- Enw:
Sian Owen. -
Beth yw eich gwaith?
Cyfieithu a golygu, a bod yn fam i dri o blant yn eu harddegau -
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cynhyrchydd radio, golygydd llyfrau gwyddonol i CBAC. -
O ble'r ydych chi'n dod?
Cefais fy ngeni yn Llanuwchllyn, ond symudodd y teulu i Sir Fôn pan oeddwn yn bump oed. -
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Marian-glas, ym Môn. -
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Rydw i ar ganol PhD felly rwy'n dal i'w fwynhau! Ddylai neb roi'r gorau i ddysgu. -
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Awydd gweld fedrwn i. -
Wnewch chi ddweud ychydig amdano?
Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed, sy'n symud yn ôl i'r dref lle cafodd ei magu ym Môn. Yno mae'n ailgwrdd â Helen sy'n gweithio yn y gwaith cemegol lleol, a Luc, archeolegydd.
Mae'r stori yn digwydd dros un penwythnos ar ddechrau'r haf, gyda digwyddiadau Gŵyl y Llychlynwyr yn y dref yn gefndir i'r cyfan. Yn ystod y tridiau rydych chi'n dod i adnabod y cymeriadau, eu teuluoedd, eu perthynas â'i gilydd, ac i ddeall y gorgyffwrdd rhwng ddoe a heddiw. Nid yr hyn a dybiwn ar yr olwg gyntaf yw'r gwirionedd, bob tro... -
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma fy nofel gyntaf. -
Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Roeddwn i'n llyncu llyfrau. Llyfrau'r Famous Five, Swallows and Amazons, Deg i Dragwyddoldeb, Cyfres y Llewod... -
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Byth. -
Pwy yw eich hoff awdur?
Anodd iawn! Mae'n dibynnu ar fy hwyliau. Umberto Eco, Annie Proulx, Richard Feynman, Michael Connolly... -
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mi wnaeth fy mam gyhoeddi dwy nofel i blant, ers talwm iawn. Roedd hynny'n gwneud ysgrifennu llyfr yn bosibilrwydd real i minnau, erioed. -
Pwy yw eich hoff fardd?
Beirdd tîm y Tir Mawr ar Y Talwrn. -
Pa un yw eich hoff gerdd?
Mae hynny fel gofyn pa un yw eich hoff blentyn! -
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
What is this life if, full of care, We have no time to stand and stare - W.H. Davies. -
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Little Miss Sunshine.
Rhaglen deledu: House, West Wing, Rownd a Rownd (achos bod fy mab yn actio ynddi!) -
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Jean, y ffotograffydd yn The Weight of Water, Anita Shreve
Cas gymeriad: unrhyw gymeriad sydd wedi'i sgwennu'n arwynebol, fel na alla' i gredu ynddo neu ynddi. -
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Deuparth gwaith... -
Pa un yw eich hoff air?
Rhyngom. -
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Paentio portreadau efo paent olew trwchus fel Lucien Freud. -
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Chwilfrydig, penderfynol, triw. -
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Bod angen her newydd o hyd. -
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Yr hen beirianwyr - y rhai gododd y cestyll a'r eglwysi cadeiriol, y pyramidiau a chaerau'r Astec heb gymorth peiriannau modern. -
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Ar y cwrt sboncen lle digwyddodd yr adwaith cadwynol niwclear dan reolaeth cyntaf erioed, yn Chicago yn 1942. -
Pa berson 'hanesyddol' hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ferrà n Adriá, perchennog bwyty enwog el Bulli ar gyrion Barcelona. Mae'n rhaid trefnu flynyddoedd ymlaen llaw yno, felly mi fuaswn yn gofyn: Plîs ga' i fwrdd? -
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Croesi unrhyw draeth. Dwi'n gallu meddwl dan gerdded ac mae sŵn y dŵr yn llawn syniadau. -
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasta bwyd môr a rioja da. -
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, coginio, crwydro. -
Pa un yw eich hoff liw?
Coch. -
Pa liw yw eich byd?
Niwtral efo fflachiadau lliwgar. -
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf ymfalchïo yn y pethau bychain mewn bywyd. -
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. -
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Sylweddolodd Tina mai'r hysgi oedd wedi'i deffro, ei dafod yn arw ar ei boch, ac wrth chwilio'r eira am weddill ei chŵn, diolchodd yn dawel iddo: uwchben, o'r diwedd, roedd y rhyfeddod y teithiodd mor bell i'w weld.
[Er mwyn i mi gael esgus i fynd i weld yr aurora borealis, o ran ymchwil wrth gwrs...]