei gêm obsesiynol. Yn y dyfodol, yn arbennig yng Nghymru efallai. Daw un peth yn gwbl glir sef nad oes ganddo lawer o barch at John Toshak a'i ddulliau o arwain tîm Cymru y dwthwn hwn.
Peri gofid
Do, mi wnes i fwynhau darllen y catharsis yma gan y dadansoddwr deallus a direidus o Ddeiniolen a dim ond un peth sy'n peri gofid imi am y cyhoeddiad.
Tybed ai doeth oedd cyflwyno profiadau Malcolm fel petai'n siarad mewn iaith mor goeth ac yn swnio fel petai yn dod yn syth o ffynnon eiriol Sêt y Gornel?
Does dim o'i le yn yr arddull honno, wrth gwrs. A dweud y gwir mae'n apelio'n fawr ata i.
Ond dowch, dowch, onid camgymeriad oedd ei rhoi yng ngenau pêl-droediwr ifanc sy'n cyfaddef ei fod yn dal i weithio ar gywiro ei Gymraeg?
A dyma ddyfyniad sy'n crisialu'r cam gwag ar ei waethaf pan yw Malcolm Allen ar fin gadael Millwall "a throi fy ngolygon am y gogledd, am dywysogaeth Brynaich ar gyrion teyrnasoedd Rheged a Gododdin yr hen Ogledd gynt ac am Newcastle United, un o glybiau pêl-droed enwoca'r byd."
Ac mae cam gwacach fyth yn y paragraff olaf un o dan y pennawd Pen y Bryniau.
Ymhob camp mae rhemp, medden nhw.
Ond camau gwag neu beidio mi gefais i flas ar ddarllen hunangofiant Malcolm Allen a dwi'n siŵr y byddai Gwenlyn Parry, un arall o gewri Deiniolen, wrth ei fodd yn pori drwy'r gyfrol hefyd ac fel minnau yn canmol ac yn cydymdeimlo!