Adolygiad Lowri Rees Roberts o Yogi - Mewn Deg Eiliad. Hunangofiant Bryan Davies. Y Lolfa. £9.95.
Hunangofiant dirdynnol chwaraewr rygbi a barlyswyd mewn gêm i dîm Y Bala. "Un o straeon tristaf ac anoddaf y byd rygbi yn y blynyddoedd diwethaf."
Dwi'n cofio'r diwrnod fel ddoe, y diwrnod y bu i 'Yogi' frifo yn ddifrifol ar y cae rygbi ynm Maes y Gwyniaid, Y Bala.
Y diwrnod du hwnnw i bawb yn yr ardal.
Bellach, mae hanes y diwrnod ynghyd â hanes bywyd y gŵr arbennig yma o'r Bala rhwng dau glawr.
Yn wir, gyda chymorth yr awdur Elfyn Pritchard gall bawb ddarllen hanes deng eiliad dyngedfennol Yogi.
Ac yn wir byddwch angen llond bocs o hancesi tra'n darllen nid yn unig ar gyfer y lleddf a'r trist sy'n rhan o'r stori ond hefyd y dagrau chwerthin am y straeon doniol sydd yn siŵr o achosi poen yn eich bol wrth ichi chwerthin gymaint.
Ei gêm olaf
Mae'r cefndir yn gyfarwydd. Wedi i Yogi fod yn chwarae rygbi i glwb Y Bala am dros ugain mlynedd, yn 49 oed penderfynodd mai'r gêm yn erbyn yr hen elynion, Nant Conwy, fyddai ei un olaf a rhoddwyd iddo'r anrhydedd o fod yn gapten am y dydd.
Wedi arwain y tîm ar y cae yn llawn balchder, daeth tro ar fyd yn eiliadau cyntaf y gêm dymchwelodd sgrym a thorrwyd gwddf Yogi.
Wrth lansio'r llyfr yr wythnos diwethaf dywedodd Yogi ei fod yn cofio'r deng eiliad honno a wynebu'r dewis a oedd o am fyw neu farw?
"Ac mi benderfynais yn y fan a'r lle fy mod am fyw a does dim troi nôl o'r penderfyniad hwnnw wedyn," meddai.
Penderfynodd roi ei fywyd i lawr ar bapur er mwyn eraill hefyd, meddai.
"Gall beth ddigwyddodd i mi fod yn ysbrydoliaeth i eraill ac os caiff rhywun ysbrydoliaeth o'r llyfr yma mi fyddai'n hapus iawn," meddai.
Ychwanegodd ei ddiolch i bawb yn lleol ac yn Genedlaethol a fu'n ei helpu ym mhob ffordd ac sydd yn parhau i fod yna ar gael iddo heddiw.
"Roedd na tua pymtheg yn dod i fy ngweld bob wythnos. Pethau felna sydd wedi fy nghadw i fynd a dwi'n ddiolchgar am yr holl waith sydd wedi ei neud yma yn lleol," ychwanegodd.
Sgrifennu'r llyfr yn fraint
Diolchodd sgrifennwr y llyfr, Elfyn Pritchard, i'r Lolfa am roi'r cyfle iddo ef gael cydweithio ag un mor arbennig â Yogi.
"Mae cael ysgrifennu'r hunangofiant yma wedi bod yn fraint," meddai.
"Cefais ymweld â Yogi yn ei gartref 26 o weithiau a dros y cyfnod yma dwi di bod â pherthynas agos iawn â'r teulu i gyd.
Yn dilyn y ddamwain ar y cae rygbi treuliodd Yogi ddwy flynedd yn derbyn gofal dwys mewn ysbytai gwahanol gan gynnwys uned arbennig yn Southport.
Wedi ei barlysu yn llwyr o'i wddf i lawr, mae bellach wedi dychwelyd adre ble mae'n ddibynnol ar beiriannu i'w helpu i anadlu ac i'w gadw'n fyw. Mae'r gyfrol, Yogi- Mewn deg eiliad yn dilyn ei hanes wedi'r ddamwain gan gofnodi ei ei boen, ei driniaethau a'r frwydr i gael dod adref.
