Caerdydd 23-16 Penybont 15 Ebrill 2007 Llwyddodd Caerdydd i drechu Penybont 23-16 ar Heol Sardis er mwyn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Konica Minolta.
Bydd tîm y brifddinas yn wynebu Llanymddyfri yn Stadiwm y Mileniwm ar 28 Ebrill.
Llwyddodd y Drovers i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf wedi iddynt synnu Llanelli yn y rownd gynderfynol brynhawn Sadwrn.
"Mae'r potensial yna am dorf anferth yn y rownd derfynol gyda gêm gorllewin v dwyrain yng Nghaerdydd," meddai Roger Lewis o Undeb Rygbi Cymru.