Yn ychwanegol at hynny mae'n bwrw golwg yn ôl dros ei fywyd lliwgar o ddyddiau plentyndod yng Nghorwen, drwy ei lencyndod a sawl tro trwstan
Cyn y ddamwain, fel chwaraewr rygbi brwd yr oeddwn i'n adnabod Yogi ac wrth gwrs fel tad arbennig iawn gan ei fod yn gefnogol i holl weithgareddau'r plant.
Dipyn o rebel
Ond wrth ddarllen y llyfr deuthum i adnabod hefyd dipyn o rebel! Ac er gwaethaf dwyster ei amgylchiadau mae yna dipyn o chwerthin hefyd wrth ddarllen am ei ystrywiau yn ystod ei lencyndod.
Yn ogystal â rygbi bu Yogi hefyd yn chwaraewr pêl-droed brwd ac mae sawl stori am helbulon y tîm hwnnw hefyd gan gynnwys noson o gwffio mewn clwb nos yn Llandudno!
Ceir hefyd atgofion ffraeth am ymdrechion Yogi yn mercheta, ei drybini gyda'r heddlu a sawl digwyddiad digrif gyda'r tîm rygbi.
"Mi ddaeth hogia'r coed i wybod mod i'n canlyn plismones a finne wedi bod yn rasio'r heddlu a phethe felly.
"Roedd gen i Gortina melyn lliw pibo llo bryd hynny a be wnaethon nhw un pnawn ond ei sbreio efo paent pinc llachar . . . oedd yn dangos yn y nos, y geirie Yogi loves PC Sue ar y bonet, y to a'r ochre.
"Mi fues i'n dreifio'r car am rhyw dri ne bedwar mis ar ôl hynny ond ddaeth y paent ddim i ffwrdd."
Syfrdanu a gwefreiddio
Ond hanes ei frwydr wedi'r ddamwain sy'n syfrdanu ac yn gwefreiddio ac yn sobri rhywun.
Rhannwyd pob pennod yn dair: yn y rhan gyntaf cawn hanes y ddamwain a'i frwydr ddyddiol i fyw yng ngeiriau Yogi ei hun.
Yn yr ail ran ceir hanes ei fagwraeth, ei blentyndod ac wrth gwrs yr hanesion doniol.
Ei wraig Susan sy'n siarad yn y drydedd ran gan olrhain yr hyn sydd wedi digwydd i Yogi yn dilyn y ddamwain a hefyd ei gorchest hithau i gael ei gŵr adref.
Y plant
Yn y gyfrol hefyd fe gawn glywed gair gan y plant Ilan a Teleri wrth iddynt ymdopi â'u newid byd anorfod hwythau.
Heb os, mae hwn yn llyfr fydd yn newid eich agwedd at fywyd ac yn sicrhau na fyddwch chi byth eto yn cwyno am y pethau bychain hynny sydd ddim gwerth cwyno amdanynt mewn cymhariaeth.
Mae'n llyfr i amrywiaeth gyda'r eangaf o ddarllenwyr wedi ei ysgrifennu yn syml a darllenadwy.
Yn bendant mae'n llyfr a ddylai fod ym mhob hosan Nadolig hwn. Hunangofiant gwych sy'n bownd o'ch cyffwrdd.
Fel y dywed Ilan y mab: "Un peth oedd yn gneud imi deimlo dipyn bach yn genfigennus ar y dechrau oedd gweld tade plant erill yn gallu dod â nhw i'r rygbi a neb efo fi. Dad fydde'n arfer dod wastad."
Na, nid hunangofiant un gŵr a geir yma ond hanes teulu cyfan wedi i brynhawn Sadwrn cyffredin ym mis Ebrill droi bywyd yn hunllef mewn eiliadau - ac yn her a wynebwyd gyda dewrder.